Brian Little wedi gadael Wrecsam

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Brian Little wedi gadael Wrecsam

Postiogan eusebio » Mer 01 Hyd 2008 10:43 am

Lorn a ddywedodd:Sori am fod a barn fy hun Eusebio, nes i'm sylweddoli bod yn rhaid i ni gyd foesymgrymu i dy farn di! Rhaid bod dy cof yn methu os wyt ti'n gweld bod Ward a Skinner yn yr un gynghrair a Dean Spink! :rolio:


blydi hell, cym y sglodyn 'na oddi ar dy ysgwydd Lorn ... moesymgrymu? Be ddiawl ti'n fwydro? Negesfwrdd ydi hwn ia? Lle mae pobl yn postio negeseuon ia?

Beth bynnag, dwi'n derbyn fod Peter Ward Ward Ward (i roi ei enw llawn) yn chwaraewr bendigedig, ond ma'n rhaid i ti gyfaddef fod Skinner yn rybish yndoedd - ddim mor crap â Spink nadd, ond ar brydiau roedd ei anallu yn rhyfeddu dyn!
Dwi'n cofio mynd i Port un dydd Sadwrn ar gyfer gêm gafodd ei threfnu ar fyr rybudd wedi i gemau cynghrair y ddau glwb gael eu gohirio - roedd Skinner yn ddiwaledig yn ystod yr hanner cyntaf. Wrth i fi a fy mêts drafod y perfformiad ar yr egwyl roedd yr hen Craig yn cael cryn abiws heb i ni sylwi ei fod o'n sefyll tu ôl i ni yn y ciw am banad ar ôl iddo gael ei eilyddio!!
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Brian Little wedi gadael Wrecsam

Postiogan Tevez » Iau 02 Hyd 2008 9:06 am

Ma'n debyg bod Dean Saunders yn cael i bennodi heddiw! Newyddion da iawn i Wrecsam dwi'n meddwl, ma'n hyfforddwr efo profiad ag yn foi uchelgeisiol. Odd hi'n hen bryd cal gwarad o Little a Foyle, ella a ni nol i chwara ffwtbol wan!
Tevez
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 12:34 pm

Re: Brian Little wedi gadael Wrecsam

Postiogan Owain » Iau 02 Hyd 2008 12:04 pm

Dwi'n gobeithio fod hwn yn gam da gan Wrecsam. Dwi wedi clywed lot fawr o bethau da am Saunders fel hyfforddwr, ond dyffyg profiad ydy'r unig broblem - ma'r Blue Square yn le anodd i fod i rywun sydd heb brofiad yn y math yma o gynghrair fyswn i'n tybio. Gobeithio neith o ffindio rhywun mwy profiadwol i weithio wrth ei ochr o - dyle fod yn ok wedyn. Martinez Wrecsam?
Rhithffurf defnyddiwr
Owain
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1895
Ymunwyd: Iau 14 Awst 2003 2:25 pm
Lleoliad: Aberystwyth neu Bont

Re: Brian Little wedi gadael Wrecsam

Postiogan Ray Diota » Iau 02 Hyd 2008 12:47 pm

Owain a ddywedodd:Dwi'n gobeithio fod hwn yn gam da gan Wrecsam. Dwi wedi clywed lot fawr o bethau da am Saunders fel hyfforddwr, ond dyffyg profiad ydy'r unig broblem - ma'r Blue Square yn le anodd i fod i rywun sydd heb brofiad yn y math yma o gynghrair fyswn i'n tybio. Gobeithio neith o ffindio rhywun mwy profiadwol i weithio wrth ei ochr o - dyle fod yn ok wedyn. Martinez Wrecsam?


dyw e am gario mlan da'i waith i Gymru 'fyd, tybed?
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Brian Little wedi gadael Wrecsam

Postiogan Ray Diota » Iau 02 Hyd 2008 12:51 pm

Ray Diota a ddywedodd:
Owain a ddywedodd:Dwi'n gobeithio fod hwn yn gam da gan Wrecsam. Dwi wedi clywed lot fawr o bethau da am Saunders fel hyfforddwr, ond dyffyg profiad ydy'r unig broblem - ma'r Blue Square yn le anodd i fod i rywun sydd heb brofiad yn y math yma o gynghrair fyswn i'n tybio. Gobeithio neith o ffindio rhywun mwy profiadwol i weithio wrth ei ochr o - dyle fod yn ok wedyn. Martinez Wrecsam?


dyw e am gario mlan da'i waith i Gymru 'fyd, tybed?


