Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan eusebio » Mer 27 Awst 2008 6:00 pm

Mae gen i ofn fod dy gof yn un dryslyd iawn Ceri.
Llynedd 'da ni'n sôn madano ... tymor 2007/08 ... dyna pa bryd cafodd Llanelli eu gorfodi i ddisgyn yn ôl i Adran 4 a hynny er eu bod wedi gwneud digon da i esgyn i Adran 2.
Mae URC wedi datgan na fydd unrhyw glwb o Adran 4 y Gogledd byth yn cael dyrchafiad i Adran 3 (Gorllewin a Dwyrain) bellach.
Roedd sawl achlysur yn ystod dau dymor langefni yn Adran 3 lle na chafwyd sgryms cystadleuol gan nad oedd timau'r de wedi teithio gyda'r nifer cymwys o brops ... gwrthododd tîm o'r de a theithio i fyny i Langefni ar gyfer rownd gynderfynol y Cwpan Rhanbarthol a hynny ar noson fawr lle roedd Llangefni yn dadorchuddio eu llifoleadau newydd ...
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan ceribethlem » Mer 27 Awst 2008 7:20 pm

eusebio a ddywedodd:Mae gen i ofn fod dy gof yn un dryslyd iawn Ceri.
Llynedd 'da ni'n sôn madano ... tymor 2007/08 ... dyna pa bryd cafodd Llanelli eu gorfodi i ddisgyn yn ôl i Adran 4 a hynny er eu bod wedi gwneud digon da i esgyn i Adran 2.
Ai, nes i ddim ddarllen dyddiad yr erthygl yn ofalus :wps: O'n i'n meddwl am gyfnod ychydig flynyddoedd ynghynt. Yn hynny o beth dwi'n anghywir. Mae'n wir fod URC wedi dweud na fydd gemau cynghreiriol rhwng timoedd o'r De a'r Gogledd, ond mae hynny'n wahanol i ddweud fod timau'r De yn gwrthod chwarae timau'r Gogledd.

eusebio a ddywedodd:Mae URC wedi datgan na fydd unrhyw glwb o Adran 4 y Gogledd byth yn cael dyrchafiad i Adran 3 (Gorllewin a Dwyrain) bellach.
Do, sy'n plethu mewn gyda phenderfyniad URC i gymryd cyfrifolddeb y Gogledd wrth Llanelli, fel dywedodd Gallagher. Mae'r URC gyda chynlluniau i ddatblygu rygbi yn y Gogledd. Pwy a wyr beth yn union yw'r datblygiadau yma.

eusebio a ddywedodd:Roedd sawl achlysur yn ystod dau dymor langefni yn Adran 3 lle na chafwyd sgryms cystadleuol gan nad oedd timau'r de wedi teithio gyda'r nifer cymwys o brops
Mae gemau Adran 3 yn amal yn digwydd heb chwareuwyr yn eu safleoedd penodol. Dwi 'di chwarae mewn nifer o gemau lle byddai cefnwyr yn chwarae yn y pac, neu blaenwyr yn y cefn. Nes i chwarae ambell i gem ar yr asgell hyd yn oed :lol: . Y gwahaniaeth gyda'r rheng flaen yw'r rheolau iechyd a diogelwch sy'n mynnu fod rhaid cael aelod greddfol o'r rheng flaen i chwarae yno, neu bydd dim sgrym cystadleuol.
Y broblem fan hyn yw'r ffaith fod y chwareuwyr ar y lefel yma'n rhai amatur, a nifer ohonyn nhw'n gweithio ar ddydd Sadwrn. Mae'n llawer haws iddynt gael cyfnod oddi ar eu gwaith i chwarae gemau cyfagos nac ydyw i chwarae ym mhellach i ffwrdd, mae'n fwy tebyg felly y bydd llai o sgwad yn medru teithio lan i Langefni, ac yn sgil hynny mwy tebyg y byddai prop/bachwr ar goll. Dyw hwnna ddim yn golygu eu bod yn erbyn y syniad o chwarae yn y Gogledd, ond bod logistics y peth yn anodd.

eusebio a ddywedodd:... gwrthododd tîm o'r de a theithio i fyny i Langefni ar gyfer rownd gynderfynol y Cwpan Rhanbarthol a hynny ar noson fawr lle roedd Llangefni yn dadorchuddio eu llifoleadau newydd ...

