Abertawe v Caerdydd 24/9

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Cynyr » Mer 24 Medi 2008 12:59 pm

Ger27 a ddywedodd:Gyda phob parch, dyna oedd perfformiad gwaethaf Caerdydd tymor yma. Er hynny, mi oedd rhaid i Abertawe ddibynu ar deflected goal, 2 goal disallowed, a cerdyn coch anheg un o chwaraewyr Caerdydd. Os yw Abertawe yn meddwl gorffen uwchben Caerdydd yn y gynghrair, bydd rhaid iddyn nhw chwarae'n well na hynny.

Newydd edrych ar 5 gem nesaf Abertawe: Reading (A), Preston (A), Wolves (H), Ipswich (A) a QPR (H).
Cawn weld faint o bwyntiau bydd Abertawe yn cael o'r gemau yna. Ar ol y rhain, dwi'n meddwl fydd ganddom ni lot gwell syniad o be fydd tynged y Swans tymor yma.!


eerrr????? da ni'n gwybod hynny!!
Ma Martinez (a phob cefnogwr call Abertawe) wedi dweud ers y dechrau mai 'setlo' yn y bencampwriaeth yw'r blaenoriaeth flwyddyn yma.Fydde gorffen yng nghanol yr adran yn lwyddiant i ni!

Ger27 a ddywedodd:Yn anffodus, mae ymddygiad cefnogwyr Abertawe wedi sicrhau bod y gem yn brif newyddion ar y BBC. Mi oedd na dal tua 1000 o gefnogwyr Abertawe ar ol yn y stadiwm tua 20 munud ar ol diwedd y gem yn cwffio gyda'r heddlu. Mi roedd "cannoedd" o'r rhain yna'n ymosod ar yr heddlu tua llan, gan daflu concrete, boteli, cerrig a flares tuag at buses Caerdydd a'r plismyn. Cafodd Commingues hefyd ei daro tra'n cymryd tafliad. Mi aeth na gefnogwr Abertawe hefyd fynd dros dug-out Caerdydd gan daflu punch at y physio. !


erm - Caerdydd yn erbyn Leeds yn dod ir meddwl :)

Ger27 a ddywedodd:Hefyd, roedd y chants "We've got Roberto, you've got a p****) yn disgrace tuag at rhywun oedd yn gorfod mynd trwy'r llysoedd barn i glirio'i enw (a mi wnaeth pwysa'r holl beth arweinio i farwolaeth tad Dave Jones). Embarassing - a da ni ddim yn siarad am liafrif bach yma.!

Be, a oedd:
- chants yn Ninian fel "We love Harry the Horse" (wedi i gefnogwr diniwed Abertawe cael ei ladd gan geffyl yr heddlu yn Rotherham yn y '90au
- Chants am Alan Davies (nath orffen ei fywyd ) ar ddiwedd yr '80au

Ma rhain i gyd yn oce??? Ti'm yn cofio hynny nag wyt?? :winc:

Ma jest rhaid ti dderbyn fod Abertawe wedi ennill. Oce o bosib wnaiff Caerdydd ennill y ddwy gem gynghrair, a digon teg fyddai hynny os fyddan nhw'n haeddu. Ond sdim llawer o bwynt malu cachu a chael esgisiodion ynglyn a phenderfyniadau'r dyfarnwr, ymddygiad y cefnogwyr bla bla bla.

Croeso i dy dymor ddarbi cyntaf. C'mon boi :winc:
" And Britain defeats the rest of the world to pick up the bronze medal."
Rhithffurf defnyddiwr
Cynyr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 934
Ymunwyd: Llun 12 Gor 2004 10:37 am
Lleoliad: Clancrannock!!

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Ger27 » Mer 24 Medi 2008 1:05 pm

Cynyr a ddywedodd:Be, a oedd:
- chants yn Ninian fel "We love Harry the Horse" (wedi i gefnogwr diniwed Abertawe cael ei ladd gan geffyl yr heddlu yn Rotherham yn y '90au
- Chants am Alan Davies (nath orffen ei fywyd ) ar ddiwedd yr '80au

Ma rhain i gyd yn oce??? Ti'm yn cofio hynny nag wyt?? :winc:


'Da ni wedi symud ymlaen o hynny (a digwyddiadau gem Leeds). Dyna pan doedd dim chants am hyn neithiwr.
Bechod bod cefnogwyr Abertawe methu gwneud yr un peth. Swim Away... :rolio:

Cynyr a ddywedodd:Croeso i dy dymor ddarbi cyntaf. C'mon boi :winc:

Gyda phob parc eto, ti'n wrong ar y pwynt yma hefyd ac yn rhagdybio ffeithiau. Gem gyntaf Caerdydd fi yn 1991 (5 oed) a wedi bod mewn dros 40 cae gwahanol yn eu gwylio ers hynny.

ON Mae hi'n drist bod Rhods na Cynyr yn medru bod yn ddigon o ddynion i gondemio chants p**** cefnogwyr Abertawe.
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Gwyn T Paith » Mer 24 Medi 2008 1:23 pm

Pwy welodd y shot o'r hen ddyn ar Sky neithiwr yn gwisgo mankini Borat ac arm-bands?! :gwyrdd: Siwr bod o yn ei 80'au! Y peth mwyaf doniol dwi di weld mewn cae bel-droed ers i Les Dawson chwarae i Dim Y Ser yn erbyn Bryncoch ar yr Oval
"Meddwl yn ddwys am ddim byd o bwys."
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn T Paith
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Sul 28 Rhag 2003 3:46 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Rhods » Mer 24 Medi 2008 1:29 pm

Mae yn drist nad yw rhai o maeswyr yr adar glesion yn ddigon o ddynion i gyfadde 'reit , chi ennillodd, ffer enyff, mlan ir gem nesaf....

Nath Dave Jones dweud, bod na ddim esgusodion ar ol nithwr, a mai'r tim gwell ennillodd. Alan Parry ar Sky maen debyg yn dweud bod e yn one traffic football a bod e yn bleser i weld pel droed gwych Abertawe. Ian Rush yn dweud bod tactegs pel droed hir Caerdydd ddim wedi gweithio o gwbwl.

Na, doedden ni ddim yn jami neithiwr, gallai di bod yn lot fwy na'r un gol hefyd gyda Pintado yn enwedig yn miso sitter yn y diwedd. Yn y run modd doedd Caerdydd ddim yn jammy yn yr FA Cup y llynnedd, (roedd rhai wedi ei cyhuddo o cael so called easy rownd yn erbyn Chasetown, Hereford, Middeslborough a Barnsley yn cyrraedd y ffeinal). Mi roeddent yn llawn haeddu ei llwyddiant yn run modd y roedd Abertawe yn llawn haeddu ei llwyddiant neithiwr.

Fel wedes i gynne, mae yna bryder o or-dathlu. Os mae rhai o ffans Caerdydd am ddal i pori sour grapes ar ol neithiwr ffein, gadewch iddyn nhw, ond ma da ni pethe lot fwy a pwysicach i wynebu. Er gallaf ddeall yr humilation ma rhai o ffans Caerdydd yn gwynebu ar ol mynd mlan am flynyddoedd mai ni oedd ei 'little brothers' a nhw oedd 'Barcelona Cymru'. "The ultimaite humiliation has been delivered", fel dywed y sais, yn dilyn neithiwr, felly falle bod ei sour grapes yn hollol ddealladwy.

Gaf i ail adrodd fy mod yn condemio yn llwyr y trwbwl neithiwr,..ac ar pwynt Ger, cytunaf ag e, er gwnes i ddim yn bersonnol clywed y gan ffiaidd mae yn son amdano, ond os ddigwyddodd, odi mae yn hollol warthus, yn y run modd yr oedd yn warthus pam nath rhai o ffans Caerdydd gneud hwyl ar ben marwolaeth Alan Davies a marwolaeth Terry Paines yn Rotherham.

Anghytunaf ar ddamcaniaeth bod chwarewyr Abertaew ishe ennill y gem yn fwy na Caerdydd. Y gwrionedd yw odd chwaraewtr y ddyw clwb y run mor despret i ennill ar llall. Y gwrionedd yw y tim gore, chwarweyr gore nath ennill. Y newyddion da i bawb er hynny yw bod Cymru trwyddo ir rownd 4 yn y Carling Cup!!!

ON Rhyfedd gweld y cyfryngau yn son am trwbwl da ffans Abertaew neithiwr, ond dim un son am tafarn a cafodd ei smasho fyny gan rhai o ffans Caerdydd(ath ddim ir gem wrth gwrs) ond ta waith ffans Caerdydd oedden nhw, mewn tafarn ffans Abertawe yn Castell Nedd. Pam dos dim son am hynny felly???

O ie - dos neb yn cymryd fi yn ddifrifol - fi yn hollol ypset!!! :ing: :ing: :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Cynyr » Mer 24 Medi 2008 1:37 pm

Ger27 a ddywedodd:ON Mae hi'n drist bod Rhods na Cynyr yn medru bod yn ddigon o ddynion i gondemio chants p**** cefnogwyr Abertawe.


:rolio: O blydi el jest ymlacia boi. Ma chants fel hyn yn mynd ymlaen ym mhob man yn y byd pel droed.
Ma'n ddrwg da fi ddweud Ger ond ma jest dadlau gyda ti yn mynd yn hollol ddiflas!! jest nofia i ffwrdd.... :wps: wps sori!

Gwyn T Paith a ddywedodd:Pwy welodd y shot o'r hen ddyn ar Sky neithiwr yn gwisgo mankini Borat ac arm-bands?! Siwr bod o yn ei 80'au! Y peth mwyaf doniol dwi di weld mewn cae bel-droed ers i Les Dawson chwarae i Dim Y Ser yn erbyn Bryncoch ar yr Oval
:D Na, Fon Hughes (o Fon i fynwent) oedd e
" And Britain defeats the rest of the world to pick up the bronze medal."
Rhithffurf defnyddiwr
Cynyr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 934
Ymunwyd: Llun 12 Gor 2004 10:37 am
Lleoliad: Clancrannock!!

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Lorn » Mer 24 Medi 2008 1:45 pm

Mae yn drist nad yw rhai o maeswyr yr adar gelesion yn ddigon o ddynion i gyfadde 'reit , chi ennillodd, ffer enyff, mlan ir gem nesaf....


Dwi'm yn cefnogi'r adar gleision

Na, doedden ni ddim yn jami neithiwr,


Oedd, mi oedd y gol yn hynod Jami. Ffliwc llwyr oedd bod y bel wedi hitio gwaelod troed yr amddiffynwr. Dyna anfonodd y bel i fyny dros ddwylo'r gôl geiddwad. Ffliwc llwyr ydy hynny Rhods. Os wyt ti'n trio dadlau fel arall mae'n rhaid dy fod yn gwylio gem wahanol i bawb arall.

gallai di bod yn lot fwy na'r un gol hefyd gyda Pintado yn enwedig yn miso sitter yn y diwedd.


Ond fethodd o, gall Caerdydd fod wedi sgorio pump gol os byddant wedi chwarae'n well, bod y gwynt yn chwythu ffordd iawn a bod chwaraewyr Abertawe wedi cael gem wael. Ond naethon nhw ddim. Cafodd Caerdydd dwy gôl wedi eu 'disallowio', gyda'r ddau yn benderfyniad teg yn fy marn i. Gall Caerdydd fod wedi ennill 2-1 os byddant heb gam sefyll.
Yn y run modd doedd Caerdydd ddim yn jammy yn yr FA Cup y llynnedd,


Nes im deud bod Abertawe yn jammy i ennill - ar berfformiad yn unig nhw oedd yn ei haeddu, ond mi oedd y gôl yn un hynod jammy. Does dim ffordd yn y byd gall unrhyw berson hanner call wadu hynny. Roedd o'n ffliwc llwyr.

