Rwsia v Cymru

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Rwsia v Cymru

Postiogan aronj89 » Mer 10 Medi 2008 4:29 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ledley yn sgorio. Gol wych! 1 - 1!± :D


Hyfryd. Chware am gem gyfartal neu be rwan? Cymru'n swnio fel y tim gorau ar y funud
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: Rwsia v Cymru

Postiogan aronj89 » Mer 10 Medi 2008 4:42 pm

2-1 :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: Rwsia v Cymru

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 10 Medi 2008 5:09 pm

John Hartson a Robert Page yn dweud ar Setanta mae hwn oedd perfformiad gore Cymru gan John Toshack, a rhaid cytuno. Yn yr ail hanner, Cymru oedd y tim gore yn sicr. Trueni fod Bale wedi methu'r cic o'r smotyn yn y hanner 1af.

Yn yr 2il hanner gyda llaw, fe wnaeth Toshack dynnu Carl Robinson i ffwrdd a dod a Ricketts ymlaen, ac fe wnaeth hyn weithio'n dda gyda Bale yn chwarae ochr chwith canol cae, a Joe Ledley yn symud mewn i'r canol. Roedd Robinson yn rybish, a rhaid mae hwn oedd ei gem olaf i Gymru!

Gyda Collins, Gabbidon, Nyatanga, Bellamy a Eastwood i ddod nøl, a chwaraewyr fel Rhys WIlliams a Ramsey i ddatblygu yn ystod y pencampwriaeth, mae pethe'n edrych yn addawol iawn! 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Rwsia v Cymru

Postiogan Cynyr » Mer 10 Medi 2008 5:26 pm

:crio: Blydi gyted!!!!!

no oedd y tim gorau yn yr ail hanner, anlwcus braidd ar yr ail gol.

cytuno gyda ti Hedd fod tynnu Robinson i ffwrdd, Ledley yn y canol a Bale yn gwthio wedi edrych yn llawer mwy positif.
Ond ffffaaaaccccc!! fydde pwynt wedi bod yn ganlyniad gwych!
" And Britain defeats the rest of the world to pick up the bronze medal."
Rhithffurf defnyddiwr
Cynyr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 934
Ymunwyd: Llun 12 Gor 2004 10:37 am
Lleoliad: Clancrannock!!

Re: Rwsia v Cymru

Postiogan Dai dom da » Mer 10 Medi 2008 5:27 pm

Chware gret, un or perfformiade gore i fi weld ers blynydde. We ni'n haeddu cael draw lot mwy na beth o'dd rwsia yn haeddu ennill. A ffyc, dylse ni di blydi pigo nhw off yn yr ail hanner.

Ond i fod yn onest, bai Toshack odd e. Ddath e mlan a Evans yn lle rhywun, sain cofio, a nath hwnna newid pethe ir gwaetha. Os na fydde fe 'di neud y newid 'na, dwi'n siwr fydde'r canlyniad wedi bod yn wahanol.
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Re: Rwsia v Cymru

Postiogan Ioan_Gwil » Mer 10 Medi 2008 7:46 pm

fysa pwynt di bod yn gret heddiw!

dymar camgymeriad cynta dwi am bwyntio allan dan tosh. yn flaenorol am gema cyfeillgar a gemau am ddim i chwarae man iawn arbrofi etc, ond dwi di gwylltio braidd am y penderfyniad o ddod a steve evans ir cae. roedd cymru yn chwaran dda a doedd na im rhaid newid petha. dwim n gweld sud fysa dod ag amddiffynwr fel evans ar y cae yn help i gymru o gwbwl. dyla fo ddim bod yn y sgwad hyd yn oed! riw un gem dda gath o i Gymru a dwim n gweld yr un tim arall yn rhoi gem i chwaraewyr non-league, dyna pam dio ddim yn chwara yn un or cynghreiria uwch, yn syml oherwydd ei fod on crap!!

arwahan i hynny, onin gweld perfformiad heddiw yn ysbrydoliaeth er fysa pwynt wedi bod yn uffern o help i gyraedd de affrig hyd yn oed mor gynnar a hyn yn y grwp!

un tip arall fyswn in rhoi ydi peidio chwara fletcher a carl robinson, ma nhw d dangos heddiw nad ydyn nhwn ddigon talentog i chwarae ar lefel rhyngwladol, gweddill y tim hen ddigon da ond dim rheini, amser i chwarae ramsey, collison, edwards yn nghanol cae a rhoi cic ir ddau yna!

ond ar y cyfan maen argoelin dda iawn am y gemau nesa! ma na sgwad da yn datblygu bellach, rhaid fodd bynnag roi mwy o amser i tosh, swnin licio gweld on aros nes 2012, fydd hin bryd dod a rheolwr newydd erbyn hynny dim ots faint o lwyddiant geith toshack
John ddwynodd y beans
Rhithffurf defnyddiwr
Ioan_Gwil
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 689
Ymunwyd: Iau 06 Hyd 2005 8:49 pm
Lleoliad: Prentec, Port Madocks

Re: Rwsia v Cymru

Postiogan eusebio » Mer 10 Medi 2008 7:57 pm

Darn mwyaf bizzare y noson oedd Dave Phillips (ar Setanta) yn galw am i Tosh ddod ag Earnshaw i'r maes ... ddwywaith ... a hynny ar ôl i Gymru ddefnyddio eu tri eilydd!
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Rwsia v Cymru

Postiogan Ari Brenin Cymru » Mer 10 Medi 2008 8:28 pm

Un peth arall bizzare oedd y commentator Americanaidd ar y live streaming yn cymharu Gareth Bale ir actor Christian Bale fwy nag un gwaith!
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

Re: Rwsia v Cymru

Postiogan aronj89 » Mer 10 Medi 2008 8:45 pm

Ffindir a'r Almaen wedi cael gem gyfartal heno. Hwb mawr i Gymru er i ni golli heno. Does ne neb wedi dechrau rhedeg ffwrdd ohonom ni er byddai disgwyl i'r Almaenwyr fod 3 yn glir erbyn hyn. Reit dda...
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: Rwsia v Cymru

Postiogan Dai dom da » Mer 10 Medi 2008 9:03 pm

Ari Brenin Cymru a ddywedodd:Un peth arall bizzare oedd y commentator Americanaidd ar y live streaming yn cymharu Gareth Bale ir actor Christian Bale fwy nag un gwaith!


O'dd termau yr americanwyr yn hilarious whareteg. Towshack! Classic
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 24 gwestai

cron