Cynghrair Magners

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cynghrair Magners

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Sad 04 Ebr 2009 11:32 am

Ond ry'n ni'n edrych 'dros y ffin' ar gyfer ein rygbi ni eisoes. Ond wrth gwrs mae hynna'n iawn, achos bod gyda ni gymaint yn gyffredin a'r Alban ac Iwerddon, ond oes e? Ein ffrindie gore, ondife? Yr undebau sy'n rhoi eu llaw yn ein poced am arian yr EDF, ondife?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Cynghrair Magners

Postiogan Macsen » Sad 04 Ebr 2009 11:46 am

Un cynghrair mawr Prydeinig yw'r ateb! Dau gynghrair o 11 tim, sorted. Give the public what they want, de.

Y ffaith bod ni mor chummy efo'r Gwyddelod a'r Alban ydi'r union broblem. Pwy sydd eisiau gweld eu tim yn maeddu ryw glwb nad ydyn nhw'n dal dig tuag ato?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Cynghrair Magners

Postiogan ceribethlem » Sad 04 Ebr 2009 12:09 pm

Josgin a ddywedodd: Beth fuasai ymateb taleithiau'r Iwerddon o ddiddymu'r Magners ? . Y nhw sydd wedi elwa o'r newid i daleithiau , yn anad dim.

Fe ddyle ni edrych ar ol buddion rygbi Cymru, fi ddim yn poeni taten am lwyddiant rhanbarthau na thim cenedlaethol Iwerddon. Pe bai Iwerddon yn mynd yn hollol shit achos fod Cymru wedi gadael am cynghrair Eingl-Gymreig, bydden i'n ddigon hapus (ar yr amod fod rygbi Cymru yn ffynu wrth reswm).
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cynghrair Magners

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Sad 04 Ebr 2009 12:48 pm

Macsen a ddywedodd:Un cynghrair mawr Prydeinig yw'r ateb! Dau gynghrair o 11 tim, sorted. Give the public what they want, de.

Y ffaith bod ni mor chummy efo'r Gwyddelod a'r Alban ydi'r union broblem. Pwy sydd eisiau gweld eu tim yn maeddu ryw glwb nad ydyn nhw'n dal dig tuag ato?


Clywch, clywch. Ond mae'n siwr y bydde dal yn well gan Hedd a Josgin weld Caerdydd gyda rheng ol o White, Warburton a Sowden-Taylor yn colli o flaen dwy fil a hanner lan yn Murrayfield nag yn Kingsholm o flaen torf o 16,500 gyda Molitika, Rush, Williams et al.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Cynghrair Magners

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 04 Ebr 2009 7:48 pm

Ie, un cynghrair Prydeinig. Gwych! Well byth, beth am un tîm ar gyfer Prydain Fawr? Scrapo Cymru, Lloegr a'r Alban a chwarae pob gêm yn Twickenham dan enw'r British Lions o hyn 'mlaen. Perffaith, falle ni fydde'r tîm gore yn y byd wedyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cynghrair Magners

Postiogan Macsen » Sad 04 Ebr 2009 8:52 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ie, un cynghrair Prydeinig. Gwych! Well byth, beth am un tîm ar gyfer Prydain Fawr? Scrapo Cymru, Lloegr a'r Alban a chwarae pob gêm yn Twickenham dan enw'r British Lions o hyn 'mlaen. Perffaith, falle ni fydde'r tîm gore yn y byd wedyn?

Am be uffar tin son ddyn, pwynt un cynghrair Prydeinig fyddai bod chwaraewyr Cymru yn chwarae rygbi cyson o'r safon uchaf ac felly bod safon y tim cenedlaethol yn codi. Mae awgrymu bod timau o Gymru yn chwaae timau o Loegr yn gyfystyr a cyfuno ein timau cenedlaethol fel dweud bod clybiau Seland Newydd, Awstralia a De Affrica yn chwarae ei gilydd yn y Super 14 am arwain at gyfuno eu timau cenedlaethol nhw. A dyw hynny ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbwl, nag ydi? :seiclops:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Cynghrair Magners

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 06 Ebr 2009 8:29 am

Hedd
...
...
...
...
...
...
...
...
...
...
...
...
...
...
...
...
Y llestri
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Cynghrair Magners

Postiogan Josgin » Llun 06 Ebr 2009 9:39 am

Scarlets yn colli i Gaeredin.
Dreigiau yn colli i Connacht .

Ydi timau Cymru yn cymeryd y gystadleuaeth yma o ddifrif ?. Yr oedd yn gyhuddiad a wnaethpwyd yn erbyn timau Iwerddon blwyddyn neu ddwy yn ol.
Mae rygbi wedi bod gyda'r agwedd man-gwyn , man-draw ers blynyddoedd, y cystadlaethau, y timau,y rheolau.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Cynghrair Magners

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 06 Ebr 2009 3:16 pm

Nag yw'r un ohonoch chi'n gallu gweld realiti'r sefyllfa y tu hwnt i ryw rethreg gwag am "Gymru'n bod yn annibynnol" (heb sôn am y rhagrith o fod yn ddigon bodlon â chynghrair gyda gwledydd eraill)? Odych chi'n hapus gyda'r sefyllfa sydd ohoni?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Cynghrair Magners

Postiogan ceribethlem » Llun 06 Ebr 2009 6:23 pm

Fi ddim cweit yn deall rhesymeg pobol fell Josgin a Hedd yn hyn. Mae'n dderbyniol i chwarae yn erbyn timoedd Lloegr (yn ogystal a Ffrainc yr Eidal a chriw'r Magners) yng Nghwpan ewrop, ond yn anghywir i chwarae yn eu herbyn mewn cynghrair.
Os yw rygbi yng Nghymru am ffynnu, yna mae'n hanfodol cael y torfeydd nol i ddilyn y gemau. Mae'n hollol amlwg (am nifer o resymau) nad yw'r rygbu yng ngemau'r Magners yn ddeniadol. Mae'r gemau yn yr EDF yn ddeniadol, ac yn denu torfeydd mawr. Mae'n amlwg fod angen dilyn y trywydd yma a cheisio am gynhrair Eingl-Gymreig.
Mae'r ddadl am annibyniaeth i Gymru a ddim o gwbwl i wneud a chystadleuathau rhwng Cymru a Lloegr, cytundeb rhwng undebau/clybiau'r ddau wlad yw hi, boed Cymru yn annibynol a'i peidio.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron