Dwi newydd dderbyn ac arwyddo'r ddeiseb 'ma:
Rydym yn galw ar Gleision Caeryddd, Sgarlets Llanelli, Gweilch Castell Nedd-Abertawe a Dreigiau Casnewydd Gwent i wneud datganiad ar y cyd yn ymrwymo i:
- Ryddhau eu chwaraewyr rhyngwladol i hyfforddi gyda Chymru dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher nesaf,
- Barhau i drafod gydag Undeb Rygbi Cymru er mwyn sicrhau llwyddiant i'r timau cenedlaethol a rhanbarthol, gan gynnwys parhau i drafod unrhyw arian sydd yn ddyledus iddynt, ond gan wneud hyn heb gyfyngu ar argaeledd chwaraewyr rhyngwladol lle bynnag bo modd, ac
- Ymrwymo i ddyfodol newydd lle bydd yr Undeb a'r rhanbarthau yn gweithio mewn partneriaeth er lles dyfodol y gem yng Ngymru, heb ganiatau i elyniaeth personol chwarae unrhyw ran bellach yn rheolaeth y gem rydym oll yn ei charu.
http://www.ipetitions.com/petition/welshregions/