Gyfeillion, gallwch nawr bostio dolenni at leoliadau sy'n dangos gemau chwaraeon yn rhad ac am ddim ar y we (e.e. gemau Rygbi a pheldroed sydd ond ar gael ar Sky a Setanta ayb) mewn unrhyw edefyn, ond mae rhaid ei gynnwys oddi fewn i'r tagiau 'cuddio'. Bydd hyn yn golygu mai dim ond aelodau sydd wedi cofrestru â maes-e fydd yn gallu gweld y cyfeiriad gwe. e.e.
- Cod: Dewis popeth
[cuddio]www.gwefanarbennig.com[/cuddio]
a fydd yn edrych fel hyn
www.gwefanarbennig.com
Sylwch os nad ydych wedi cofrestru, ni fydd modd i chi weld y dolen uchod.
Mae croeso i chi ddefnyddio'r bbcode 'cuddio' hefyd ar gyfer unrhyw gynnwys arall nad ydych chi am i unrhyw un ond aelodau cofrestredig i'w weld.
Mae cofrestru yn rhad ac am ddim, ac yn agored i bawb wrth gwrs. Os nad ydych wedi cofrestru,
gallwch wneud yma.