Owain Tudur Jones

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Owain Tudur Jones

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 07 Chw 2009 10:20 pm

Mae dau o chwaraewr canol cae gorau Abertawe wedi anafu, mae Abertawe yn chwarae gyda 5 yn y canol, a dyw OTJ dal ddim yn gallu gwneud y garfan!! Roedd 7 chwaraewr canol cae yng ngharafn Abertawe heddiw + y ddau sydd gyda anaf, sy'n golygu fod OTJ tua 10fed yn y rhestr. Dyw e ddim wedi cael cyfle teg gan Martinez y tymor 'ma, a dwi'n credu ei fod yn amser iddo symud 'mlaen.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Owain Tudur Jones

Postiogan Rhods » Sad 07 Chw 2009 10:28 pm

Cytuno. Fe gafodd gyfle pam anafwyd Bodde, ond ni wnath cystal..dath Joe Allen mlan fel eilydd yn lle OTJ, yng nghanol gem Barnsley (pam o ni 2-0 lawr)dechre rhagfyr, chware blinder a dyw e ddim wedi edrych nol ers ni...

Fel i ni ar hyn o bryd, anodd i OTJ ddod mewn ir tim ...mae sion y bydde fe di mynd ar fenthychiad, ond dim byd di digwydd..

Shwr bo ti yn falch Hedd o gweld Abertawe yn camu tuag at y play offs ar gyfer y premiership.. :winc:


ON Awsome heddi bois, awsome....Roberto - ledgend 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Owain Tudur Jones

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 07 Chw 2009 11:23 pm

Fi'n falch iawn, iawn gweld yr Elyrch yn gwneud mor wych, chwarae teg, ond trueni nad oes mwy o Gymry yn y garfan. Ashley Williams a Joe Allen yn y tim 1af sy'n gret, ond byddai'n dda cael 3 neu 4 arall. Pam dim diddordeb mewn cymryd Ched ar fenthyg??
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Owain Tudur Jones

Postiogan Rhods » Sul 08 Chw 2009 1:08 am

Ma fe gyd i neud a cash.

Taswn ni yn prynnu Ched Evans (neu hyd yn oed ei fenthyg) bydd ei ffi ai gyflog yn yn enfawr...

Yn yr haf, fe roedd yna son am ninnau yn prynnu Eastwood - ond yn diwedd fe aeth e i Coventry am £1m+ a cyflog yn y 10k y.w bracket+ ...Fe aethon ni yn lle am Pintado am 70k a cyflog rhesymol. Mewn byd delfrydol, sa fe yn gret i brynu chwarewyr Cymru ond y gwir yw da ni methu fforddio fe - Ie, fe allwn cymryd benthyciad or banc, ond ma hynny yn golygu dyled ir clwb..A da ni gyd yn gwbod am hanes y Swans pam ma fe yn dod i ddyled - bron mynd mas o fodolaeth DWYWAITH yn y 25 mlynedd diwethaf...da ni yn sicr ddim mynd yn ol i hwnna.

Ma fe ddim jyst yn problem i Abertawe ond yn broblem i glybiau eraill hefyd...

O ran sgwad Abertawe, - ma da ni Ashely Williams sydd erbyn hyn yn regular yn nhim Toshack, ac yna Joe Allen , sydd yn ein 11 cyntaf - fe yn chware ir -21 ond yn CERT i ware ir tim llawn rhyngwadol o fewn y blwyddyn/ 2 flynedd nesaf...a wedyn ma Shaun Macdonlad sydd wedi sgleinio ir -21...oce, ma fe ddim yn ein tim cyntaf, ond fe ddaw...i fi, dwi yn meddwl bod e yn awsome...mater o amser yw e tan iddo dorri trwy ein tim cyntaf yn y Liberty. (ma fe ar fenthyg yn Yeovil am mis i cael gemau ac ennill profiad ac yn neud yn dda yn ol y son)...so dyw e ddim yn bad o gwbl o ran y Cymry yn y tim cyntaf. Dwi ddim yn deall y feirniadaeth ar y busnes bod gormod o sbaenwyr ma yn ein tim - sa nhw yn saeson, sa neb yn dweud dim. Cenfigen yw e gan rai ffans clybiau eraill dwi'n meddwl. A ma nhw wedi llwyddo - drychwch ar Rangel - premierhip class (ac mi ddath o random tim yn adran 3 cyngrair Sbaen am cinog a dime!!) ac wrth gwrs Gomez (chwaraewr anhygoel)...Ma Roberto mewn swydd i sicrhau llwyddiant Clwb Pel Droed Abertawe a dim i wasanaethu nac achub y tim cenedlaethol. Wrth gwrs, os ma na chwarewyr sydd yn bois lleol/Cymry yn y tim, gore oll (fel odd 2 chwaraewyr rhynglwadol/-21 allan o'r 11 heddi v Ipswich)...Yna i lwyddo gydar 11 gore ar y cae ma Roberto yn neud - a does dim ots os ma nhw yn Gymry,Saeson, Sbaenwyr, Ffraincwyr, Dutch etc etc ..

Ma Roberto a rheolaeth llawn dros y clwb ( o'r ieuenctid ir tim cyntaf), a ma fe ei hunain wedi dweud mai fframwaith tymor hir yw e o ran cael bois lleol yn y tim cyntaf...mae yn roi blaenoraieth enfawr i hyn. Fe ddywedodd y llynnedd ma e ei nod yw i gael 60% yn y sgwad yn bois lleol/Cymry yn y tymor hir hir. Rhowch gyfle iddo .........ac o ran OTJ, y gwironedd yw, dyw e ddim digon da ar hyn o bryd ac yn bell tu ol y canolwyr cae eraill mae arnai ofn...its tyff lyf! Fe all cesio frwydro nol yn y tim a gweithio yn galed a bod yn amyneddgar (gan edrych ar ffawd Alan Tate sydd wedi cael nifer o siomedigaethau leni ond erbyn hyn yn yr 11 af) neu fe all fynd i glwb arall ar fenthyg (gan chwaraewyr tan diwedd y mis dwi'n meddwl)...
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Owain Tudur Jones

Postiogan Josgin » Sul 08 Chw 2009 6:02 pm

Gwendid Owain Tudur Jones erioed fu ei siap. 'Bambi' oedd un llysenw yn Farrar Road, ac yr oedd anafiadau'n digwydd yn amlach nac y buasai unrhyw reolwr yn dewis. Petai Abertawe yngf ngwaelodion y bencampawraieth, neu yn y canol, efallai y buasai'n cael cyfle, ond mae'r disgwyliadau'n uchel gan Martinez . Wneith o ddim mentro chwarae hogyn sydd erioed wedi cael ffitrwydd tymor-hir. Biti , a'r gwendid yw nad oes clwb Cymreig o safon fymryn yn is bellach.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Owain Tudur Jones

Postiogan Cynyr » Llun 09 Chw 2009 10:56 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:trueni nad oes mwy o Gymry yn y garfan. Ashley Williams a Joe Allen yn y tim 1af sy'n gret, ond byddai'n dda cael 3 neu 4 arall.

Jiw jiw, ma Allen a OTJ yn siarad Cymraeg, sbosib fod hynny'n cyfri ddwbl :D

Na wir, ma da fi drueni dros y boi. Ma safon pel droed y clwb wedi gwella cymaint tra rodd OTJ yn dod dros ei anaf ag efallai nad yw ei steil yn siwtio math o chwarae Abertawe ar hyn o bryd. Fydden i'n falch oi weld yn mynd allan ar fenthyg er mwyn iddo chwarae bob wthnos a ma na ddigon o ddirordeb ynddo yn ol y son. Er, ro'n i'n rhyfeddu hefyd wrth sylwi fod e mas o'r garfan hyd yn oed ar ol colli Pratley am fis arall.

Es di lawr dydd Sadwrn Rhods? .......... cwestiwn dwl! :)
" And Britain defeats the rest of the world to pick up the bronze medal."
Rhithffurf defnyddiwr
Cynyr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 934
Ymunwyd: Llun 12 Gor 2004 10:37 am
Lleoliad: Clancrannock!!

Re: Owain Tudur Jones

Postiogan penn bull » Llun 09 Chw 2009 11:19 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dyw e ddim wedi cael cyfle teg gan Martinez y tymor 'ma



chwarae teg Hedd - di hyn ddim yn deg. Mae rhaid i Roberto chwarae'i 11 cryfa’. fe gafodd Owain gyfle yn y canol cyn i Joe Allen ddod 'nôl i Wrecsam.
Dwi'n ffan mawr o Owain, ac yn meddwl bo cael personoliaeth call ac aeddfed yn siŵr o fod yn fonws mawr i Abertawe. Ond os wyt ti'n meddwl bo Roberto wedi gneud tro gwael a Owain ti'n rong, ma Roberto yn arwain Abertawe ymlaen ar raddfa anhygoel a dwi'n siwr bo Owain yn gweld pwysigrwydd hyn hefyd.
My love she speaks like silence
Without ideals or violence
Rhithffurf defnyddiwr
penn bull
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 330
Ymunwyd: Llun 19 Rhag 2005 11:44 am
Lleoliad: newydd fynd mewn i dwnel (dim signal)

Re: Owain Tudur Jones

Postiogan eusebio » Iau 12 Chw 2009 11:04 am

Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Owain Tudur Jones

Postiogan garynysmon » Maw 24 Chw 2009 9:58 pm

Siawns geith Bangor bach mwy na'r £5k gwreiddiol rwan? :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Owain Tudur Jones

Postiogan Josgin » Maw 24 Chw 2009 10:03 pm

Mae angen pob dimai goch ar Bangor ar y funud !
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Nesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron