Cymedrolwr: eusebio
okMacsen a ddywedodd:Wnes i amseru ddoe y byddai'n cymryd dwy awr yn llai i bobol Gogledd Cymru fynd i weld Peel yn chwarae yn Sale na fyddai i'w weld yn chwarae i'w 'rhanbarth nhw' yn Llanelli. O ystyried difaterwch y WRU tuag at Gogledd Cymru falle dyle ni fabwysiadu Sale fel ein clwb 'lleol'?
ceribethlem a ddywedodd:okMacsen a ddywedodd:Wnes i amseru ddoe y byddai'n cymryd dwy awr yn llai i bobol Gogledd Cymru fynd i weld Peel yn chwarae yn Sale na fyddai i'w weld yn chwarae i'w 'rhanbarth nhw' yn Llanelli. O ystyried difaterwch y WRU tuag at Gogledd Cymru falle dyle ni fabwysiadu Sale fel ein clwb 'lleol'?
CapS a ddywedodd:Dere nawr Ceri. Does dim unrhyw cynsail i gogs benderfynnu'n sydyn reit mae cefnogi timoedd o ogledd-orllwein Lloegr yn hytrach na'u gwlad nhw eu hunain yw'r ffordd i fynd.
Macsen a ddywedodd:CapS a ddywedodd:Dere nawr Ceri. Does dim unrhyw cynsail i gogs benderfynnu'n sydyn reit mae cefnogi timoedd o ogledd-orllwein Lloegr yn hytrach na'u gwlad nhw eu hunain yw'r ffordd i fynd.
Hmm, so ti'n fodlon gwadu cyfle pobol Gogledd Cymru i wylio rygbi/pel-droed da yn fyw am nad ydi nhw'n fodlon eistedd mewn car am wyth awr?
Ray Diota a ddywedodd:falle se'n well i chi jyst cefnogi'ch timau lleol, eh? chi di gweld yn ffwtbol be sy'n digwydd os nad ydech chi'n gneud...
Macsen a ddywedodd:O feddwl pa mor fach yw Cymru yn y lle cynta sa ti'n meddwl sa'r WRU eisiau datblygu'r gamp tu hwnt i stribyn tena o'r de.
'Na beth sy'n digwydd yn yr Alban.Macsen a ddywedodd:Felly tra mae gweddill Prydain yn cael mynd i wylio ser rhyngwladol yn chwarae bob penwythnos dyle'r gogs fod yn fodlon i sefyll yn y mwd yn gwylio Caernarfon RFC v Llangefni RFC ar bnawn gwlyb? .
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Lle mae traean o'r boblogaeth yn byw, a'r mwyafrif o'r rheini heb ddiddordeb mewn rygbi, a heb y drafnidiaeth etc i gefnogi chwaraeon proffesiynol...
ceribethlem a ddywedodd:'Na beth sy'n digwydd yn yr Alban.
Macsen a ddywedodd:Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Lle mae traean o'r boblogaeth yn byw, a'r mwyafrif o'r rheini heb ddiddordeb mewn rygbi, a heb y drafnidiaeth etc i gefnogi chwaraeon proffesiynol...
Wela'i ddim rheswm pam na all Gogledd Cymru gynnal tim rygbi proffesiynol. Sa ti'n sticio stadiwm jesd off yr A55, yn Llandudno Junction (sydd eisoes yn delu miloedd i'w sinema 15 sgrin) fydde pawb yng Ngogledd Cymru yn medru cyraedd yno mewn llai nag awr mewn car neu ar y tren. Dyna 700,000 o bobol o fewn cyraedd hawdd.
Digon teg dweud nad oes gan y mwyafrif o bobol yno ddiddordeb mewn rygbi, ond sut mae disgwyl iddyn nhw fod a diddordeb os nad os rygbi yno i'w wylio? Y rheswm mae pel-droed mor boblogaidd yn y gogledd ydi bod clybiau mawr o fewn cwta awr. Ac mae diddordeb pobol y gogledd mewn rygbi yn llawer uwch nag y mae pobol yn dweud.ceribethlem a ddywedodd:'Na beth sy'n digwydd yn yr Alban.
Lle mae rygbi wir yn ffynnu ar y funud. Fel mae pethau heddiw dyw ryw gwt iar o stadiwm gyda chae mwdlyd ddim yn mynd i ddenu torfeydd, dyna pam bod clybiau'r de yn disgyn dros ei gilydd i adeiladu stadiwms newydd.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai