eusebio a ddywedodd:Darn mwyaf bizzare y noson oedd Dave Phillips (ar Setanta) yn galw am i Tosh ddod ag Earnshaw i'r maes ... ddwywaith ... a hynny ar ôl i Gymru ddefnyddio eu tri eilydd!
O'n i'm yn hapus tro cyntaf nath o ddeud hyn, ond nes i roi benefit of a doubt fod o wedi gwneud cymgymeriad...ond rhyw 5 munud wedyn nath o ddeud ' I wonder if Toshack might bring on a couple of subs' - be f**c!! Ma'r Setanta ma'n wael hogia bach!
Anlwcus dros ben a siomedig dros ben achos fysa gem gyfartal wedi taflu'r grwp yn gwbl agored, yn enwedig o weld canlyniad Yr Almaen. Cytuno efo cwpl o sylwadau uchod ynglyn a newidiadau Tosh ar yr hanner - ma Ledley'n lot mwy cyfforddus yn y canol a dwi di deud ers blynyddoedd fod Robinson yn hopless! Ma Fletcher yn ok, achos dio'm yn trio gneud gormod a tase Robinson just yn gneud 'job' fysa fo'n iawn...ond ma'n meddwl fod o'n blydi Fabregas neu rhywun pryd ma ar y bel - aros yn Canada met.
Odd dod a Evans arnodd yn gamgymeriad, ond allai weld rhesymeg Tosh - nhw'n dod a streicar mawr arnodd, newn ni sticio amddiffynwr mawr arnodd i stopio fo. Yn anffodus, Steve Evans ydy'n amddiffynwr mawr ni felly nath y cynllun ddim gweithio allan! Odd 'na fai ar y bois yn gadael i Arshavin gal croesiad mewn...ond odd na neb yn agos i'r streicar pryd gath o'i ben iddi. Chwara teg i Hennessy am drio tho.
Peidiwch poeni, newn ni guro nhw adra!