Tudalen 1 o 2

ELVs

PostioPostiwyd: Maw 14 Hyd 2008 9:09 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
O'n i'n meddwl ein bod ni wedi cael edefyn penodol am hyn eisoes, ond hei ho...

Beth yw barn pobl am y rheolau newydd hyd yn hyn? Rhaid dweud mai dwy reol sy'n mynd dan fy nghroen i yn bennaf. Methu cicio o'r 22 ar ôl ei chymryd nôl mewn, sy'n arwain at ormod o gicio o lawer, a chicio i lanio tua metr tu fas i'r 22. (Hefyd, mae timau ofn colli'r bêl unrhyw le heblaw am yn 22 y gwrthwynebwyr, gan fod unrhyw achos (ha ha! medde nhw!) o fynd bant eich traed yn arwain at gic gosb i'r gwrthwynebwyr.) Yr ail yw cael gwared ar y sgarmes symudol (rolling maul), sy'n cael gwared ar arf ymosod defnyddiol ac effeithiol. Y ffordd ma' pethe'n mynd, man y man troi at rugby a treize, ddim, fel mae John O'Neill moyn.

Ond, hei, o leia' nad yw'r ciciau rhydd di-ddiwedd gyda ni, fel y gwelwyd ym mhencampwriaeth uffernol y Tair Gwlad.

Re: ELVs

PostioPostiwyd: Maw 14 Hyd 2008 9:40 am
gan ceribethlem
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:O'n i'n meddwl ein bod ni wedi cael edefyn penodol am hyn eisoes, ond hei ho...

Beth yw barn pobl am y rheolau newydd hyd yn hyn? Rhaid dweud mai dwy reol sy'n mynd dan fy nghroen i yn bennaf. Methu cicio o'r 22 ar ôl ei chymryd nôl mewn, sy'n arwain at ormod o gicio o lawer, a chicio i lanio tua metr tu fas i'r 22. (Hefyd, mae timau ofn colli'r bêl unrhyw le heblaw am yn 22 y gwrthwynebwyr, gan fod unrhyw achos (ha ha! medde nhw!) o fynd bant eich traed yn arwain at gic gosb i'r gwrthwynebwyr.) Yr ail yw cael gwared ar y sgarmes symudol (rolling maul), sy'n cael gwared ar arf ymosod defnyddiol ac effeithiol. Y ffordd ma' pethe'n mynd, man y man troi at rugby a treize, ddim, fel mae John O'Neill moyn.

Ond, hei, o leia' nad yw'r ciciau rhydd di-ddiwedd gyda ni, fel y gwelwyd ym mhencampwriaeth uffernol y Tair Gwlad.

Mae pob tim yn chwarae yn yr un steil, gyda canol cae yn drwm gyda amddiffynwyr gan fod ond angen dau/tri i dynnu lawr y sgarmes symudol. Un o'r pethau da am rygbi'r undeb yw fod gan gwahanol dimau gryfderau gwahanol, ac yn chwarae i'r cryfderau hynny. Mae gem da yn gymaint o geisio gorfodi dull a chyflymder addas ar y gem ac yw hi o diriogaeth a rheoli pel.

Re: ELVs

PostioPostiwyd: Maw 14 Hyd 2008 9:54 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
ceribethlem a ddywedodd:Mae pob tim yn chwarae yn yr un steil, gyda canol cae yn drwm gyda amddiffynwyr gan fod ond angen dau/tri i dynnu lawr y sgarmes symudol. Un o'r pethau da am rygbi'r undeb yw fod gan gwahanol dimau gryfderau gwahanol, ac yn chwarae i'r cryfderau hynny. Mae gem da yn gymaint o geisio gorfodi dull a chyflymder addas ar y gem ac yw hi o diriogaeth a rheoli pel.


Wel, wrth gwrs, mae pob tîm yn ceisio chwarae crash bang wallop yng nghanol cae bellach, gan fod mwy o fomentwm gyda'r amddiffyn bum metr nôl o'r llinell neu'r sgrym. Dyna pam y'n ni'n gweld y ffolineb o roi Jamie Roberts fel canolwr. Homogeneity rules OK.

Ffacin Aussies twp.

Re: ELVs

PostioPostiwyd: Maw 14 Hyd 2008 10:14 am
gan huwwaters
Dwi heb weld cymaint o wahaniaeth a hynny gyda'r newidiade (tra'n chware gêm) ond dwi'n ofni dipyn efo tynnu sgarmes symudol lawr. Dwi'n gweld anafiade gwirio yn digwydd fel tynnu cyhyrau, breichiau a choesau'n cael eu twistio etc.

Re: ELVs

PostioPostiwyd: Maw 14 Hyd 2008 10:25 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
huwwaters a ddywedodd:Dwi heb weld cymaint o wahaniaeth a hynny gyda'r newidiade (tra'n chware gêm) ond dwi'n ofni dipyn efo tynnu sgarmes symudol lawr. Dwi'n gweld anafiade gwirio yn digwydd fel tynnu cyhyrau, breichiau a choesau'n cael eu twistio etc.


Neu farwolaeth: http://newsgroups.derkeiler.com/Archive ... 03970.html

Re: ELVs

PostioPostiwyd: Maw 14 Hyd 2008 12:00 pm
gan joni
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Ffacin Aussies twp.

Wy'n credu bod y dyfyniad yna yn crynhoi'r holl beth yn bert.

Re: ELVs

PostioPostiwyd: Maw 14 Hyd 2008 12:38 pm
gan huwwaters
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:Dwi heb weld cymaint o wahaniaeth a hynny gyda'r newidiade (tra'n chware gêm) ond dwi'n ofni dipyn efo tynnu sgarmes symudol lawr. Dwi'n gweld anafiade gwirio yn digwydd fel tynnu cyhyrau, breichiau a choesau'n cael eu twistio etc.


Neu farwolaeth: http://newsgroups.derkeiler.com/Archive ... 03970.html


Wrth gwrs, ond dwi'n rhagweld pethe fel shoulder dislocations yn digwydd mor amal a troi ffer.

Re: ELVs

PostioPostiwyd: Maw 31 Maw 2009 10:58 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist

Re: ELVs

PostioPostiwyd: Maw 31 Maw 2009 1:28 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Popeth mewn, heblaw am lusgo'r sgarmes rydd lawr, pen islaw'r cluniau yn y sgarmes rydd, a dewis niferoedd yn y llinell.

Dal dim modd cicio i'r ystlys ar ôl pasio i'r 22. :drwg:

Ansicrwydd ynghylch p'un a fydd ciciau rhydd yn cymryd lle ciciau cosb. :drwg:

Re: ELVs

PostioPostiwyd: Maw 31 Maw 2009 2:01 pm
gan ceribethlem
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Ansicrwydd ynghylch p'un a fydd ciciau rhydd yn cymryd lle ciciau cosb. :drwg:
Bydd rhoi ciciau rhydd am bopeth ddim yn hybu mwy o redeg, mwy o dwyllo a lladd y bel bydd yn digwydd.
Doedd dim byd yn bod gyda'r hen reolau, y cyfan oedd angen oeddd iscrhau fod y dyfarnwyr yn eu dyfarnu'n gywir (fel dywed Brian Moore yn y linc hwpes di lan uchod).

Mae'n niddordeb i yn rgbi yn dechrau pylu ers dyfodiad yr ELV's, a nes i ddim mwynhau'r 6 Gwlad lot. Fel arfer byddai'n edrych mlaen i daith y Llewod (ac wedi bod ar yr un i Awstralia yn 2001), ond bellach sdim lot o ddiddordeb gyda fi yn y peth. Cyn y tymor hyn o'n i'n meddwl cael Sky Sports i wylio pob gem, nawr falle os mae mlan pan fi yn y dafarn byddai'n cael pip bach.