URC, Rhanbarthau a rhyddhau chwaraewyr

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

URC, Rhanbarthau a rhyddhau chwaraewyr

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 23 Hyd 2008 3:24 pm

Beth yw eich barn chi am y sefyllfa sydd yn bodoli ar hyn o bryd?

Dwi newydd dderbyn ac arwyddo'r ddeiseb 'ma:

Rydym yn galw ar Gleision Caeryddd, Sgarlets Llanelli, Gweilch Castell Nedd-Abertawe a Dreigiau Casnewydd Gwent i wneud datganiad ar y cyd yn ymrwymo i:

- Ryddhau eu chwaraewyr rhyngwladol i hyfforddi gyda Chymru dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher nesaf,

- Barhau i drafod gydag Undeb Rygbi Cymru er mwyn sicrhau llwyddiant i'r timau cenedlaethol a rhanbarthol, gan gynnwys parhau i drafod unrhyw arian sydd yn ddyledus iddynt, ond gan wneud hyn heb gyfyngu ar argaeledd chwaraewyr rhyngwladol lle bynnag bo modd, ac

- Ymrwymo i ddyfodol newydd lle bydd yr Undeb a'r rhanbarthau yn gweithio mewn partneriaeth er lles dyfodol y gem yng Ngymru, heb ganiatau i elyniaeth personol chwarae unrhyw ran bellach yn rheolaeth y gem rydym oll yn ei charu.


http://www.ipetitions.com/petition/welshregions/
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: URC, Rhanbarthau a rhyddhau chwaraewyr

Postiogan ceribethlem » Iau 23 Hyd 2008 3:34 pm

Mae'n broblem anodd, gan fod cryn frwydro wedi bod i gael cwpan Eingl-Gymreig, ac yna mae URC yn disgwyl tynnu chwareuwyr mas o sgwadiau'r rhanbarthau er nid oedd hyn yn rhan o'r gytundeb ar ddechrau'r flwyddyn.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: URC, Rhanbarthau a rhyddhau chwaraewyr

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 23 Hyd 2008 3:51 pm

Mae URC yn trin y timau fel baw yn fy marn i. Mae 'na arian mawr i'w ennill o wneud yn dda yn yr EDF. Bydd gofynion yr undeb yn gwanhau'r timau i'r fath raddau nes y bydd ein chwaraewyr gorau ni i gyd yn mynd i dimau Ffrainc a Lloegr. Gewn ni weld sut bydd hi o ran cael ein chwaraewyr ni ar gyfer sesiynau hyfforddi wedyn.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: URC, Rhanbarthau a rhyddhau chwaraewyr

Postiogan ceribethlem » Iau 23 Hyd 2008 4:01 pm

Yup, mae tim fel y Gweilch yn mynd i golli'r mwyafrif helaeth o'i tim cyntaf os yw'r URC yn cael ei ffordd. Gan mae'r Gweilch sy'n talu'r arian i'r chwareuwyr yma, ac mae gem bwysig mewn cwpan sy'n werthfawr iawn yn ariannol gyda nhw.
Gan fod URC yn ceisio gorfodi rheol 7 Chwareuwr Tramor arnyn nhw hefyd, mae'n sefyllfa hollol annerbyniol. Yn barod 2/3 o'n prif mewnwyr (y ddau cyntaf gan fod Phillips ag anaf) yn chwarae yn Lloegr, fel ti'n dweud bydd mwy yn eu dilyn.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: URC, Rhanbarthau a rhyddhau chwaraewyr

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 23 Hyd 2008 4:06 pm

ceribethlem a ddywedodd:Yup, mae tim fel y Gweilch yn mynd i golli'r mwyafrif helaeth o'i tim cyntaf os yw'r URC yn cael ei ffordd. Gan mae'r Gweilch sy'n talu'r arian i'r chwareuwyr yma, ac mae gem bwysig mewn cwpan sy'n werthfawr iawn yn ariannol gyda nhw.
Gan fod URC yn ceisio gorfodi rheol 7 Chwareuwr Tramor arnyn nhw hefyd, mae'n sefyllfa hollol annerbyniol. Yn barod 2/3 o'n prif mewnwyr (y ddau cyntaf gan fod Phillips ag anaf) yn chwarae yn Lloegr, fel ti'n dweud bydd mwy yn eu dilyn.


