Abertawe v Caerdydd 24/9

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan alarch y môr » Mer 10 Medi 2008 1:36 pm

Mae'r brwydr lleol yn digwydd eto mis ma!

Pwy sy'n mynd i weld y gêm felly?
alarch y môr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Mer 10 Medi 2008 1:29 pm

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Rhylite » Maw 16 Medi 2008 4:06 pm

Dwi am fynd... diolch i gyfaill sydd hefo tocyn tymor. Tybed pa mor gryf fydd y timau? Gan ofyn am mond £15 dwin tueddu meddwl ni fydd y garfan cryfach allan ar y noson... ond gawn ni weld!
Rhylite
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Mer 31 Awst 2005 5:17 pm
Lleoliad: Yr hafan deg ar fin y don

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan aronj89 » Maw 16 Medi 2008 4:49 pm

Be wnaeth i mi feddwl mai ar y 23ain oedd hi? Yn anffodus fyddai'n ganol wythnos glas ag yn stiwdent tlawd! Dwi'n gweld timau cryf yn cael ei chwarae, does run o'r ddau eisiau colli HON
C'mon y jacks
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Ger27 » Mer 17 Medi 2008 8:39 am

alarch y môr a ddywedodd:Mae'r brwydr lleol yn digwydd eto mis ma!

Pwy sy'n mynd i weld y gêm felly?


Fyddai yno. Bysus yn gadael NInian Park am 5. 1,500 o gefnogwyr Caerdydd.

Dwi'n meddwl bydd y 2 dim yn chwrae eu timau cryfaf (mwy neu lai). Er, y gwir ydi, mae na 46 gem bwysicach na hon tymor yma, local derby neu beidio.

Gweld mai dim ond 14,000 oedd yn y Liberty neithiwr - yn amlwg yn safio eu hunain at nos fawrth!

Oh ia... 23/9 mae'r gem, ni y 24ain.
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Rhods » Llun 22 Medi 2008 7:50 am

Darllen y WM, son am y busnes 'bragging rights ma'....

Dwi ishe ennill pob gem yn naturiol, ond i fi y lig sydd pwysica...

Pidwch a cal fi yn rong, os naw ni ennill, byddai yn son amdano ac yn dathlu fel rwyf yn gneud ar ol pob gem da ni yn ennill - boed yn Caerdydd, Lerpwl, Scunthorpe Utd etc etc...ond os da ni yn ennill nos fory a wedyn yn colli i Reading dydd sadwrn, bydd e yn yffarn o anti-climax (wel i fi yn bersonnol)...a byddai yn devestated os naw ni golli hefyd yn y ru modd ag oeddwn i pam gollon ni i Palace py-ddyrnod...(er sa fe ddim mor bad i golli ar penalties ag yw e o fewn 90 munud neu 120 munud ...oleia ma hynny yn colli clir, sydd yn deimlad gwath..ond fi yw hwnna sbo...)

Gweld bod Roger Jonhson yn son am Gaerdydd yn ennill 3-0 - cawn weld. Dwi yn mynd i gadw fy ngheg ar gau - gwell pido bod yn cocky etc etc...Diddorol gweld mai Caerdydd sydd yn ei chipio hi yn hanes cwpannau (stats y gorffennol) ac Abertawe sydd yn ei chipio hi yn gemau'r gyngrair...a fydd hynny yn adlweyrchiad leni??? Pwy a wyr

Cofier, heyfd dyw hwn ddim yn 'one-off' achos da ni yn chware ein gilydd tair gwaith eleni (pwy a wyr, falle, y byddwn yn cwrdd yn yr FA Cup hefyd???!!!!!!)



Cytuno da Roberto pan ddywedodd byddai yn gret i Pel Droed Cymru, tasa'r ddwy clwb yma yn chware ei gilydd yn y premiership tymor ar ol tymor......nos fory felly....
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Lorn » Llun 22 Medi 2008 11:16 am

Mae'n chwaer i di llwyddo i gael tocynnau am ddim i'r gem yma'n eistedd hefo teuluoedd y peldroedwyr.

