Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.
Roeddwn i yno. Dwi ddim yn gwybod beth yn union ddigwyddodd - h.y. pwy ddechreuodd beth - ond roedd cefnogwyr o'r ddwy ochr yn taflu dyrnau. Fe dawelodd pethau'n sylweddol ar ôl i'r heddlu gyrraedd, er efallai bod cael yr hofrennydd uwchben braidd yn ormodol. Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n syniad da cael y ciw te a choffi yn ymyl cefnogwyr y Rhyl chwaith...
Mae'n syndod gen i gymaint o sylw mae'r ffeit yma rhwng dwsiwn o bobl wedi' gael gan y Wasg. Roedd cyrraedd Caerdydd am 8:30 nos Sadwrn (ar ol diwrnod heddychlon yn gwylio Cardiff City yn Llundain) fel cerdded i ganol War-zone.
Byddai'n llawer fwy buddiol pe tai'r BBC yn rhoi sylw i faterion fel hyn - (walesonline) - cyn pob gem rhyngwladol Cymru yn y rygbi.