eusebio a ddywedodd:Mae gen i ofn fod dy gof yn un dryslyd iawn Ceri.
Llynedd 'da ni'n sôn madano ... tymor 2007/08 ... dyna pa bryd cafodd Llanelli eu gorfodi i ddisgyn yn ôl i Adran 4 a hynny er eu bod wedi gwneud digon da i esgyn i Adran 2.
Ai, nes i ddim ddarllen dyddiad yr erthygl yn ofalus
O'n i'n meddwl am gyfnod ychydig flynyddoedd ynghynt. Yn hynny o beth dwi'n anghywir. Mae'n wir fod URC wedi dweud na fydd gemau cynghreiriol rhwng timoedd o'r De a'r Gogledd, ond mae hynny'n wahanol i ddweud fod timau'r De yn gwrthod chwarae timau'r Gogledd.
eusebio a ddywedodd:Mae URC wedi datgan na fydd unrhyw glwb o Adran 4 y Gogledd byth yn cael dyrchafiad i Adran 3 (Gorllewin a Dwyrain) bellach.
Do, sy'n plethu mewn gyda phenderfyniad URC i gymryd cyfrifolddeb y Gogledd wrth Llanelli, fel dywedodd Gallagher. Mae'r URC gyda chynlluniau i ddatblygu rygbi yn y Gogledd. Pwy a wyr beth yn union yw'r datblygiadau yma.
eusebio a ddywedodd:Roedd sawl achlysur yn ystod dau dymor langefni yn Adran 3 lle na chafwyd sgryms cystadleuol gan nad oedd timau'r de wedi teithio gyda'r nifer cymwys o brops
Mae gemau Adran 3 yn amal yn digwydd heb chwareuwyr yn eu safleoedd penodol. Dwi 'di chwarae mewn nifer o gemau lle byddai cefnwyr yn chwarae yn y pac, neu blaenwyr yn y cefn. Nes i chwarae ambell i gem ar yr asgell hyd yn oed
. Y gwahaniaeth gyda'r rheng flaen yw'r rheolau iechyd a diogelwch sy'n mynnu fod rhaid cael aelod greddfol o'r rheng flaen i chwarae yno, neu bydd dim sgrym cystadleuol.
Y broblem fan hyn yw'r ffaith fod y chwareuwyr ar y lefel yma'n rhai amatur, a nifer ohonyn nhw'n gweithio ar ddydd Sadwrn. Mae'n llawer haws iddynt gael cyfnod oddi ar eu gwaith i chwarae gemau cyfagos nac ydyw i chwarae ym mhellach i ffwrdd, mae'n fwy tebyg felly y bydd llai o sgwad yn medru teithio lan i Langefni, ac yn sgil hynny mwy tebyg y byddai prop/bachwr ar goll. Dyw hwnna ddim yn golygu eu bod yn erbyn y syniad o chwarae yn y Gogledd, ond bod logistics y peth yn anodd.
eusebio a ddywedodd:... gwrthododd tîm o'r de a theithio i fyny i Langefni ar gyfer rownd gynderfynol y Cwpan Rhanbarthol a hynny ar noson fawr lle roedd Llangefni yn dadorchuddio eu llifoleadau newydd ...
Dwi'n cofio son am gem yn y Gogledd lle bu cawlach yn y trefniadau, ac fod y gem wedi cael ei aildrefnu, ac ond un o'r timoedd yn gwybod y dyddiad newydd. Mae'n bosib mai dyma'r gem dan sylw. Byddai'n trial ffeindio manylion am y gem dwi'n meddwl amdani.