eusebio a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd:eusebio a ddywedodd:Ger27 a ddywedodd:Mae'n ymddangos bod gan URC gystadleuaeth gan Sale Sharks yn y Gogledd beth bynnag.
Wythnos diwethaf, roedd diwrnod agored gan y Sale Sharks yng Nghwb Rygbi Nant Conwy: Siarcod Nant Conwy
Mi wn hefyd am amryw o chwaraewyr ifanc o'r Gogledd sy'n chwarae i dimau ieuenctid y Siarcod.
wedi i Langefni cael eu gorfodi i ddisgyn yn ôl i Adran 4 fe adawodd nifer o'u chwaraewyr - mae sawl un, yn ôl pob sôn, wedi mynd dros y ffîn i chwarae.
Yn bersonol dio ddiawl o ots gen i sut hwyl mae timau rygbi'r gogledd yn ei gael ond mae gan URC ddiawl o cheek i alw rygbi'n gêm genedlaethol a "heartbeat of the nation" pan nad ydy nhw'n caniatau i glybiau pob rhan o Gymru fod yn rhan o'u cynghreiriau "cenedlaethol".
O'n i'n tybio faint o amser tan i'r outburst bach 'ma ddod!
Wel dyna yw gwir wraidd y ddadl a dyna pam mae'r sop pathetig 'ma o "dîm datblygol" wedi dod
Yn hynny o beth fi'n cytuno, sop pathetig yw'r syniad o dîm datblygol. Rhaid gweld os oes digon o alw am y peth cyn taflu arian ato fe. Dyw atal timoedd y Gogledd rhag esgyn ddim yn mynd i ganiatau hyn. Ddylai bod level playing field i weld os mae'n bosib i gynnal tim proffesiynol yna yn hytrach na son am greu un achos fod "digon" o boblogaeth yna i gynnal tim. Nonsens yw dweud fod galw achos bod ambell un yn galw amdano.