Cymru d21 v Lloegr d21

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymru d21 v Lloegr d21

Postiogan eusebio » Gwe 12 Medi 2008 10:49 am

Am le yn Sweden 2009

Yr Almaen v Ffrainc
Denmarc v Serbia
Twrci v Belarus
Awstria v Y Ffindir
Yr Eidal v Israel
Swistir v Sbaen
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Cymru d21 v Lloegr d21

Postiogan Gwyn T Paith » Gwe 12 Medi 2008 10:55 am

Dim problem! Ac o leiaf fydd Walcott ddim yn chwarae i'r Sais...

..na Bale, Gunter, Evans, Hennessey, Vokes, Edwards is Gymru :(

Ond gan mai dim ond Lichtenstein mae Cymru yn chwarae yr r'un diwrnod, sgwn i os fydd Tosh yn barod i adael ambell un chwarae i'r tim dan21. Siawn fydd Bellamy a Eastwood yn ffit erbyn hynna felly dim pwynt cadw Evans a Vokes ar y fainc.
"Meddwl yn ddwys am ddim byd o bwys."
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn T Paith
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Sul 28 Rhag 2003 3:46 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cymru d21 v Lloegr d21

Postiogan joni » Gwe 12 Medi 2008 11:30 am

Oes siawns am "double-header" yn stadiwm y mileniwm ar gyfer y gem yma a gem Liechtenstein, tybed?
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cymru d21 v Lloegr d21

Postiogan eusebio » Gwe 12 Medi 2008 11:45 am

Trydedd paragraff o'r erthygl yma:
BBC Sport Online a ddywedodd:England finished top of their group and Wales earned a play-off spot by beating Romania 3-0 this week.

Ella bo' fi'n paranoid, ond 'swn i'n darllen hwnna heb wybod am gampau Cymru 'swn i'n meddwl bod Cymru wedi crafu drwodd ...

Pedwaredd paragraff o'r un erthygl:
BBC Sport Online a ddywedodd:Germany play France in one of the other play-offs, with the seven winners joining hosts Sweden at the tournament.

Dim sôn bo' ni 'di curo Ffrainc ...
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Cymru d21 v Lloegr d21

Postiogan Owain » Gwe 12 Medi 2008 12:20 pm

Wow, ma hwna'n dipyn o fixture dydy! Dwi'n licio syniad Joni'n fawr - dyle fi fod yn gweithio i'r FAW Joni! 5:30pm ma k.o gem Lichtenstein ia? Diawch, ma'r bois ifanc yn ddigon ffit i chwarae dwy gem siwr dydyn :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Owain
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1895
Ymunwyd: Iau 14 Awst 2003 2:25 pm
Lleoliad: Aberystwyth neu Bont

Re: Cymru d21 v Lloegr d21

Postiogan Sleepflower » Gwe 12 Medi 2008 12:53 pm

eusebio a ddywedodd:
BBC Sport Online a ddywedodd:England finished top of their group and Wales earned a play-off spot by beating Romania 3-0 this week.

Ella bo' fi'n paranoid, ond 'swn i'n darllen hwnna heb wybod am gampau Cymru 'swn i'n meddwl bod Cymru wedi crafu drwodd ...



Yn union. Beth fydde o le â dweud bod y dau wedi gorffen ar frig eu grwpiau? Weles i hwn a loges i mlaen i Maes e er mwyn gwenud yr union 'run cwyn a ti Eusebio. Newyddiaduraeth hollol pitw a babanaidd yn fy marn i.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cymru d21 v Lloegr d21

Postiogan Gwyn T Paith » Gwe 12 Medi 2008 2:10 pm

joni a ddywedodd:Oes siawns am "double-header" yn stadiwm y mileniwm ar gyfer y gem yma a gem Liechtenstein, tybed?


Be yr FAW yn gyfrifol am drefnu DWY gem yr r'un diwrnod!? Arglwydd mawr, dyn nhw methu trefnu un yn iawn! A does na ddim chance fydd y gem yn cael ei chwarae yn Stadiwm y Mileniwm ar y nos Wener chwaith gan bod rheolau Fifa yn dweud bod rhaid i Lichtenstein gael yr hawl i ddefnyddio'r stadiwm noson cyn y gem yn erbyn Cymru.

Wresam amdani felly nos Wener ia? Beryg mai Sky fydd yn cael y final say beth bynnag :drwg:
"Meddwl yn ddwys am ddim byd o bwys."
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn T Paith
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Sul 28 Rhag 2003 3:46 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cymru d21 v Lloegr d21

Postiogan eusebio » Gwe 12 Medi 2008 2:37 pm

Gwyn T Paith a ddywedodd:Beryg mai Sky fydd yn cael y final say beth bynnag :drwg:


Ia, digon gwir, a synnwn i ddim - gyda'r gêm 'fawr' ar y dydd Sadwrn yng Nghaerdydd a cgyda'r ffaith i Sky ddangos ni'n curo Ffrainc ar Barc Ninian, dwi'n rhagdybio mai yno bydd y gêm ...
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Cymru d21 v Lloegr d21

Postiogan Ger27 » Maw 16 Medi 2008 3:24 pm

Y gem gartref am fod ym Mharc Ninian ar y Nos Wener. Tocynnau'n £5 yn unig.
Y gem ryngwladol olaf un yn Ninian Park. :(

Nid oes rhaid cael all-seater ar gyfer gem dan-21 felly gobeithio cawn agos i 20,000 am y gem.
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cymru d21 v Lloegr d21

Postiogan Sleepflower » Maw 16 Medi 2008 3:28 pm

Ger27 a ddywedodd:Y gem gartref am fod ym Mharc Ninian ar y Nos Wener. Tocynnau'n £5 yn unig.
Y gem ryngwladol olaf un yn Ninian Park. :(

Nid oes rhaid cael all-seater ar gyfer gem dan-21 felly gobeithio cawn agos i 20,000 am y gem.


Odi'r dyddiad wedi'i gadarnhau?
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai

cron