Dwi'm yn cefnogi'r un o'r ddau ond blydi jammy!
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Ger27 » Llun 22 Medi 2008 3:17 pm

Dwi'n synnu braidd fod dal tocynnau ar gael i ddweud y gwir. Fyddwn i wedi meddwl y byddai [hyd yn oed] Abertawe yn medru cael sell-out ar gyfer gem yn erbyn eu gelynion pennaf!

Dwi'n disgwyl gem agos... digon posib y bydd hi'n cael ei setlo yn amser ychwanegol neu giciau o'r smotyn dwi'n meddwl. Caerdydd i wneud ychydig o newidiadau i'r tim, ond dim byd rhy drastig.
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Rhods » Llun 22 Medi 2008 5:13 pm

Odd pawb di neud hw ha pam dath y draw allan bod e yn mynd i fod yn sell out...ond do ni ddim. Wedes i yn syth bydde fe ddim yn sell out achos
1) Ma fe yn gem midweek
2) Ma fe ar teli..
3) Ai fringe players fydd yn chware (neu hanner/hanner?)
4) Y Carling Cup yw hi - 3ydd rownd :?

O ni yn darllen erthygl heddi am Joe Ledley a fe ddywedodd e bod ond 1000 o Gaerdydd yn dod...ond o ni yn meddwl mai 1500 odd e? Byddwn i yn synnu tasa gem gyngrair ddim yn sell out ond dim gem carling cup.....

Caerdydd ein gelyn pennaf ? Wel am 7.45pm nos fory wrth gwrs ni(!) yn y run modd mai ni fydd gelyn pennaf Caerdydd...a pam bydd y gem yn gorffen am 9.45ish.., Reading (y tim nesa da ni yn chware nesa fydd ein 'prif gelynion' :winc: .......
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Ger27 » Llun 22 Medi 2008 5:48 pm

Rhods a ddywedodd:1) Ma fe yn gem midweek
2) Ma fe ar teli..
3) Ai fringe players fydd yn chware (neu hanner/hanner?)
4) Y Carling Cup yw hi - 3ydd rownd :?


Digon gwir i fod yn deg. O leiaf bydd mwy na 13,000 o gefnogwyr cartref yno... yn wahanol i'ch gemau yn erbyn Derby a Burnley. :winc:

Rhods a ddywedodd:O ni yn darllen erthygl heddi am Joe Ledley a fe ddywedodd e bod ond 1000 o Gaerdydd yn dod...ond o ni yn meddwl mai 1500 odd e? Byddwn i yn synnu tasa gem gyngrair ddim yn sell out ond dim gem carling cup.....


1,400 o docynnau roddwyd i Gaerdydd a fe werthwyd pob un y bore yr oedden nhw ar werth (gan fynd ar werth i gefnogwyr oedd wedi mynd i'r gemau oddi-cartref yn Doncaster a/neu Sheffield United yn unig). Fyddwn i'n tybio mai allocation digon tebyg bydd Abertawe yn ei chael ym Mharc Ninian hefyd.

Anaml iawn dwi'n darogan Caerdydd i golli, ond dwi'n meddwl fod chwarae gartref yn fantais fawr mewn gem ddarbi. Abertawe i guro 1-0 ar ol amser ychwanegol. :(
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Rhods » Llun 22 Medi 2008 6:01 pm

Os ni yn mynd i ennill, bydd rhaid i ni sgorio oleia dau gol - no doubt. Cadwch ni lawr i un gol Ger a gewch chi oleia draw......

Dwi yn gobitho bydd na banter ac awyrgylch da etc etc - jyst gobitho bydd y ddwy set o'r ffans yn bihafio...ma un neu ddau idiot shwr o gadw trwbwl a cael ei arestio am fod yn drunk and disorderly ac abusive language etc etc ...ond gobitho fydd e ddim yn fwy na hynny ..meddwl bod cops de Cymru di sysio allan hwliganiaid y ddwy clwb erbyn hyn. Bydd yr alisation on form nos fory mae'n shwr os fydd rhywun ond yn meiddio bygwth trwbwl!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Nesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron