Tudalen 2 o 2

Re: Gwylio unrhyw fath chwaraeon ar y we!!!

PostioPostiwyd: Maw 26 Mai 2009 6:21 pm
gan Gwenci Ddrwg
Syniad da. Faint o bel droed sydd arno fe'n yr haf.

Llawer os ti'n hoff o edrych ar gemau MLS. :lol:

Re: Gwylio unrhyw fath chwaraeon ar y we!!!

PostioPostiwyd: Llun 22 Meh 2009 9:12 pm
gan Hedd Gwynfor
Gyfeillion, gallwch nawr bostio dolenni at leoliadau sy'n dangos gemau chwaraeon yn rhad ac am ddim ar y we (e.e. gemau Rygbi a pheldroed sydd ond ar gael ar Sky a Setanta ayb) mewn unrhyw edefyn, ond mae rhaid ei gynnwys oddi fewn i'r tagiau 'cuddio'. Bydd hyn yn golygu mai dim ond aelodau sydd wedi cofrestru รข maes-e fydd yn gallu gweld y cyfeiriad gwe. e.e.

Cod: Dewis popeth
[cuddio]www.gwefanarbennig.com[/cuddio]


a fydd yn edrych fel hyn

www.gwefanarbennig.com

Sylwch os nad ydych wedi cofrestru, ni fydd modd i chi weld y dolen uchod.

Mae croeso i chi ddefnyddio'r bbcode 'cuddio' hefyd ar gyfer unrhyw gynnwys arall nad ydych chi am i unrhyw un ond aelodau cofrestredig i'w weld.

Mae cofrestru yn rhad ac am ddim, ac yn agored i bawb wrth gwrs. Os nad ydych wedi cofrestru, gallwch wneud yma.