Chwech o'r tymor nesaf. Bydd gwerth dross fel Rhys Webb a Wayne Evans yn cynyddu eto fyth.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: URC, Rhanbarthau a rhyddhau chwaraewyr

Postiogan Macsen » Iau 23 Hyd 2008 5:50 pm

Dw i'n cerdu bod Gatland wedi bod braidd yn fabiaidd gan ddweud ei fo o'n ystyried ei sefyllfa. Naill ai mae o'n chwarae'r Ruddock card a ceisio dychryn y timau mewn i ddilyn ei dennyn, neu yn poeni ei fod o wedi cyradd y brig gyda Cymru ac eisiau gadael cyn yr dirywiad anochel gyda'i enw da mewn un darn.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: URC, Rhanbarthau a rhyddhau chwaraewyr

Postiogan Lorn » Iau 23 Hyd 2008 6:43 pm

yn fy marn bach i mae hyn yn brawf os bu angen un erioed ein bod ni'r Cymry yn wych mewn un peth - ffraeo. Pan ni'n gweld llwyddiant mewn unrhyw faes mater o amser ydy hi cyn bod ffraeo'n dechrau ac yn cael datblygu i'r fath raddau fel bod pethau'n berryg iawn o lithro'n nol i'r hyn dan ni wedi arfer a fo - methiant.

Tra bod y ddau garfan yn ffraeo un peth gellir bod yn sicr ohono - rygbi yng Nghymru fydd yn dioddef
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: URC, Rhanbarthau a rhyddhau chwaraewyr

Postiogan ceribethlem » Gwe 24 Hyd 2008 7:25 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Yup, mae tim fel y Gweilch yn mynd i golli'r mwyafrif helaeth o'i tim cyntaf os yw'r URC yn cael ei ffordd. Gan mae'r Gweilch sy'n talu'r arian i'r chwareuwyr yma, ac mae gem bwysig mewn cwpan sy'n werthfawr iawn yn ariannol gyda nhw.
Gan fod URC yn ceisio gorfodi rheol 7 Chwareuwr Tramor arnyn nhw hefyd, mae'n sefyllfa hollol annerbyniol. Yn barod 2/3 o'n prif mewnwyr (y ddau cyntaf gan fod Phillips ag anaf) yn chwarae yn Lloegr, fel ti'n dweud bydd mwy yn eu dilyn.


Chwech o'r tymor nesaf. Bydd gwerth dross fel Rhys Webb a Wayne Evans yn cynyddu eto fyth.

Yn union, ydy cael pobl o safon Rhys Webb a Wayne Evans o fudd i rygbi yng Nghymru? Bydden i'n sicr yn cachu'n hunan rhywfaint pe bai un ohonyn nhw yn cyrraedd sgwad Cymru. Mae'n dangos nad oes digon o chwareuwyr yng Nghymru gyda ni i gynnal pedwar sgwad cystadleuol, ac mae angen dod a chwareuwyr o safon mewn.

Sy'n mynd a ni nol at y pwynt nad oes lle am dim rhanbarthol arall - boed hwnnw yn y Gogledd ai peidio. Het tin ymlaen, nawr te ble mae'r byncar 'na.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: URC, Rhanbarthau a rhyddhau chwaraewyr

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 24 Hyd 2008 8:10 am

Lorn a ddywedodd:yn fy marn bach i mae hyn yn brawf os bu angen un erioed ein bod ni'r Cymry yn wych mewn un peth - ffraeo. Pan ni'n gweld llwyddiant mewn unrhyw faes mater o amser ydy hi cyn bod ffraeo'n dechrau ac yn cael datblygu i'r fath raddau fel bod pethau'n berryg iawn o lithro'n nol i'r hyn dan ni wedi arfer a fo - methiant.

Tra bod y ddau garfan yn ffraeo un peth gellir bod yn sicr ohono - rygbi yng Nghymru fydd yn dioddef


Rygbi yng Nghymru fydd yn dioddef os bydd yr undeb yn ennill, heb os.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: URC, Rhanbarthau a rhyddhau chwaraewyr

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 24 Hyd 2008 9:09 am

All rywyn egluro i mi:

Be di'r sefyllfa yn Lloegr a Ffrainc ar gyfer rhyddhau chwaraewyr wythnos nesa? Ma'r IRB wedi dweud fod rhaid i Albanwyr sy'n chwarae yn Lloegr gael hyfforddi efo'r tim cenedlaethol ddydd Llun, Marwth a Mercher. Be am Saeson sy'n chware yn Lloegr, mae gandydn nhw gemau EDF hefyd.

Be di'r cysylltiad rhwng yr Undeb yn cael ei ffordd a chwaraewyr yn mynd i Loegr i chwarae?

Os oes cytundeb rhwng yr Undebau a'r rhanbarthau ar 13 niwrnod, yna be ydi sial y rhanbarthau dros geisio osgoi yr ymrwymiad mae nhw wedi ei wneud?

Sut mae penodiad Moffet a'i ddatganiadau yfflamychol a phersonnol eu natur ers hynny yn mynd i helpu pethau?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Nesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 42 gwestai