Rhyl 5 - 1 Llanelli

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Rhyl 5 - 1 Llanelli

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 31 Awst 2008 11:37 am

Welodd rhywun y gêm neithiwr ar y teledu? WAW! Roedd safon y chwarae yn arbennig o dda ar adegau, lot yn well na gêm Wrecsam yn y Conference wnes i weld ar Setanta yn ddiweddar! Mae safon yr Uwchgynghrair wedi gwella llawer dros y blynyddoedd, ac mae'n haeddu mwy o sylw yn y wasg. Dwi'n deall y bydd y Gynghrair yn cael ei thorri i 10 tîm erbyn cychwyn tymor 2009/2010, gyda pob tim yn chwarae'r timoedd eraill 4 o weithiau. Hwn yn ddatblygiad da yn fy marn i. Gobeithio bydd yr FAW yn buddsoddi yn y timoedd yma wedyn. Hen bryd i Merthyr (a Chasnewydd) ymuno hefyd dwi'n meddwl, yn enwedig o ystyried trafferthion ariannol Merthyr. Gall Bae Colwyn barhau i bydru ar waelodion pyramid Lloegr!

Adroddiad llawn o'r gêm yma:
http://www.welshpremier.com/newspage.in ... 523&type=m
http://www.bbc.co.uk/cymru/chwaraeon/sa ... 0708.shtml
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Rhyl 5 - 1 Llanelli

Postiogan Rhods » Sul 31 Awst 2008 1:57 pm

Rwy'n cytuno da ti bod e'n beth da bod y gyngrair yn cael ei gwtogi i 10 tim. Bydd chware yn yr Haf efallai yn opsiwn hefyd fel sydd yn digwydd yn yr Iwerddon? Hefyd, os fydd yr FAW yn buddsoddi mwy o arian yn y gyngrair, anodd iawn dadle yn erbyn hynny.

Ond os ti yn rhyw awgrymu bod y gyngrair ar run safon neu yn well na'r Conference, meddwl bod hynny braidd yn optimistaidd i ddweud! Anodd iawn profi hynny. Er byddai yn ddiddorol gweld sut fydd TNS, Rhyl Llanelli yn ymdopi yn y gyngrair hynny.

O ran Casnewydd , maent 2 gynhrair oddi ffwrdd Y Gyngrair Pel Droed, ac wedi bod yn agos iawn yn y ddwy flynedd diwethaf i gyrraedd gemau-ail gyfle ar gyfer y Conference. Er maent wedi dechrau yn araf y tymor yma, ond mater o amser yw e dwi yn meddwl tan iddynt gyrraedd y Conference. Dim jyst hynny, ond mae ffan base reit mawr da nhw a ma potensial da nhw i lwyddo. Ro ni yn cofio rhyw 2 dymor yn ol bympio mewn i ffans Casnewydd mewn Services ar ffordd nol o gem oddi cartre da'r Swans. Ro ni yn gofyn iddynt beth oedd eu barn am ymuno a chyngrair Cymru. Yr ateb pendant oedd 'Na', byddai 99.999% ou ffans yn erbyn. Os nad yw'r ffans tu ol ir peth, dyw e ddim yn mynd i lwyddo, mae mor syml a hynny. Gyda pob parch , ond be bydd yr incentive mwya ir ffans yna, ennill Cyngrair Cymru o flaen tima fel Rhyl, Bangor , TNS (no offence fel) neu cael y cyfle i chwarae o flaen torfeydd reit mawr yn erbyn timau fath a Wrecsam, Torquay , Rhydychen , Caergrawnt ar gyfer cyfle i gael lle yn Y Gyngrair Pel Droed?..dwi yn meddwl bod yr ateb yn reit syml.

Oleia bod y ddadl bellach wedi diflannu neu marw allan dros cael Abertawe a Chaerdydd yn Nghynrair Cymru. Roedd ceisio cyfiawnhau gwadu y 2 clwb yma y cyfle i chware yn erbyn Lerpwl, Man U, Arsenal, Chelsea etc i ware yn y Lig of Wales yn chwerhinlllyd :lol: :lol: . Eniwie digon am hynny..Ac, o ie, anghofio dweud , llongyfarchiadau i Rhyl! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Rhyl 5 - 1 Llanelli

Postiogan krustysnaks » Sul 31 Awst 2008 3:10 pm

Chwip o gêm neithiwr!

Mae Llanelli angen storio'r amddiffyn yn eitha cyflym neu fe fydd y Rhyl a'r Seintiau wedi mynd yn rhy bell ar y blaen.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Rhyl 5 - 1 Llanelli

Postiogan eusebio » Sul 31 Awst 2008 3:34 pm

Rhods a ddywedodd:... mae ffan base reit mawr da nhw a ma potensial da nhw i lwyddo.


Ti'n gwybod be 'di eu torfeydd - ar gyfartaledd 'lly?
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Rhyl 5 - 1 Llanelli

Postiogan Rhods » Sul 31 Awst 2008 4:12 pm

eusebio a ddywedodd:
Rhods a ddywedodd:... mae ffan base reit mawr da nhw a ma potensial da nhw i lwyddo.


Ti'n gwybod be 'di eu torfeydd - ar gyfartaledd 'lly?



