Cymru dan21 v Lloegr dan21

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cymru dan21 v Lloegr dan21

Postiogan Ray Diota » Llun 13 Hyd 2008 5:02 pm

Cynyr a ddywedodd:Gret o gem. Nes i fwynhau fod yno mewn awyrgylch da gyda ddigon o ganu, chantio a.y.b. Odd hyd yn oed peint dda yn y Ninian cyn y gem hefyd (nes i adael fy nghrys Abertawe adref wrth rheswm!!! :? )
Ma da fi biti dros un o stiwardiau'r Ninian ar ol iddo ddod i'n rhes sawl gwaith ofyn i ni eistedd. Chwarae teg odd e'n foi iawn er ei fod mynu ein bod yn eistedd gan fod iechyd a diogelwch yn bwysig. Blydi hel, iechyd a diogelwch?? ges i uffarn i sblintar yn fy nhin wrth eistedd ar y seddi pren!!!


Ramsey yn dangos yn glir pam fod Flynn yn ei gymharu a Fabregas. Dwi dal yn trio penderfyny os dwi'n cytuno ar sylwadau Speed ei fod ishe Ramsey gael ei gynnwys yn y tim hyn Nos Fercher yn hytrach na chwarae yn erbyn Lloegr. Fyddai ei rhoi yng nghanol cael nos Fercher yn cryfhau gobeithion Cymru o gael canlyniad yn yr Almaen ond ar yr un pryd mae wir ei angen yn y tim nos Fawrth!


dwi'n cytuno 'da speed - bydde un twtsh bach o class yn gneud byd o wahanieth yng nghanol cae yn erbyn y jyrmans... hefyd, ma ramsey di dangos bod e'm yn becso dam pwy ma'n whare yn erbyn, jyst mynd o gwmpas ei fusnes ma fe. yn ogystal, dyw'r jyrmans ddim yn nabod e... bydd 'da nhw ddim clem be ma fe'n mynd i neud...

dwi'n ofni fodd bynnag na fydd tim dan21 heb ramsey'n gallu curo'r sais, ond fydde well da fi bwynt yn yr almaen na mynd i sweden 'da'r u21s. yn pen draw, y tim cynta sy'n bwysig...?
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Cymru dan21 v Lloegr dan21

Postiogan Sleepflower » Mer 15 Hyd 2008 11:24 am

2-2 ar y noson, 5-4 dros y dau gymal.

Odd gôls Cymru yn arbennig, ac oedden nhw'n haeddu ennill ar y noson, a mynd a'r gêm i amser ychwanegol. Wedi dweud ni, nid oedd hi'n garden coch i Loegr, a wnaethon nhw'n dda i ladd pethe off ar ôl mynd lawr i 10 dyn.

Y gwir yw, bydde fe'n dwrnament decach a fwy disglair gyda Chymru a Lloegr yna haf nesa.

Mae'r ddyfodl yn edrych yn ddisglair i Gymru. Gan anwybyddu'r amlwg Aaron Ramsey, mae pleiyrs fel MacDonald, Church, Collinson a Wiggins yn edrych fel gallen nhw gyd ffitio fewn i'w uwchgynghriair yn hawdd (efallai ar ôl ambell sesiwn ar y weights o leia!).

Da iawn latsh. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cymru dan21 v Lloegr dan21

Postiogan joni » Mer 15 Hyd 2008 3:57 pm

Er lles unrhywun sydd ddim wedi cael y pleser o weld gol ramsey eto, dyma chi...
http://supergoller.blogspot.com/2008/10 ... video.html
...ynghyd a'r 3 gol arall wrth gwrs
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nôl

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron