Sori, dwi'n anghytuno efo ti - mae gennon ni chwaraewyr ifanc da yn dod trwy'r system o hyd - Spender, Taylor, Baynes, Mike Williams ar hyn o bryd - ond am ryw reswm den nhw ddim yn cael eu datblygu fel y dylen nhw. Bai pwy ydi hynny? Dwi'm yn gwybod, ond mae Spender yn enghraifft o un oedd yn edrych yn ddisglair iawn pan dorrodd i mewn i'r tîm gyntaf ond rwan mae o i weld wedi cael ei lusgo i lawr i'r safon wael gyffredinol, a dwi'n wirioneddol ofni gweld yr un peth yn digwydd i Taylor a Baynes. Ac mae Mike Williams wedi bod yn ddigon da i dîm dan 21 Cymru wnaeth ennill eu grwp ond eto ddim yn ddigon da i dîm cynta Brian Little.
Ti'n gofyn be ddigwyddith rwan - ennill gêm, colli gêm etc etc. Dwi'n meddwl mai'r peth pwysicaf un i'r rhan fwya o gefnogwyr Wrecsam (pwysicach na'r canlyniadau hyd yn oed) ydi bod Wrecsam yn chwarae'r gêm y ffordd iawn - trio chware pêl droed ar y llawr, pasio celfydd ac ati. Ers i Little ddod mae'r pwyslais wedi bod yn gyfan gwbl ar hoofball diflas - uffern o gic i fyny'r cae at ben boi mawr fel Louis (neu Broughton o'i flaen) ac wedyn disgwyl i'r bel ddod yn ol. Crap llwyr. DYNA pam mae'r hen gefnogwyr wedi gwylltio gymaint, nid dyma ffordd Wrecsam o chware.
Mae'r torfeydd wedi mynd lawr ers dechrau'r tymor o ryw 4,000 i lai na 3,000 - dyne ti tua £15,000 o bynnoedd yn llai yn dod i mewn drwy'r giat bob gêm - ac mi fyse wedi mynd yn llai ac yn llai. Wnes i ddim prynu tocyn tymor eleni achos roedd peldroed Little jyst yn fy niflasu'n llwyr , a dim ond un waith ydwi wedi bod i'w gweld nhw. Neuthon nw ennill 3-2 yn erbyn Ebbsfleet yn y gêm honno, ond o'n nw'n dal yn gachu.
Prynu Faulconbridge o rywle wnaethon ni gyda llaw (yn y dyddiau pan oedden ni'n gallu fforddio prynu chwaraewyr), nid ei ddatblygu trwy'r tim ieuenctid. Be hitiodd Wrecsam (a phob tim bach arall) ers dyddiau Bryan Hughes, Armstrong ac ati oedd dyfodiad rhyddid chwaraewyr i symud. Mi gafodd chwaraewyr fel Morrell a Trundle adael wedyn heb i ni gael dime amdanyn nw. A dyna brif ffordd y clwb o gynnal ei hun wedi mynd am byth.