Yn ei tair gem gartre y tymor ma y torfeydd di bod yn 2546, 853 a 931 (1000 y llynnedd, dyna'r ffigwr ar gwefan cyfartaledd torfeydd y tymor diwetha, gallai cale y link i ti os ti moen, ond dyna'r ffigwr yn ol hyn ONESTLI!!) ....eniwei lot fwy na'r lig of wales mae arnai ofn...Odd tyrfeydd y lig of Wales penwythnos ma yn dangos torfeydd o 174, 401, 476, 468, 179, 146, 325, 188 a 937 (gem Rhyl v Llanelli odd hynny sydd a chyfartaledd leni o jyst dros 700 sydd ddim yn bad o gwbwl, ond am y gweddill, siomedig)

Os fi yn cofio ath 1000 o cefnogwyr Casnewydd iw gem oddi gartre yn erbyn Caerdydd yn yr FAW llynnedd. Not bad.

Wyt ti yn gwbod be odd cyfartaledd llanelli(pencampwyr lynnedd) tymor diwetha? Byddai'n ddiddorol gwbod...
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Rhyl 5 - 1 Llanelli

Postiogan garynysmon » Sul 31 Awst 2008 7:30 pm

Doedd y 450+ ar Ffordd Ffarrar ddim yn ddrwg o gwbwl, yn enwedig wrth gysidro mai dim ond 3 cefnogwr ddoth Hwlffordd gyda nhw. Dyna ydi'r broblem fwya' weithiau, diffyg awyrgylch. Gemau Bangor Rhyl er enghraifft, gret, teimlo fel gem 'go iawn' gyda awyrgylch da, er braidd yn filain. Fel arall, gellid clywed pin yn disgyn ar ol i'r gwrthwynebwyr sgorio ar adegau.

Problem arall enfawr ydi safon y dyfarnwyr (yn enwedig yr un ar Ffordd Ffarrar), ond dadl arall yw honno.

Hedd, dwi'm yn credu byddai Bae Colwyn yn ddigon da i aros i fynny yn Uwchghynghrair Cymru, i fod yn onest gyda chdi.

O ddarllen sylwadau cefnogwyr Casnewydd ar adegau, byddai rhywyn yn credu fod yr UG ddim gwell na safon Cynghrair Dydd Sul Ynys Mon, a'u bod nhw yn chwarae 10 lefel yn uwch. Y gwirionedd yw, does dim gwahaniaeth rhyngddyn nhw, a safon 5-6 uchaf yr UG.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Rhyl 5 - 1 Llanelli

Postiogan eusebio » Sul 31 Awst 2008 9:39 pm

Rhods a ddywedodd:Yn ei tair gem gartre y tymor ma y torfeydd di bod yn 2546, 853 a 931 (1000 y llynnedd, dyna'r ffigwr ar gwefan cyfartaledd torfeydd y tymor diwetha, gallai cale y link i ti os ti moen, ond dyna'r ffigwr yn ol hyn ONESTLI!!) ....eniwei lot fwy na'r lig of wales...


Ia, roeddwn i'n gwybod y ffigyrau - 1,000 o gyfartaledd llynedd - ffigwr teidi, ond ddim cweit y "ffan base reit mawr".
Mae'r 2,546 na yn anomali llwyr hefyd - AFC Wimbledon oedd y gwrthwynebwyr ac mae'n debyg bod tri chwarter y dorf yn Dons.

Mae sôn am 1,000 yn mynd i Gaerdydd yn gamarweiniol gan mai dyna oedd prif gêm County yn eu dyddiau yn y lîg - yn yr un modd mae gemau Caernarfon v Bangor yn denu 1,000 o gefnogwyr tra bo'r Cofis yn cael lot, lot llai na hynny fel arfer.

Oes mae na dorfeydd siomedig yn Uwchgynghrair Cymru ond paid a meddwl bod y safon mor siomedig ac mae ambell i ohebydd papur newydd am i ti gredu ;)
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Rhyl 5 - 1 Llanelli

Postiogan Ari Brenin Cymru » Llun 01 Medi 2008 2:21 pm

Newydd weld y gem ar ol recordio hi ar sky+, a falch fy mod i wedi!

Gem o safon wych, adlewyrchiad da iawn or gynghrair rhaid dweud. Rhyl yn edrych yn uffarn o dim blwyddyn yma, a does dim syndod rili efo'r holl bres ma nhw'n ei wario. Neil Roberts yn edrych yn siarp iawn yn ogystal a Josh Johnson a Jamie Reed, a mae'r amddiffyn yn edrych yn solid hefyd. Oes rhywun efo amcan faint ma Rhyl yn talu Roberts? Yn ol Malcolm Allen, troiodd lawr gynnig i chwara i Peterborough i chwara i Rhyl!

Dwi wir yn licio fformat y rhaglen newydd sgorio cymru hefyd, mae'n edrych yn broffesiynol ac yn gam ymlaen arall ir gynghrair.

Ond un peth rhaid fi gytuno gyda Viv Williams ydy maint y bwlch rhwng y timau gorau megis Rhyl, TNS a Llanelli a'r timau llai ar waelod y tabl, ond efallai caiff hyn i sortio wrth ir gynghrair hollti'n ddau yn y dyfodol agos gyda timau fel Bangor ac Aber yn ceisio lleihau'r bwlch.
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

Re: Rhyl 5 - 1 Llanelli

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 01 Medi 2008 2:28 pm

Mae modd gweld y gêm ar wefan S4C erbyn hyn:

http://www.s4c.co.uk/c_watch_level2.sht ... =336666379

8)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Rhyl 5 - 1 Llanelli

Postiogan eusebio » Maw 02 Medi 2008 2:52 pm

Dyma gystal lle ag unrhyw le i ddweud fod wefan Sgorio wedi ei lansio http://www.s4c.co.uk/sgorio

diolch
8)
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Nesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron