Rwy'n cytuno da ti bod e'n beth da bod y gyngrair yn cael ei gwtogi i 10 tim. Bydd chware yn yr Haf efallai yn opsiwn hefyd fel sydd yn digwydd yn yr Iwerddon? Hefyd, os fydd yr FAW yn buddsoddi mwy o arian yn y gyngrair, anodd iawn dadle yn erbyn hynny.
Ond os ti yn rhyw awgrymu bod y gyngrair ar run safon neu yn well na'r Conference, meddwl bod hynny braidd yn optimistaidd i ddweud! Anodd iawn profi hynny. Er byddai yn ddiddorol gweld sut fydd TNS, Rhyl Llanelli yn ymdopi yn y gyngrair hynny.
O ran Casnewydd , maent 2 gynhrair oddi ffwrdd Y Gyngrair Pel Droed, ac wedi bod yn agos iawn yn y ddwy flynedd diwethaf i gyrraedd gemau-ail gyfle ar gyfer y Conference. Er maent wedi dechrau yn araf y tymor yma, ond mater o amser yw e dwi yn meddwl tan iddynt gyrraedd y Conference. Dim jyst hynny, ond mae ffan base reit mawr da nhw a ma potensial da nhw i lwyddo. Ro ni yn cofio rhyw 2 dymor yn ol bympio mewn i ffans Casnewydd mewn Services ar ffordd nol o gem oddi cartre da'r Swans. Ro ni yn gofyn iddynt beth oedd eu barn am ymuno a chyngrair Cymru. Yr ateb pendant oedd 'Na', byddai 99.999% ou ffans yn erbyn. Os nad yw'r ffans tu ol ir peth, dyw e ddim yn mynd i lwyddo, mae mor syml a hynny. Gyda pob parch , ond be bydd yr incentive mwya ir ffans yna, ennill Cyngrair Cymru o flaen tima fel Rhyl, Bangor , TNS (no offence fel) neu cael y cyfle i chwarae o flaen torfeydd reit mawr yn erbyn timau fath a Wrecsam, Torquay , Rhydychen , Caergrawnt ar gyfer cyfle i gael lle yn Y Gyngrair Pel Droed?..dwi yn meddwl bod yr ateb yn reit syml.
Oleia bod y ddadl bellach wedi diflannu neu marw allan dros cael Abertawe a Chaerdydd yn Nghynrair Cymru. Roedd ceisio cyfiawnhau gwadu y 2 clwb yma y cyfle i chware yn erbyn Lerpwl, Man U, Arsenal, Chelsea etc i ware yn y Lig of Wales yn chwerhinlllyd
. Eniwie digon am hynny..Ac, o ie, anghofio dweud , llongyfarchiadau i Rhyl!