Dwi'n cofio son am gem yn y Gogledd lle bu cawlach yn y trefniadau, ac fod y gem wedi cael ei aildrefnu, ac ond un o'r timoedd yn gwybod y dyddiad newydd. Mae'n bosib mai dyma'r gem dan sylw. Byddai'n trial ffeindio manylion am y gem dwi'n meddwl amdani.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan eusebio » Mer 27 Awst 2008 10:23 pm

ceribethlem a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:Mae URC wedi datgan na fydd unrhyw glwb o Adran 4 y Gogledd byth yn cael dyrchafiad i Adran 3 (Gorllewin a Dwyrain) bellach.
Do, sy'n plethu mewn gyda phenderfyniad URC i gymryd cyfrifolddeb y Gogledd wrth Llanelli, fel dywedodd Gallagher. Mae'r URC gyda chynlluniau i ddatblygu rygbi yn y Gogledd. Pwy a wyr beth yn union yw'r datblygiadau yma.

Sut mae rhwystro timau'r gogledd rhag cael dyrchafiad yn gwneud unrhyw synwyr o gwbwl?
Ti'm yn meddwl ella sa hi di bod yn syniad cael y cynlluniau ma yn barod cyn gwneud y penderfyniad i rwystro'r clybiau rhag cael dyrchafiad ... actiwali nid eu rhwystro rhag cael dyrchafiad yn unig mae URC wedi ei wneud on wedi gorfodi clybiau i ddisgyn yn ôl i adranau is.

Roeddwn i'n gweithio i'r Bîb pan oedd hyn yn mynd ymlaen a dwi wedi clywed sawl aelod o'r panel sy'n gyfrifol am ddatblygiad y gogledd - roedd Gerald Davies yn eu mysg - ond doedd dim byd pendant wedi ei drefnu - heblaw am orfodi'r Gosg yn ôl i'r gogledd.

ceribethlem a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:Roedd sawl achlysur yn ystod dau dymor langefni yn Adran 3 lle na chafwyd sgryms cystadleuol gan nad oedd timau'r de wedi teithio gyda'r nifer cymwys o brops
Mae gemau Adran 3 yn amal yn digwydd heb chwareuwyr yn eu safleoedd penodol. ... Mae'n llawer haws iddynt gael cyfnod oddi ar eu gwaith i chwarae gemau cyfagos nac ydyw i chwarae ym mhellach i ffwrdd, mae'n fwy tebyg felly y bydd llai o sgwad yn medru teithio lan i Langefni, ac yn sgil hynny mwy tebyg y byddai prop/bachwr ar goll. Dyw hwnna ddim yn golygu eu bod yn erbyn y syniad o chwarae yn y Gogledd, ond bod logistics y peth yn anodd.

Rhyfedd na fu rhaid i Langefni deithio heb brop i'r de ond roedd sawl clwb methu teithio i'r gogledd hefo digon o brops ...

ceribethlem a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:... gwrthododd tîm o'r de a theithio i fyny i Langefni ar gyfer rownd gynderfynol y Cwpan Rhanbarthol a hynny ar noson fawr lle roedd Llangefni yn dadorchuddio eu llifoleadau newydd ...

Dwi'n cofio son am gem yn y Gogledd lle bu cawlach yn y trefniadau, ac fod y gem wedi cael ei aildrefnu, ac ond un o'r timoedd yn gwybod y dyddiad newydd. Mae'n bosib mai dyma'r gem dan sylw. Byddai'n trial ffeindio manylion am y gem dwi'n meddwl amdani.

Dim byd i'w wneud efo ail drefnu gêm - dim ond bod y tîm arall wedi penderfynu peidio teithio - os dwi'n cofio'n iawn, nid dyma'r unig adeg i hynny ddigwydd yn y gystadleuaeth y tymor hwnnw.
Fe orfodwyd i'r Gogledd chwarae eu gemau yn Llanidloes er mwyn hwyluso pethau i dimau'r de ... LLANIDLOES?? GOGLEDD??
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan ceribethlem » Iau 28 Awst 2008 8:33 am

eusebio a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:Mae URC wedi datgan na fydd unrhyw glwb o Adran 4 y Gogledd byth yn cael dyrchafiad i Adran 3 (Gorllewin a Dwyrain) bellach.
Do, sy'n plethu mewn gyda phenderfyniad URC i gymryd cyfrifolddeb y Gogledd wrth Llanelli, fel dywedodd Gallagher. Mae'r URC gyda chynlluniau i ddatblygu rygbi yn y Gogledd. Pwy a wyr beth yn union yw'r datblygiadau yma.

Sut mae rhwystro timau'r gogledd rhag cael dyrchafiad yn gwneud unrhyw synwyr o gwbwl?
Dim syniad gyda fi pam fod URC wedi penderfynnu gwneud hyn.
eusebio a ddywedodd:Ti'm yn meddwl ella sa hi di bod yn syniad cael y cynlluniau ma yn barod cyn gwneud y penderfyniad i rwystro'r clybiau rhag cael dyrchafiad ... actiwali nid eu rhwystro rhag cael dyrchafiad yn unig mae URC wedi ei wneud on wedi gorfodi clybiau i ddisgyn yn ôl i adranau is.

Roeddwn i'n gweithio i'r Bîb pan oedd hyn yn mynd ymlaen a dwi wedi clywed sawl aelod o'r panel sy'n gyfrifol am ddatblygiad y gogledd - roedd Gerald Davies yn eu mysg - ond doedd dim byd pendant wedi ei drefnu - heblaw am orfodi'r Gosg yn ôl i'r gogledd.
'Na'r peth rhyfedd, mae'n nhw'n cymryd cyfrifoldeb am ddatblygu rygbi'r gogledd oddi ar un o'r "rhanbarthau", ond heb ddangos unrhyw gynlluniau datblygiad, tan yn ddiweddar lle mae Roger Lewis yn sydyn yn son am greu rhanbarth datblygiad yn Gogledd er bod eu cynlluniau nhw eu hunain yn golygu fod hwn yn fwy tebygol o fod yn fethiant.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan Ger27 » Iau 28 Awst 2008 8:47 am

Mae'n ymddangos bod gan URC gystadleuaeth gan Sale Sharks yn y Gogledd beth bynnag.
Wythnos diwethaf, roedd diwrnod agored gan y Sale Sharks yng Nghwb Rygbi Nant Conwy: Siarcod Nant Conwy

Mi wn hefyd am amryw o chwaraewyr ifanc o'r Gogledd sy'n chwarae i dimau ieuenctid y Siarcod.
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan ceribethlem » Iau 28 Awst 2008 9:07 am

Ger27 a ddywedodd:Mae'n ymddangos bod gan URC gystadleuaeth gan Sale Sharks yn y Gogledd beth bynnag.
Wythnos diwethaf, roedd diwrnod agored gan y Sale Sharks yng Nghwb Rygbi Nant Conwy: Siarcod Nant Conwy

Mi wn hefyd am amryw o chwaraewyr ifanc o'r Gogledd sy'n chwarae i dimau ieuenctid y Siarcod.

Ydy hwnna'n golygu y dylai fod tim rhanbarthol yn y Gogledd?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan eusebio » Iau 28 Awst 2008 9:15 am

Ger27 a ddywedodd:Mae'n ymddangos bod gan URC gystadleuaeth gan Sale Sharks yn y Gogledd beth bynnag.
Wythnos diwethaf, roedd diwrnod agored gan y Sale Sharks yng Nghwb Rygbi Nant Conwy: Siarcod Nant Conwy

Mi wn hefyd am amryw o chwaraewyr ifanc o'r Gogledd sy'n chwarae i dimau ieuenctid y Siarcod.

wedi i Langefni cael eu gorfodi i ddisgyn yn ôl i Adran 4 fe adawodd nifer o'u chwaraewyr - mae sawl un, yn ôl pob sôn, wedi mynd dros y ffîn i chwarae.

Yn bersonol dio ddiawl o ots gen i sut hwyl mae timau rygbi'r gogledd yn ei gael ond mae gan URC ddiawl o cheek i alw rygbi'n gêm genedlaethol a "heartbeat of the nation" pan nad ydy nhw'n caniatau i glybiau pob rhan o Gymru fod yn rhan o'u cynghreiriau "cenedlaethol".
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan ceribethlem » Iau 28 Awst 2008 9:18 am

:lol: O'n i'n tybio faint o amser tan i'r outburst bach 'ma ddod! :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan Mr Gasyth » Iau 28 Awst 2008 9:45 am

ceribethlem a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:
Ger27 a ddywedodd:Mae'n ymddangos bod gan URC gystadleuaeth gan Sale Sharks yn y Gogledd beth bynnag.
Wythnos diwethaf, roedd diwrnod agored gan y Sale Sharks yng Nghwb Rygbi Nant Conwy: Siarcod Nant Conwy

Mi wn hefyd am amryw o chwaraewyr ifanc o'r Gogledd sy'n chwarae i dimau ieuenctid y Siarcod.

wedi i Langefni cael eu gorfodi i ddisgyn yn ôl i Adran 4 fe adawodd nifer o'u chwaraewyr - mae sawl un, yn ôl pob sôn, wedi mynd dros y ffîn i chwarae.

Yn bersonol dio ddiawl o ots gen i sut hwyl mae timau rygbi'r gogledd yn ei gael ond mae gan URC ddiawl o cheek i alw rygbi'n gêm genedlaethol a "heartbeat of the nation" pan nad ydy nhw'n caniatau i glybiau pob rhan o Gymru fod yn rhan o'u cynghreiriau "cenedlaethol".

:lol: O'n i'n tybio faint o amser tan i'r outburst bach 'ma ddod! :winc:

Ceri, dwi didm yn deall pam dy fod mor barod i amddiffyn RUC ar hyn.

Wyt ti ddim yn meddwl ei fod yn warth nad ydi timau'r gogledd yn cael cymryd rhan llawn yn y gynghrair genedlaethol?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan eusebio » Iau 28 Awst 2008 11:14 am

ceribethlem a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:
Ger27 a ddywedodd:Mae'n ymddangos bod gan URC gystadleuaeth gan Sale Sharks yn y Gogledd beth bynnag.
Wythnos diwethaf, roedd diwrnod agored gan y Sale Sharks yng Nghwb Rygbi Nant Conwy: Siarcod Nant Conwy

Mi wn hefyd am amryw o chwaraewyr ifanc o'r Gogledd sy'n chwarae i dimau ieuenctid y Siarcod.

wedi i Langefni cael eu gorfodi i ddisgyn yn ôl i Adran 4 fe adawodd nifer o'u chwaraewyr - mae sawl un, yn ôl pob sôn, wedi mynd dros y ffîn i chwarae.

Yn bersonol dio ddiawl o ots gen i sut hwyl mae timau rygbi'r gogledd yn ei gael ond mae gan URC ddiawl o cheek i alw rygbi'n gêm genedlaethol a "heartbeat of the nation" pan nad ydy nhw'n caniatau i glybiau pob rhan o Gymru fod yn rhan o'u cynghreiriau "cenedlaethol".

:lol: O'n i'n tybio faint o amser tan i'r outburst bach 'ma ddod! :winc:

Wel dyna yw gwir wraidd y ddadl a dyna pam mae'r sop pathetig 'ma o "dîm datblygol" wedi dod
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai