Abertawe v Caerdydd 24/9

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Macsen » Llun 22 Medi 2008 7:01 pm

Rhods a ddywedodd:meddwl bod cops de Cymru di sysio allan hwliganiaid y ddwy clwb erbyn hyn.

Y tacteg diweddara ydi gyrru linc i'r dudalen yma i bob un jesd cyn y gem... ;)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 22 Medi 2008 8:41 pm

Macsen a ddywedodd:
Rhods a ddywedodd:meddwl bod cops de Cymru di sysio allan hwliganiaid y ddwy clwb erbyn hyn.

Y tacteg diweddara ydi gyrru linc i'r dudalen yma i bob un jesd cyn y gem... ;)


Dyma'r ddolen bwysicaf.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Cynyr » Maw 23 Medi 2008 3:59 pm

Ger27 a ddywedodd:Digon gwir i fod yn deg. O leiaf bydd mwy na 13,000 o gefnogwyr cartref yno... yn wahanol i'ch gemau yn erbyn Derby a Burnley. :winc:

Wel, braf yw gwybod fod 13,000 yn fwy na digon i gyfrio costau rhedeg y clwb. Sy'n wahanol i chi sy'n gorfod dibynnu ar o leiaf 18,000 i gadw'r dynion mewn siwts o'r drws :winc:

Dwi ddim yn gweld gemau darbi fel hyn hanner cystal a dyddiau'r hen Vetch. Gwthio i fewn i drenu orlawn, rhedeg lawr strydoedd i osgoi'r heddlu, cwrsio ffans Caerdydd i'r mor...he...he!! 'ddem wyr ddy deis'
Ti'n cofio'r adeg Ger? wps na, mae'n siwr mai Lerpwl neu Man Iw oeddet ti'n gefnogi pryd hynny? :lol:
" And Britain defeats the rest of the world to pick up the bronze medal."
Rhithffurf defnyddiwr
Cynyr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 934
Ymunwyd: Llun 12 Gor 2004 10:37 am
Lleoliad: Clancrannock!!

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Ger27 » Mer 24 Medi 2008 9:58 am

Cynyr a ddywedodd:Wel, braf yw gwybod fod 13,000 yn fwy na digon i gyfrio costau rhedeg y clwb. Sy'n wahanol i chi sy'n gorfod dibynnu ar o leiaf 18,000 i gadw'r dynion mewn siwts o'r drws :winc:

I ddelio mewn ffeithiau, mae Cynllun Busnes CCFC wedi' selio ar gyfartaledd torfeydd o 14,000 er mwyn gwneud profit. Mae ganddom ni 14,000 o bobl hefo tocynnau tymor sy'n golygu byddwn yn gorffen gyda cyfartaledd o (o leiaf) 17,000 tymor yma. Tymor nesaf bydd y ffigwr yn fwy na 20,000 dwi'n meddwl.

Cynyr a ddywedodd:Dwi ddim yn gweld gemau darbi fel hyn hanner cystal a dyddiau'r hen Vetch... blah blah blah

Vetch neu beidio, roedd hi dal yn bosib i "gannoedd o gefnogwyr Abertawe" (a dwsin o gefnogwyr Caerdydd), gwffio hefo'r heddlu: http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/7632872.stm

Ynglyn a'r gem, fyddwn i'n dweud fod Abertawe jysd about yn haeddu curo (er y dylai 'gol' gyntaf Caerdydd sefyll a ni ddylai McPhail wedi cael cerdyn coch gan iddo gael y bel). Gobeithio eith Abertawe holl ffordd i Wembley, mae'n stadiwm gret!
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Rhods » Mer 24 Medi 2008 11:26 am

Tim gwell, chwaraewyr gwell, pel droed gwych - roedd Abertawe yn llawn haeddu ennill y gem neithiwr. I rhywun hyd yn oed cwestiynnu hynny, ma hynny yn hollol chwerthynllyd. Y gwirionedd creulon yw odd Caerdydd jyst methu handlo ni. Odd e yn fyw i milynau o bobl i weld ar y teledu.

Roeddwn wedi cael fy synnu neithiwr, roedd yna son cyn y gem, bod 2 tim sydd yn chware pel droed pert ar fin chwarae eu gilydd..Ond y gwirionedd yw mai dim ond un tim gwnath hynny - roedd y pasio hir anhygoel gan Bodde i Gower a Butler yn wych i weld. Rhaid cyfadde, roeddwn i wedi synnu gyda tactegs long ball Caerdydd. A cyn i hyd yn oed rhywun cwestiynnu hyn, cawn weld replay y gem sydd yn dangos hynny yn glir - Hefyd, mi roedd yna lu o ffans Caerdydd wedi ffonio mewn ar Real radio ar ol y gem yn cwyno am long ball tatics Caerdydd a David Giles yn cyfadde a cytuno a nhw. Gilo yn cyfadde 'Swansea are the premier club in Wales. You cant argue against that'. Boi Caerdydd o Canton yn dweud hyn, dim Swans ffan.....

Oce nath Abertawe ennill neithiwr, ond y peth mwyaf arwyddocaol yw mai Pel Droed ennillodd. Mae Abertawe yn profi yn glir ei bod e yn bosibl i fod yn llwyddiannus trwy chware one touch total football, heb mynd lawr y route 'hwff the ball'....

Roedd yn siomedig iawn i weld bod na trwbwl ar ol y gem gan lleiafrif. Roeddwn i wedi darogan y bydde na ddim trwbwl ac ein bod ni di gweld diwedd y dyddiau na. Yn anffodus, roeddwn yn anghywir. Mae ffans Abertawe a Caerdydd wedi gweithio yn galed iawn i greu perthynas iachus a chyfeillgar dros y blynyddoedd diwethaf. Braf odd gweld bod Supporters Trust llwyddiannus Abertawe wedi helpu a rhoi cyngor i Gaerdydd sefydlu un ei hunain. Gwych. Gall yr hyn ddigwyddodd neithwir ddim difetha y berthynas ma rhwng y ddwy clwb. Peidied rhoi mewn i leiafrif....Dylair ffans cafodd ei aresio cael life ban. End of.

Mae yn gwd i ddathlu ar ol ennill unrhyw gem - ond byddai yn bryderus tasa na or-dathlu gan Abertawe dros y dyddiau/wythnosau/misoedd nesa. Os mai diben ein uchelgais yn unig yw curo tim (gyda pob parch i Gaerdydd )mediocore, byddai yn poeni yn fawr. Oce ma'r bragging rights, ond fe ddyle Abertawe anelu yn uwch na hynny.

Rwy'n diolch i Ger am ei gefnogaeth i ni yn ngweddill y cystadleuaeth . Fel nath cyfryngau Cymru sefydlu ymgyrch mawr cenedlaethol yn cefnogi menter Caerdydd yn yr FA Cup, gobeithio y gwnawn nhw run peth da ni yn y Carling Cup (I doubt it somehow, ond rhaid byw mewn gobaith!). Ma Cymru trwy i 4edd rowd y Carling Cup, gret!!!

ON o ie odi'r holl gloryhunters ath ar y cardiff city fa cup bandwagon nawr yn mynd i fynd nol nawr i cefnogi ei timau arferol, y Man U's ai Lerpwls????!!!! :lol: :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Ger27 » Mer 24 Medi 2008 12:17 pm

Gyda phob parch, dyna oedd perfformiad gwaethaf Caerdydd tymor yma. Er hynny, mi oedd rhaid i Abertawe ddibynu ar deflected goal, 2 goal disallowed, a cerdyn coch anheg un o chwaraewyr Caerdydd. Os yw Abertawe yn meddwl gorffen uwchben Caerdydd yn y gynghrair, bydd rhaid iddyn nhw chwarae'n well na hynny.

Newydd edrych ar 5 gem nesaf Abertawe: Reading (A), Preston (A), Wolves (H), Ipswich (A) a QPR (H).
Cawn weld faint o bwyntiau bydd Abertawe yn cael o'r gemau yna. Ar ol y rhain, dwi'n meddwl fydd ganddom ni lot gwell syniad o be fydd tynged y Swans tymor yma.

Rhods a ddywedodd:y peth mwyaf arwyddocaol yw mai Pel Droed ennillodd

Yn anffodus, mae ymddygiad cefnogwyr Abertawe wedi sicrhau bod y gem yn brif newyddion ar y BBC. Mi oedd na dal tua 1000 o gefnogwyr Abertawe ar ol yn y stadiwm tua 20 munud ar ol diwedd y gem yn cwffio gyda'r heddlu. Mi roedd "cannoedd" o'r rhain yna'n ymosod ar yr heddlu tua llan, gan daflu concrete, boteli, cerrig a flares tuag at buses Caerdydd a'r plismyn. Cafodd Commingues hefyd ei daro tra'n cymryd tafliad. Mi aeth na gefnogwr Abertawe hefyd fynd dros dug-out Caerdydd gan daflu punch at y physio.

Hefyd, roedd y chants "We've got Roberto, you've got a p****) yn disgrace tuag at rhywun oedd yn gorfod mynd trwy'r llysoedd barn i glirio'i enw (a mi wnaeth pwysa'r holl beth arweinio i farwolaeth tad Dave Jones). Embarassing - a da ni ddim yn siarad am liafrif bach yma.

Rhods a ddywedodd:ON o ie odi'r holl gloryhunters ath ar y cardiff city fa cup bandwagon nawr yn mynd i fynd nol nawr i cefnogi ei timau arferol, y Man U's ai Lerpwls????!!!! :lol: :lol:

Fel pwy? Sgen ti enghriafft ta wyt ti'n seilio hynny ar y ffaith bod Ninian Park wedi bod o leiaf 90% llawn am bob gem tymor yma? Mae cenfigen cefnogwyr Abertawe yn dod mor amlwg ar amseroedd fel rhain!
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Rhods » Mer 24 Medi 2008 12:28 pm

Sori Ger - ti jyst methu cymryd e- ni ennillodd ar diwedd dydd. End of.

Cytuno yn llwyr am ymddygiad rhai o ffans Abertawe, dim esgusodion - ond 1000?? (be cyfres ti nhw ????:lol: :lol: )

Ger. Facts . Ni Ennillodd . Chi gollodd. FACT. Get over yourself!!! :lol: :lol: :lol:

ON rhaid i fi werthin tho,pam wedes ti rhywbeth fel' bydd rhai i chi chware yn well, os chi am llwyddo etc etc....' :lol: :lol: . Wel ma Roberto yn digwydd cytuno da ti, mae di dweud ar ol y gem fe allwn chware llawr gwell. :lol:

Sour Grapes! Sour Grapes! Sour Grapes!!!! :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol:

Ac ar Man U turned bluebirds fans, pam nes ti ofyn, ydw i yn nabod nhw, wel .......ie, fi yn :rolio: :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Lorn » Mer 24 Medi 2008 12:42 pm

Rhods, petai'r Gynghrair yn cael ei phenderfynu ar gloatio yn unig yna bydde ti wedi ei hennill hi i'r Swans yn sicr! Does ond un peth gwaeth na chollwr gwael - ennillwr gwael!

Ond rhaid i ti gyfaddef does bosib bod y gôl yn un uffernol o jammy - petai'r bel heb ddal gwaeld troed yr amddiffynwr Caerdydd fel y gwnaeth hi a hitio'r llawr fel y gwnaeth hi bydde hi wedi bron yn sicr wedi mynd i ddwylo'r gôl geidwad. Y deflection huge aeth a'r bel i fewn i gefn y rhwyd.

Hefyd, doedd hi byth yn gerdyn coch, oedd hi'n dacl wych. Cafodd ei ail ddarlledu droeon ar Sky.

A dwi'n amau bod neb yn fwy feirniadol o chwaraewyr Caerdydd nag Dave Jones o weld be oedd o'n ei ddweud wrth Jeff Stelling a Ian Rush ar ôl y gem.
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 24 Medi 2008 12:50 pm

Rhods a ddywedodd:Sori Ger - ti jyst methu cymryd e- ni ennillodd ar diwedd dydd. End of.

Cytuno yn llwyr am ymddygiad rhai o ffans Abertawe, dim esgusodion - ond 1000?? (be cyfres ti nhw ????:lol: :lol: )

Ger. Facts . Ni Ennillodd . Chi gollodd. FACT. Get over yourself!!! :lol: :lol: :lol:

ON rhaid i fi werthin tho,pam wedes ti rhywbeth fel' bydd rhai i chi chware yn well, os chi am llwyddo etc etc....' :lol: :lol: . Wel ma Roberto yn digwydd cytuno da ti, mae di dweud ar ol y gem fe allwn chware llawr gwell. :lol:

Sour Grapes! Sour Grapes! Sour Grapes!!!! :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol:

Ac ar Man U turned bluebirds fans, pam nes ti ofyn, ydw i yn nabod nhw, wel .......ie, fi yn :rolio: :winc:


Cwestiwn: oes unrhyw un yn cymryd Rhods o ddifri?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Abertawe v Caerdydd 24/9

Postiogan Ger27 » Mer 24 Medi 2008 12:58 pm

Cwestiwn: oes unrhyw un yn cymryd Rhods o ddifri?
Nagoes.

Lorn - Casgliad teg iawn. Dwi'm yn gwadu fod Abertawe yn haeddu curo. Fodd bynnag, dylai nhw ddim anwybyddu'r ffaith bod Caerdydd wedi chwarae'n wael ac eu bod wedi bod ychydig yn lwcus. Os yw Abertawe yn mynd i mewn i'w 5 gem gynghrair nesaf yn meddwl eu bod yn invincible, yna buan iawn y bydd pethau'n edrych yn ddu.

Fel nes i ddweud yn gynharach yn yr edefyn, mae na 46 gem bwysicach na un neithiwr. Yn y gorffenol, mae rhediadau llwydduianus Caerdydd yn y cwpanau wedi cael effaith ar ein perfformiad ni yn y gynghrair gan ein bod yn rhedeg clwb gyda ond 20 o chwaraewyr. Cawn weld faint o bwyntiau bydd Abertawe yn ei gael yn y 5 gem nesaf...
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai