Cynyr a ddywedodd:Gret o gem. Nes i fwynhau fod yno mewn awyrgylch da gyda ddigon o ganu, chantio a.y.b. Odd hyd yn oed peint dda yn y Ninian cyn y gem hefyd (nes i adael fy nghrys Abertawe adref wrth rheswm!!! )
Ma da fi biti dros un o stiwardiau'r Ninian ar ol iddo ddod i'n rhes sawl gwaith ofyn i ni eistedd. Chwarae teg odd e'n foi iawn er ei fod mynu ein bod yn eistedd gan fod iechyd a diogelwch yn bwysig. Blydi hel, iechyd a diogelwch?? ges i uffarn i sblintar yn fy nhin wrth eistedd ar y seddi pren!!!
Ramsey yn dangos yn glir pam fod Flynn yn ei gymharu a Fabregas. Dwi dal yn trio penderfyny os dwi'n cytuno ar sylwadau Speed ei fod ishe Ramsey gael ei gynnwys yn y tim hyn Nos Fercher yn hytrach na chwarae yn erbyn Lloegr. Fyddai ei rhoi yng nghanol cael nos Fercher yn cryfhau gobeithion Cymru o gael canlyniad yn yr Almaen ond ar yr un pryd mae wir ei angen yn y tim nos Fawrth!
dwi'n cytuno 'da speed - bydde un twtsh bach o class yn gneud byd o wahanieth yng nghanol cae yn erbyn y jyrmans... hefyd, ma ramsey di dangos bod e'm yn becso dam pwy ma'n whare yn erbyn, jyst mynd o gwmpas ei fusnes ma fe. yn ogystal, dyw'r jyrmans ddim yn nabod e... bydd 'da nhw ddim clem be ma fe'n mynd i neud...
dwi'n ofni fodd bynnag na fydd tim dan21 heb ramsey'n gallu curo'r sais, ond fydde well da fi bwynt yn yr almaen na mynd i sweden 'da'r u21s. yn pen draw, y tim cynta sy'n bwysig...?