ON Rhyfedd gweld y cyfryngau yn son am trwbwl da ffans Abertaew neithiwr, ond dim un son am tafarn a cafodd ei smasho fyny gan rhai o ffans Caerdydd(ath ddim ir gem wrth gwrs) ond ta waith ffans Caerdydd oedden nhw, mewn tafarn ffans Abertawe yn Castell Nedd. Pam dos dim son am hynny???


Dyma un o ffefrynnau cefnogwyr peldroed - "mae'r wasg hefo rhywbethn yn erbyn clwb ni ac yn rhoi darlun negyddol o ni ond dim ein gwrthwynebwyr". O ddarllen adroddiadau'r Beeb ar y we maent yn son am y ddwy garfan, nid son am "cefnogwyr neis Caerdydd a hwliganiaid Abertawe". Mae wastad rhai straeon sydd ddim yn cael eu hadrodd oherwydd yn syml, dan nhw ddim yn news worthy. Mae footage o gefnogwyr y ddau glwb, gyda rhan fwyaf yn rhai Abertawe oherwydd mae gem cartref oedd hi yn taflu pethe a rhes o blismyn a plismyn ar geffylau yn sefyll o'u blaen yn rhywbeth "newsworthy". Syml.

The ultimaite humiliation has been delivered", fel dywed y sais, yn dilyn neithiwr, felly falle bod ei sour grapes yn hollol ddealladwy.


Ultimate humiliation? Colli 1-0 i gol lwcus? Os dyna ni Abertawe yn rhoi Ultimate Humiliation i glwb swn i wrth fy modd yn gweld be di curo clwb 3-0 hefo tair gôl dda!
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Ger27 » Mer 24 Medi 2008 1:56 pm

Cytuno 100% Lorn.

Gwell gadael cefnogwyr Abertawe i glochdar ( :seiclops: ).

(I sylw Cynyr - dwi'n synnu dy fod yn gweld ymosodiadau personnol ar Dave Jones yn dderbyniol. Tydi hyn ddim yn digwydd ym mhob clwb. Yn y 2/3 mlynedd diwethaf, dim ond cefnogwyr Birmingham ac Abertawe sydd wedi mynd mor isel. Trist.
Dave Jones: 'False Child Abuse Claims Killed Dad')
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 24 Medi 2008 2:09 pm

Rhods a ddywedodd:O ie - dos neb yn cymryd fi yn ddifrifol - fi yn hollol ypset!!! :ing: :ing: :lol:


Rhods, fel wyt ti siwr o fod wedi sylwi, sai hyd yn oed yn ffan pêl-droed heb sôn am gefnogi Caerdydd. Sôn ydw i am dy duedd i gyfrannu fel plentyn pymtheg mlwydd oed. Mae Ger a fi yn anghytuno ar bethau hefyd (ac, ydw, mi ydw i e'n ei nabod e tu fas i'r Maes), ond mae ganddo fe fwy o synnwyr na 'lol'ian fel un o wylwyr Hollyoaks.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Cynyr » Mer 24 Medi 2008 2:21 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd: fel wyt ti siwr o fod wedi sylwi, sai hyd yn oed yn ffan pêl-droed heb sôn am gefnogi Caerdydd.


Dwi'n siwr mod i di dy weld ti mewn siwmper 'Stone Island' a Jins 'Aramani'. Neu jest yr ymladd wyt ti'n neud?? :D :winc:
" And Britain defeats the rest of the world to pick up the bronze medal."
Rhithffurf defnyddiwr
Cynyr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 934
Ymunwyd: Llun 12 Gor 2004 10:37 am
Lleoliad: Clancrannock!!

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 24 Medi 2008 9:44 pm

Cynyr a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd: fel wyt ti siwr o fod wedi sylwi, sai hyd yn oed yn ffan pêl-droed heb sôn am gefnogi Caerdydd.


Dwi'n siwr mod i di dy weld ti mewn siwmper 'Stone Island' a Jins 'Aramani'. Neu jest yr ymladd wyt ti'n neud?? :D :winc:


Ti'n gwbod fel ma' hi. Fi angen teimlo (fel) dyn mawr...
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Majestic-12 [Bot] a 12 gwestai

cron