Ger27 a ddywedodd:Gyda phob parch, dyna oedd perfformiad gwaethaf Caerdydd tymor yma. Er hynny, mi oedd rhaid i Abertawe ddibynu ar deflected goal, 2 goal disallowed, a cerdyn coch anheg un o chwaraewyr Caerdydd. Os yw Abertawe yn meddwl gorffen uwchben Caerdydd yn y gynghrair, bydd rhaid iddyn nhw chwarae'n well na hynny.
Newydd edrych ar 5 gem nesaf Abertawe: Reading (A), Preston (A), Wolves (H), Ipswich (A) a QPR (H).
Cawn weld faint o bwyntiau bydd Abertawe yn cael o'r gemau yna. Ar ol y rhain, dwi'n meddwl fydd ganddom ni lot gwell syniad o be fydd tynged y Swans tymor yma.!
eerrr????? da ni'n gwybod hynny!!
Ma Martinez (a phob cefnogwr call Abertawe) wedi dweud ers y dechrau mai 'setlo' yn y bencampwriaeth yw'r blaenoriaeth flwyddyn yma.Fydde gorffen yng nghanol yr adran yn lwyddiant i ni!
Ger27 a ddywedodd:Yn anffodus, mae ymddygiad cefnogwyr Abertawe wedi sicrhau bod y gem yn brif newyddion ar y BBC. Mi oedd na dal tua 1000 o gefnogwyr Abertawe ar ol yn y stadiwm tua 20 munud ar ol diwedd y gem yn cwffio gyda'r heddlu. Mi roedd "cannoedd" o'r rhain yna'n ymosod ar yr heddlu tua llan, gan daflu concrete, boteli, cerrig a flares tuag at buses Caerdydd a'r plismyn. Cafodd Commingues hefyd ei daro tra'n cymryd tafliad. Mi aeth na gefnogwr Abertawe hefyd fynd dros dug-out Caerdydd gan daflu punch at y physio. !
erm - Caerdydd yn erbyn Leeds yn dod ir meddwl
Ger27 a ddywedodd:Hefyd, roedd y chants "We've got Roberto, you've got a p****) yn disgrace tuag at rhywun oedd yn gorfod mynd trwy'r llysoedd barn i glirio'i enw (a mi wnaeth pwysa'r holl beth arweinio i farwolaeth tad Dave Jones). Embarassing - a da ni ddim yn siarad am liafrif bach yma.!
Be, a oedd:
- chants yn Ninian fel "We love Harry the Horse" (wedi i gefnogwr diniwed Abertawe cael ei ladd gan geffyl yr heddlu yn Rotherham yn y '90au
- Chants am Alan Davies (nath orffen ei fywyd ) ar ddiwedd yr '80au
Ma rhain i gyd yn oce??? Ti'm yn cofio hynny nag wyt??
Ma jest rhaid ti dderbyn fod Abertawe wedi ennill. Oce o bosib wnaiff Caerdydd ennill y ddwy gem gynghrair, a digon teg fyddai hynny os fyddan nhw'n haeddu. Ond sdim llawer o bwynt malu cachu a chael esgisiodion ynglyn a phenderfyniadau'r dyfarnwr, ymddygiad y cefnogwyr bla bla bla.
Croeso i dy dymor ddarbi cyntaf. C'mon boi