Tudalen 1 o 5

Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Gwe 05 Medi 2008 2:28 pm
gan ceribethlem
Cynghrair Magners yn dechrau heno.
heno:

Dreigiau v Glasgow (Ar y teleflwch - BBC2)

Ulster v Sgarlets

Connacht v Gweilch

fory:

Gleision v Leinster

Driegiau adre yn erbyn Glasgow, ambell i arwyddiad deche i'r Dreigiau (Schterbina yn bennaf) ond gem caled yn eu gwynebu. Fi'n disgwyl gem clos gyda'r Dreigiau yn ennill o drwch blewyn.

Sgarlets wedi cadarnhau yn y blaen, ond yn mynd i weld colli Regan King. Fi'n disgwyl i'r Sgarlets roi perfformiad da iawn mewn ond yn colli. Mae'n annodd iawn i ennill yn Ravenhill, yn arbennig os yw'r dyfarnwr yn gachgi o'r Alban.

Gweilch wedi dewis tim gweddol wan, hanes gwael mas yn Galway. Dishgwl i'r tim Cartref i'w curo'n weddol gyffyrddus.

Gleision wedi gwella dros y blynyddoedd, bydd fory yn brawf mawr iddyn nhw. Fi'n credu bydd y Gleision yn cipio gem agos.

Dreigiau
Ulster
Connacht
Gleision

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Sad 06 Medi 2008 8:56 am
gan ceribethlem
Wel ges i bethau'n hynod o anghywir!

Sgarlets yn ennill mas yn Ulster o 16 - 9. Buddugoliaeth da iddyn nhw mas fynna. Adroddiad y BBC fan hyn
Gweilch yn curo Connacht o 16 - 3, eto buddugoliaeth da. Mae hanes y Gweilch yn Galway yn un reit llipa.Adroddiad y BBC fan hyn
Glasgow yn curo'r Dreigiau o 6 - 12. Siomedig iawn i'r Dreigiau i feddwl eu bod nhw adre.Adroddiad y BBC fan hyn

Dal i gredu bydd y Gleision yn ennill, ond yn ol rhagdybiau'r penwythnos gallwch chi ddisgwyl i Leinster ennill!

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Sad 06 Medi 2008 8:25 pm
gan ceribethlem
Jiawcs gem gyfartal! Dyle'r Gleision fod wedi ennill honna'n hawdd. Seren y gem, yn fy marn i, oedd Jamie Roberts. Gem gyntaf (i Gaerdydd) yn y canol, ac odd e'n llond llaw i;r gwrthwynebwyr bron bob tro gath e'r bel.

Mae Richard Mustoe wedi chwarae i dri rhanbarth, ac mae e wedi bod yn shit i bob un.

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Sul 07 Medi 2008 3:41 pm
gan ceribethlem
Nos Fawrth y Gweilch adre yn erbyn y Gleision (S4C). Bydden i'n dishgwl i'r Gweilch ennill hon. Dechre addawol i Gaerdydd yn erbyn Leinster, ond heb y killer instinct angenrheidiol, ddylen nhw wedi stwffo Leinster. Gormod o chwareuwyr o safon gyda'r Gweilch i hyd yn oed Holley ffwcio pethe lan yn fy nhyb i.

Nos Fercher, Dreigiau adre i'r Sgarlets (BBC2). Gormod o safon yn nhim Llanelli dybiwn i, yn ogystal a'r ffaith fod Tina Turner yn hyfforddi'r Dreigiau. Buddugoliaeth i'r Sgarlets.

Sgor personol hyd yma: 0/4 :wps:

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Llun 08 Medi 2008 9:02 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
ceribethlem a ddywedodd:Nos Fercher, Dreigiau adre i'r Sgarlets (BBC2). Gormod o safon yn nhim Llanelli dybiwn i, yn ogystal a'r ffaith fod Tina Turner yn hyfforddi'r Dreigiau. Buddugoliaeth i'r Sgarlets.


Ti am ddod draw?

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Maw 09 Medi 2008 7:53 am
gan ceribethlem
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Nos Fercher, Dreigiau adre i'r Sgarlets (BBC2). Gormod o safon yn nhim Llanelli dybiwn i, yn ogystal a'r ffaith fod Tina Turner yn hyfforddi'r Dreigiau. Buddugoliaeth i'r Sgarlets.


Ti am ddod draw?

Nagw, gwaith gyda fi i neud. Arse o beth.

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Maw 09 Medi 2008 2:41 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
ceribethlem a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Nos Fercher, Dreigiau adre i'r Sgarlets (BBC2). Gormod o safon yn nhim Llanelli dybiwn i, yn ogystal a'r ffaith fod Tina Turner yn hyfforddi'r Dreigiau. Buddugoliaeth i'r Sgarlets.


Ti am ddod draw?

Nagw, gwaith gyda fi i neud. Arse o beth.


Newydd weld tîm y Dreigiau. Ti moyn rhannu'r gwaith?

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Mer 10 Medi 2008 7:54 am
gan ceribethlem
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Nos Fercher, Dreigiau adre i'r Sgarlets (BBC2). Gormod o safon yn nhim Llanelli dybiwn i, yn ogystal a'r ffaith fod Tina Turner yn hyfforddi'r Dreigiau. Buddugoliaeth i'r Sgarlets.


Ti am ddod draw?

Nagw, gwaith gyda fi i neud. Arse o beth.


Newydd weld tîm y Dreigiau. Ti moyn rhannu'r gwaith?

Gobitho fod digon o papur toilet gyda chi, mae'n bosib fydd twll tin newydd yn cael ei rwygo :lol:

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Mer 10 Medi 2008 7:57 am
gan ceribethlem
ceribethlem a ddywedodd:Nos Fawrth y Gweilch adre yn erbyn y Gleision (S4C). Bydden i'n dishgwl i'r Gweilch ennill hon. Dechre addawol i Gaerdydd yn erbyn Leinster, ond heb y killer instinct angenrheidiol, ddylen nhw wedi stwffo Leinster. Gormod o chwareuwyr o safon gyda'r Gweilch i hyd yn oed Holley ffwcio pethe lan yn fy nhyb i.

Wehei, o'n i'n iawn. Caerdydd yn weddol am dros 40 munud, ond methu sgorio. Ar ol i'r Gweilch cael eu ail cais cwmpodd pennau Caerdydd. Bydd tim gyda Roberts 12 a Brew a Mustoe ar yr esgyll byth yn mynd i wneud rhyw lawer yn erbyn amddiffyn trefnus.

Sgor fi: 1/5. Pethe'n gwella.

Sgarlets i ennill heno.

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Mer 10 Medi 2008 7:01 pm
gan ceribethlem
ceribethlem a ddywedodd:Sgarlets i ennill heno.

Fi'n dechre edrych braidd yn ddwl gdya'r rhagfynegiad yma!