Tudalen 2 o 5

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Mer 10 Medi 2008 7:58 pm
gan ceribethlem
Iei, 2 mas o 6. Ail hanner (gyda'r gwynt rhaid dweud) tipyn gwell gan y Sgarlets.

Gemau'r penwthnos te:

Gleision v Ulster
Gleision i ennill, dim digon o safon gydag Ulster i guro Caerdydd yng Nghaerdydd.

Glasgow v Gweilch
Fi'n credu bydd Glasgow yn ennill hon. Tim anodd i'w curo adre.

Scarlets v Connacht
Scarlets i ennill yn y gem olaf i fi weld yn fyw ym Mharc yu Strade.

Munster v Dreigiau
Munster mynd i fod lot rhy gryf, hyd yn oed yn half arsed i'r Dreigiau.

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Llun 15 Medi 2008 7:59 am
gan ceribethlem
Buddugoliaeth agos i'r Gweilch, yn cynnwys perl o gais gan un o'm cyn-ddisgyblion, Kristian Phillips.
Caerdydd yn gwneud pethe mor anodd a phosib i'w hunain eto eleni.
Lot rhy hawdd i'r Sgarlets a Munster.

5 mas o 10. Rhagfynegiadau'n edrych yn well.

Gemau penwthnos nesa:

Caeredin v Sgarlets: Er y dechre gwael i'r tymor, fi'n credu bydd Caeredin yn ennill hon.
Ulster v Dreigiau: Gem salw ei olwg mewn golwg. Ulster i ennill.
Leinster v Gweilch: Y gem anodda i alw. Os yw Leinster yn rhoi tim cryf mas, bydden i'n disgwyl iddyn nhw ennill hon.
Munster v Gleision: Munster, heb os.

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 7:50 pm
gan ceribethlem
Iesu, mae'r gynghrair 'ma'n shite, heb os. Fi'n gwylio'r "gem" rhwng Uslter a'r Gweilch. Syrffed i'r eithaf!

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 8:59 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
ceribethlem a ddywedodd:Iesu, mae'r gynghrair 'ma'n shite, heb os. Fi'n gwylio'r "gem" rhwng Uslter a'r Gweilch. Syrffed i'r eithaf!


Gydag unrhyw lwc bydd 'na gynghrair Eingl-Gymreig cyn hir. Mae timau Lloegr yn awchu am fwy o gemau.

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 9:30 pm
gan Josgin
Pam awchu am gynnal rhywbeth ar y cyd gyda Lloegr ? Os na allwn gael arwahanrwydd mewn chwaraeon, pa obaith mewn gwleidyddiaeth ? .

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 10:41 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Josgin a ddywedodd:Pam awchu am gynnal rhywbeth ar y cyd gyda Lloegr ? Os na allwn gael arwahanrwydd mewn chwaraeon, pa obaith mewn gwleidyddiaeth ? .


Am fod y ddau beth yn wahanol? Croeso i ti lynu at dy ddelfryd, ond fydd rygbi proffesiynol ddim yn para yng Nghymru gyda'r Magners.

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 10:50 pm
gan Hedd Gwynfor
Cytuno'n llwyr gyda Josgin. Pam ddiawl edrych dros y ffin at Loegr trwy'r amser? Ydych chi wedi edrych ar safon y gemau yn uwchgynghrair Lloegr yn ddiweddar?

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 11:13 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Cytuno'n llwyr gyda Josgin. Pam ddiawl edrych dros y ffin at Loegr trwy'r amser? Ydych chi wedi edrych ar safon y gemau yn uwchgynghrair Lloegr yn ddiweddar?


Achos bod ganddyn nhw gynghrair gystadleuol sy'n denu torfeydd, tra bod gyda ni gynghrair o safon shit, gyda neb yn gwylio, i chwaraewyr ail ddewis, heb relegation, lle dyw safle yn y gynghrair yn cael dim effaith ar p'un a yw tim yn chwarae yn Ewrop y tymor nesaf?

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Sad 04 Ebr 2009 12:52 am
gan ceribethlem
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Cytuno'n llwyr gyda Josgin. Pam ddiawl edrych dros y ffin at Loegr trwy'r amser? Ydych chi wedi edrych ar safon y gemau yn uwchgynghrair Lloegr yn ddiweddar?
Ydych chi wedi cymharu safon gemau'r uwchgynghrair yn Lloegr a gemau'r Magners? Petai cynghrair Magners yn rhoi gemau o'r safon i ddenu torfeydd yn gyson, yna byddai dim angen edrych dros y ffin.
Heb gemau o ddifri, bydd rygbi proffesiynol yng Nghymru yn marw.
Mae llwyddiant rygbi yng Nghymru a'r cwpan Eingl-Gymreig yn mynd llaw yn llaw.
Camp Lawn cyntaf Cymru (yn yr oes broffesiynol = 2005, Dechre'e cwpan Eingl-Gymreig - 2005.
Ma gyda rygbi Cymru a Lloegr hanes a thraddodiad llawer mwy difyr na'r cysylltiadau rygbi rhwng Cymru, yr Alban ac Iwerddon.

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Sad 04 Ebr 2009 10:06 am
gan Josgin
O ddilyn y ddadl yna, dylai (a) Bangor fynd i chwarae peldroed yn erbyn eu hen gwrthwynebwyr o Ogledd Lloegr.
(b) gwleidyddion Cymru droi tuag at san Steffan am reolaeth unwaith eto.

Mae'n amlwg, serch hynny nad yw y 'Magners' wedi taro deuddeng gyda'r gwylwyr. Credaf fod y tymor rygbi yn llawer rhy ddarniog, gyda efallai pedair cystadleuaeth gwahanol ar bedwar Sadwrn gwahanol. Yn anffodus, mae'r faith fod rygbi'r Alban wedi gadael ei gadarnleoedd yn y gororau wedi golygu nad oes llawer o ddyfodol i'r gem yno. Beth fuasai ymateb taleithiau'r Iwerddon o ddiddymu'r Magners ? . Y nhw sydd wedi elwa o'r newid i daleithiau , yn anad dim.