gan Rhods » Sul 08 Chw 2009 1:08 am
Ma fe gyd i neud a cash.
Taswn ni yn prynnu Ched Evans (neu hyd yn oed ei fenthyg) bydd ei ffi ai gyflog yn yn enfawr...
Yn yr haf, fe roedd yna son am ninnau yn prynnu Eastwood - ond yn diwedd fe aeth e i Coventry am £1m+ a cyflog yn y 10k y.w bracket+ ...Fe aethon ni yn lle am Pintado am 70k a cyflog rhesymol. Mewn byd delfrydol, sa fe yn gret i brynu chwarewyr Cymru ond y gwir yw da ni methu fforddio fe - Ie, fe allwn cymryd benthyciad or banc, ond ma hynny yn golygu dyled ir clwb..A da ni gyd yn gwbod am hanes y Swans pam ma fe yn dod i ddyled - bron mynd mas o fodolaeth DWYWAITH yn y 25 mlynedd diwethaf...da ni yn sicr ddim mynd yn ol i hwnna.
Ma fe ddim jyst yn problem i Abertawe ond yn broblem i glybiau eraill hefyd...
O ran sgwad Abertawe, - ma da ni Ashely Williams sydd erbyn hyn yn regular yn nhim Toshack, ac yna Joe Allen , sydd yn ein 11 cyntaf - fe yn chware ir -21 ond yn CERT i ware ir tim llawn rhyngwadol o fewn y blwyddyn/ 2 flynedd nesaf...a wedyn ma Shaun Macdonlad sydd wedi sgleinio ir -21...oce, ma fe ddim yn ein tim cyntaf, ond fe ddaw...i fi, dwi yn meddwl bod e yn awsome...mater o amser yw e tan iddo dorri trwy ein tim cyntaf yn y Liberty. (ma fe ar fenthyg yn Yeovil am mis i cael gemau ac ennill profiad ac yn neud yn dda yn ol y son)...so dyw e ddim yn bad o gwbl o ran y Cymry yn y tim cyntaf. Dwi ddim yn deall y feirniadaeth ar y busnes bod gormod o sbaenwyr ma yn ein tim - sa nhw yn saeson, sa neb yn dweud dim. Cenfigen yw e gan rai ffans clybiau eraill dwi'n meddwl. A ma nhw wedi llwyddo - drychwch ar Rangel - premierhip class (ac mi ddath o random tim yn adran 3 cyngrair Sbaen am cinog a dime!!) ac wrth gwrs Gomez (chwaraewr anhygoel)...Ma Roberto mewn swydd i sicrhau llwyddiant Clwb Pel Droed Abertawe a dim i wasanaethu nac achub y tim cenedlaethol. Wrth gwrs, os ma na chwarewyr sydd yn bois lleol/Cymry yn y tim, gore oll (fel odd 2 chwaraewyr rhynglwadol/-21 allan o'r 11 heddi v Ipswich)...Yna i lwyddo gydar 11 gore ar y cae ma Roberto yn neud - a does dim ots os ma nhw yn Gymry,Saeson, Sbaenwyr, Ffraincwyr, Dutch etc etc ..
Ma Roberto a rheolaeth llawn dros y clwb ( o'r ieuenctid ir tim cyntaf), a ma fe ei hunain wedi dweud mai fframwaith tymor hir yw e o ran cael bois lleol yn y tim cyntaf...mae yn roi blaenoraieth enfawr i hyn. Fe ddywedodd y llynnedd ma e ei nod yw i gael 60% yn y sgwad yn bois lleol/Cymry yn y tymor hir hir. Rhowch gyfle iddo .........ac o ran OTJ, y gwironedd yw, dyw e ddim digon da ar hyn o bryd ac yn bell tu ol y canolwyr cae eraill mae arnai ofn...its tyff lyf! Fe all cesio frwydro nol yn y tim a gweithio yn galed a bod yn amyneddgar (gan edrych ar ffawd Alan Tate sydd wedi cael nifer o siomedigaethau leni ond erbyn hyn yn yr 11 af) neu fe all fynd i glwb arall ar fenthyg (gan chwaraewyr tan diwedd y mis dwi'n meddwl)...