eusebio a ddywedodd:Ceri, mae hi'n ffaith nad yw clybiau'r gogledd yn cael esgyn ... oeddet ti ddim yn ymwybodol o hynny?
Fi'n gwybod mai dyna'r polisi sy'n bodoli nawr. O'n i braidd yn aneglur rhaid cyfaddef, son oeddwn i am pan oedd Llangefni yn chwarae yn y gynhrair cenedlaethol.
Fy nghof i o'r cyfnod yn y linc i'r bbc gan Ger27 uchod oedd bod angen mwy o arian ar dimoedd y Gogledd i fedru deithio lawr i'r De, gwrthodwyd yr arian hynny ac fe benderfynnodd Llangefni datgan i bawb mae rhyw polisi gwrth Gogleddol oedd hi.
Tua'r un pryd roedd y syniad rhanbarthol yn codi yn sgil proffesiynoldeb. Roedd nifer am weld super-clubs, sef Llanelli, Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, y pedwar traddodiadol os liciwch chi. Roedd eraill am weld system rhanbarthol yn cynrychioli rhannau daearyddol o Gymru De-Ddwyrain, De-Canol, De-Orllewin a'r Gogledd-Canolbarth. Deuwyd a Moffett mewn i geisio gorfodi'r system rhanbarthol yma.
Roedd y clybiau mawr yn, naturiol, erbyn y syniad gan y byddant yn colli'r cyfle i chwarae ar y lefel uchaf, sef Ewrop. Deuwyd i gytundeb sef cyfuno clybiau. Roedd URC mewn ychydig o dwll gan ond ychydig o flynyddoedd cynt roeddent wedi cael y clybiau oll i arwyddo cytundeb
loyalty agreement. Doedd gan Castell Nedd ddim llawer o lais gan mai URC oedd yn eu perchen, cyfunwyd Castell Nedd ag Abertawe (ag aeth mewn i
administration ar y pryd). Mynodd Llanelli a Chaerdydd hunaniaeth, ffurfiwyd y Rhyfelwyr rhwng Penybont a Phontypridd. Bu cryn ddadlau yn Gwent gan fod nifer o gefnogwyr Casnewydd am iddynt sefyll ar eu hunain fel Llanelli a Chaerdydd.
Mewn rhyw fath o
sop i'r syniad rhanbarthol dywedwyd fod Llanelli yn cynrychioli'r Gogledd hefyd, a chytunwyd chwarae ambell i gem yn y Gogledd (Wrecsam). Dyna fu'n digwydd am gyfnod, gyda Llanelli yn chwarae rhyw ddau gem yn y Gogledd. Colli arian yn y gemau yna gan fod y torfeydd braidd yn bitw (ac mae son am hysbysebu neu ddiffyg ohono wedi bod eisoes) bu hanes y gemau yma. Mae Llanelli hefyd wedi agor canolfannau rhagoriaeth yn y Gogledd, er does neb yn fodlon cydnabod y cam positif yma gan ei fod yn mynd yn erbyn y syniad fod conspirasi mawr yn erbyn y Gogledd
.
Stopiodd LLanelli chwarae gemau yn Wrecsam, gan gythruddo nifer wrth reswm, ond mewn sesiwn holi, fe ddywedodd Gallagher (prif weithredwr Llanelli) mai ar gais URC y stopiwyd y gemau yma (ac fe ddangosodd i'r sawl oedd yn bresennol lythr wrth URC i'r trywydd hwnnw) gan fod URC am gymryd cyfrifoldeb o ddatblygu rygbi yn y Gogledd. Yn ystod y cyfnod hwn wrth gwrs bu ail-drefnu ac ail-strwythuro cynghreiriau rygbi yng Nghymru. Dyma pryd y penderfynwyd byddai cynghrair i'r Gogledd heb "ddyrchafiad" i gynghrair y De. Felly o'r hyn wy'n deall, cofio ac wedi trafod gydag eraill oedd yn y cynghreiriau oedd yn chwarae yn erbyn timoedd fel Llangefni ar y pryd doedd y clybiau byth wedi gwrthod teithio i'r Gogledd.