Tudalen 4 o 5

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 6:50 pm
gan Duw
Be dwi ddim yn deall yw'r ffaith bo cwmnie'n rhoi lan eiu harian i noddi'r gynghrair ac yna timoedd ddim yn trio. Os o'n i'n un o'r noddwyr, bydden yn gofyn am f'arian yn ol. Os oes gormod o geme, angen edrych ar hyn - er mae carfane'r timoedd yn digon mawr i ddelio'n sicr? Os nac oedd timoedd yn mynnu ar doreth o chwaraewyr rhyngwladol, bydde mwy ohonynt ar gael am fwy o geme?
Dwi wedi hen roi lan ar wylio rygbi domestig - y Magners yn arbennig. Gwastraff amser llwyr. Stim affach o ddiddordeb gen i weld ein bois yn colli i'r Albanwyr, na chwaith yn rhoi sgor criced arnynt. Un peth bydde'n dal y dychymyg yw ding-dong wythnosol yn erbyn timoedd fel Saracens, Caerloyw, Wasps, Caerfaddon a'r criw. Dwi'm gweld dim yn bod ar hyn (gwrth-Gymreig?? Pwy ddwedodd hwnna?)

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 7:13 pm
gan Hedd Gwynfor
Does dim byd rhagrithiol yn fy nadl i diolch yn fawr Mr Gwahanglwyf. Dwi'n hollol gyson. Dwi ddim yn cefnogi unrhyw beth sy'n cryfhau'r ymdeimlad o Brydeindod, neu ddibyniaeth Cymru ar Loegr i lwyddo, boed hynny mewn gwleidyddiaeth, chwaraeon neu gerddoriaeth!

Dwi ddim yn cefnogi tîm Olympaidd Prydain, British Lions, Tîm criced Lloegr, Prydain yn yr Eurovision...

O ran y Gynghrair Magners yn benodol, mae tipyn o'r timoedd sy'n cystadlu yn y gystadleuaeth gyda'r gorau yn Ewrop, y broblem yw nad yw timoedd Cymru ac Iwerddon i raddau llai erbyn hyn yn cymryd y gystadleuaeth o ddifri. Er mwyn newid hyn, dwi'n ffafrio system lle mae'r 5/6 uchaf yn y gynghrair yn mynd trwodd i'r Cwpan Heineken dim ots o ba wlad ma nhw'n dod. Byddai hyn yn gorfodi'r rhanbarthau/clybiau i gymryd y gystadleuaeth o ddifri'.

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 7:18 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Dyw'r timau ddim yn trio gan fod y timau oddi cartre'n gwbod mai'r unig beth i'w wneud i gyrraedd Ewrop yw ennill y gemau cartref. Naw mas o'r deg tim yn Ewrop y llynedd. Joc.

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 7:21 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Does dim byd rhagrithiol yn fy nadl i diolch yn fawr Mr Gwahanglwyf. Dwi'n hollol gyson. Dwi ddim yn cefnogi unrhyw beth sy'n cryfhau'r ymdeimlad o Brydeindod, neu ddibyniaeth Cymru ar Loegr i lwyddo, boed hynny mewn gwleidyddiaeth, chwaraeon neu gerddoriaeth!

Dwi ddim yn cefnogi tîm Olympaidd Prydain, British Lions, Tîm criced Lloegr, Prydain yn yr Eurovision...

O ran y Gynghrair Magners yn benodol, mae tipyn o'r timoedd sy'n cystadlu yn y gystadleuaeth gyda'r gorau yn Ewrop, y broblem yw nad yw timoedd Cymru ac Iwerddon i raddau llai erbyn hyn yn cymryd y gystadleuaeth o ddifri. Er mwyn newid hyn, dwi'n ffafrio system lle mae'r 5/6 uchaf yn y gynghrair yn mynd trwodd i'r Cwpan Heineken dim ots o ba wlad ma nhw'n dod. Byddai hyn yn gorfodi'r rhanbarthau/clybiau i gymryd y gystadleuaeth o ddifri'.


Pa ddibynnu ar Loegr i lwyddo? Cynnal cystadleuaeth ar y cyd a nhw yw dibynnu ar Loegr? Gwell cau'r ffiniau nawr te a pheidio a chael unrhyw ymwneud masnachol a nhw.

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 7:31 pm
gan ceribethlem
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Does dim byd rhagrithiol yn fy nadl i diolch yn fawr Mr Gwahanglwyf. Dwi'n hollol gyson. Dwi ddim yn cefnogi unrhyw beth sy'n cryfhau'r ymdeimlad o Brydeindod, neu ddibyniaeth Cymru ar Loegr i lwyddo, boed hynny mewn gwleidyddiaeth, chwaraeon neu gerddoriaeth!

Dwi ddim yn cefnogi tîm Olympaidd Prydain, British Lions, Tîm criced Lloegr, Prydain yn yr Eurovision...
Ond nid creu tim Eingl-Gymreig fyddwn ni. Cael cystadleuaeth yn erbyn rhai o'u timau nhw. Bydd ein clyniau ni'n parhau i fod yn aelodau o URC ac yn glybiau Cymreig.

Hedd Gwynfor a ddywedodd:O ran y Gynghrair Magners yn benodol, mae tipyn o'r timoedd sy'n cystadlu yn y gystadleuaeth gyda'r gorau yn Ewrop, y broblem yw nad yw timoedd Cymru ac Iwerddon i raddau llai erbyn hyn yn cymryd y gystadleuaeth o ddifri. Er mwyn newid hyn, dwi'n ffafrio system lle mae'r 5/6 uchaf yn y gynghrair yn mynd trwodd i'r Cwpan Heineken dim ots o ba wlad ma nhw'n dod. Byddai hyn yn gorfodi'r rhanbarthau/clybiau i gymryd y gystadleuaeth o ddifri'.

Mae nifer o broblemau gyda hyn ond does 'na:
(i) bydd Undebau'r 3 gwlad (yn arbennig yr Alban dybiwn i) yn wrthyn i'r syniad 'ma. Does neb yn mynd i gytuno i leihau cyfleuon o gyrraedd Ewrop.
(ii) Pwy bydd yn cymryd y 4/5 sbotyn gwag sydd yn Ewrop?
(iii) Does dim lot o fudd ariannol mewn ennill y Magners, a dim lot o glod yn ei hennill gan nad oes braidd neb yn rhoi lot o ymdrech iddi.

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 7:32 pm
gan ceribethlem
Hedd Gwynfor a ddywedodd:... Prydain yn yr Eurovision...
:lol: Golles i'r perl 'ma! :lol:

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 7:54 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
ceribethlem a ddywedodd:(ii) Pwy bydd yn cymryd y 4/5 sbotyn gwag sydd yn Ewrop?


Torri Cwpan Ewrop i 16 tim gyda phedwar grwp o bedwar, gyda'r ddau uchaf o bob grwp yn mynd trwodd i'r chwarteri. Dyle hynna gryfhau'r Bic Biro, sydd wrth gwrs yn cynnig lle yng Nghwpan Ewrop y flwyddyn nesaf am ennill y peth.

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 8:24 pm
gan Duw
Beth yw pwynt y Magners beth bynnag? Heb law sicrhau dych chi ddim yn colli gormod o geme? Fel wedes i gynt, bron yr unig pryd dwi'n cynhyrfu parthed rygbi dyddie 'ma yw pan fydd tim Cymru neu o Gymru yn ware'r Saeson. Toncad i'r bastardiaid dros y ffin! :crechwen:

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 8:42 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Duw a ddywedodd:Beth yw pwynt y Magners beth bynnag? Heb law sicrhau dych chi ddim yn colli gormod o geme?


Paratoi ar gyfer yr Heineken a'r Chwe Gwlad.

Duw a ddywedodd:Fel wedes i gynt, bron yr unig pryd dwi'n cynhyrfu parthed rygbi dyddie 'ma yw pan fydd tim Cymru neu o Gymru yn ware'r Saeson. Toncad i'r bastardiaid dros y ffin! :crechwen:


Ssssssshhhhh, mae hynna'n golygu dy fod di'n Saisgarwr sydd am gadw'r Deyrnas Unedig am byth bythoedd, amen, cris croes tan poeth, torri pen torri coes.

Re: Cynghrair Magners

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 11:16 pm
gan ceribethlem
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Beth yw pwynt y Magners beth bynnag? Heb law sicrhau dych chi ddim yn colli gormod o geme?
Paratoi ar gyfer yr Heineken a'r Chwe Gwlad.
Ond dyw hwnna ddim yn digwydd, edrych ar Gaerdydd, shit yn y Magners ond yn llwyddinaus yn yr EDF ac ewrop. Mae'r Magners yn meddwl dim o gwbwl.