Tric gwael gin Paul Parry ond mae Toshack yn tynnu rhai chwaraewyr yn ei ben hefyd. Di Parry ddim y cynta, oedd gin ti Savage a Cotterill hefyd. Dwi'n meddwl fod Toshack wedi gneud job dda iawn rhwng bob dim ond fedrith o ddim fforddio ffraeo fel ma drwy'r adeg, achos sgynna ni mo'r 'strength in depth' i wneud.
Ar bwynt arall fuodd rhywun arall yn trio ciwio am dicedi cyn y gem dydd Sadwrn? Tri chwarter awr fuon ni wrthi dydd Sadwrn, i fyny at chwarter wedi tri. Roedd y ciwiau yn tua 200 gan lath o hir hyd yn oed pan oedd y gem yn cicio i ffwrdd. Roedd na 4 o sdaff yn y swyddfa dicedi a tri mewn swyddfa symudol tu allan. does na ryfadd bo nam llawar yn y gem, odd y rhan fwyaf yn aros am dicad tu allan. Ffwcin gwarthus! Fedrith y FAW ddim trefnu piss up mewn tafarn. Be oedd yn rong efo cael yn pobl yn gwerthu tocynnau tu allan i'r stadiwm ne hyd yn oed ar y giatiau.
Nathon ni roi give up arni yn diwadd a prynnu rhai i gem y Gleision yn erbyn Leinster yn lle.
Rhaid nhw sbio ar ffyrdd gwell o werthu tocynnau na hyn. Mi gollwn nhw filoedd dydd Sadwrn achod bo nhw rhy ffocin thick i weithio allan y byddai yna lwyth yn troi fyny ar y dydd. Dwi'n meddwl sgwennu llythyr i gwyno. Rhywun arall yn cytuno ta fi oedd yn wirion fel y miloedd arall oedd yn disgwyl medru cael ticad yn weddol handi ar y dydd?