Llongyfarchiadau i Dîm Llwyddianus Cymru a Phrydain
Mae 20 o ddisgyblion o ysgolion Tang Soo Do De Cymru wedi dychwelyd yn fuddugol o 10fed Pencampwriaeth Byd y Ffederasiwn Tang Soo Do Rhyngwladol a gynhaliwyd yn Orlando Florida ym mis Awst.
Ymhlith y garfan o blant ac oedolion a gynrychiolodd Cymru a Phrydain, oedd disgyblion o ysgolion Rhiwbina Caerdydd, Bro Ogwr, Llnatrisant, Y Pîl, Coedelái ac Aberdâr.
Llwyddodd pawb i ennill o leiaf un medal, gyda 10 ohonynt yn dychwelyd yn bencampwyr byd ar ôl ennill medal aur yn un o'r adrannau patrymau (kata), arfau, chwalu byrddau pren â thraed neu dwylo noeth, neu yn yr ymladd rhydd.
Mae Tang Soo Do yn gamp traddodiadol Coreaneg sy'n datblygu'r corff a'r meddwl ac yn canolbwyntio ar dechnegau hunan'amddiffynnol a moesau traddodiadol. Mae'n debyg i Tae Kwon Do, ond yn fwy cyffroes o lawer na Tae Kwon Do Olympaidd a hyd yn oed Pêl droed!!
Am fwy o fanylion am Tang Soo Do gwelch y wefan :http://www.tangsoodo.co.uk/index.htm o le y medrwch fynd at dudalenau priodol ynglyn a dosbarthiadau lleol ac ati.