Bydd. Gwd.

Wrexham owner Geoff Moss will allow Saunders to combine his Racecourse role with his part-time job as Wales boss John Toshack's right-hand-man.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Brian Little wedi gadael Wrecsam - IEEEEEEEEEEEE!! -DEANO!!!

Postiogan løvgreen » Iau 02 Hyd 2008 1:24 pm

Gwynt teg ar ôl Little a'i 'anti-football'.
Croeso mawr i arwr Cymreig - DEEEEEEEEAANOOOOOO! :gwyrdd: :gwyrdd: :gwyrdd:
Newyddion da iawn, dwi'n meddwl.

(Er, wnes i feddwl ar y dechrau fod penodiad Little yn un da hefyd - :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 863
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm

Re: Brian Little wedi gadael Wrecsam

Postiogan Gwyn T Paith » Iau 02 Hyd 2008 1:46 pm

Chwarae teg i Deano am gymryd y swydd, dwi'n meddwl bod o'n uffar o gambl ar ei ran o. Os ydi brwdfrydedd yn sicrhau llwyddiant yna fydd Wrecsam yn saethu nol fyny'r gynghrair, ond yn anffodus mae yna fwy iddi na hynny yn does.

Dwi'n cofio Kevin Ratcliffe yn son pa mor rhywstredig oedd cynnal sesiynau ymarfer pan odd o yn reolwr Caer a Shrewsbury. Roedd rhaid iddo ofyn dwywaith neu dair i'r chwaraewr cyn odda nhw'n dallt / yn gallu neud be odd o eisiau iddyn nhw neud. I rhywun fel Rats odd wedi treulio rhan fwyaf ei yrfa chwarae ar y top, dim ond unwaith odd rhaid esbonio petha a faes ymarfer. Dwi'n meddwl geith Saunders yr un drafferth. Mae o wedi arfer delio gyda chwaraewyr llawer iawn mwy talentog na sydd yn Wrecsam. Mae ganddo llond trol o syniadau ynglyn a sut i chwarae, ond dwi'n ofni bydd y brwdfrydedd yn pylu wrth weld sesiynau ymarfer yn mynd ar chwâl...
"Meddwl yn ddwys am ddim byd o bwys."
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn T Paith
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Sul 28 Rhag 2003 3:46 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Brian Little wedi gadael Wrecsam

Postiogan eusebio » Iau 02 Hyd 2008 3:04 pm

Mae Deano 'di bod yn sesiynau ymarfer Wrecsam droeon - fe dreuliodd daufis bron efo'r clwb tymor diwethaf, felly mae o'n siwr o fod yn gwybod pa fath o bethau sydd yn ei ddisgwyl ...
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Brian Little wedi gadael Wrecsam

Postiogan løvgreen » Iau 02 Hyd 2008 3:14 pm

Cyfweliad Deano efo John Motson rai blynyddoedd yn ôl - http://uk.youtube.com/watch?v=_LyOlnvtUZE
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 863
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm

Re: Brian Little wedi gadael Wrecsam

Postiogan Gwyn T Paith » Iau 02 Hyd 2008 3:35 pm

eusebio a ddywedodd:Mae Deano 'di bod yn sesiynau ymarfer Wrecsam droeon - fe dreuliodd daufis bron efo'r clwb tymor diwethaf, felly mae o'n siwr o fod yn gwybod pa fath o bethau sydd yn ei ddisgwyl ...


A llwyddaint mawr oedd hynny yn amlwg!!
"Meddwl yn ddwys am ddim byd o bwys."
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn T Paith
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Sul 28 Rhag 2003 3:46 pm
Lleoliad: Caerdydd

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron