pw bigodd ar Bellers?

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

pw bigodd ar Bellers?

Postiogan Darth Sgonsan » Iau 12 Chw 2009 11:08 am

rywun yn gwybod pw gath ffrae efo chwaraewr mwya tanbaid a chenedlaetholgarus ein gwlad?

syniad twp oedd chwarae'r gem yn yr Algarf gyda llaw - yng nghyfnod y crynsh-cred, ddyla nhw wedi chwarae hon ar Ofal Gnarfon i roi hwb i goffra clwb ac ardal o Gymru.
(yn lle talu i'r sgwad a'r blazers fynd i'r Algarve, ddyla bo nhw'n noddi Brasiliad i chwarae i Gdydd/Y Tawe nes bod o'n dod yn 'Gymro' cymwys ratha Guerreiro.
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Re: pw bigodd ar Bellers?

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 12 Chw 2009 12:44 pm

Odd mynd i chwarae ym Mhortiwgal yn syniad da fi'n credu. Rhyw fath o ymarferiad 'bonding' ar gyfer y tîm oedd y bwriad mewn tywydd da lle roedd pawb yn gallu ymlacio. Rhywbeth munud olaf oedd y syniad o chwarae gêm yn erbyn Pwyl gan eu bod nhw yn ymarfer yno hefyd. Doedden nhw ddim yn disgwyl torf mawr os o gwbwl. Roedden i'n synnu fod cymaint a tua 500 yno!!

Ynglyn a'r 'cefnogwr' bu'n cecru gyda Bellamy, yn ôl un o sylwebyddion ar Radio Cymru, a oedd yn nabod y dyn oedd wedi bod yn cecru, "Hogyn o Bort" oedd e, a chamddealltwriaeth oedd y cwbwl. Doedd y dyn ddim yn bod yn gas at Bellars,fe oedd wedi cam-ddeall! :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: pw bigodd ar Bellers?

Postiogan Josgin » Iau 12 Chw 2009 4:31 pm

er enghraifft Cefnogwr ' Da iawn chi, Craig ; Ymdrech ardderchog, 'rydych yn gynt na milgi ! '
Bellamy ' Don't you call me a c..t ! '

Cefnogwr ' Na , rydych wastad yn ffyddlon i'ch cenedl '
Bellamy ' Now you've called me a b.....d ! '

Cefnogwr ' Ond, mae'r tim yn ffynnu '
Bellamy ' Don't you fa..y me ! '
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: pw bigodd ar Bellers?

Postiogan Gwyn T Paith » Iau 12 Chw 2009 6:21 pm

Dim camddealtwriaeth oedd hi, mi odd y "Boi o Port" yn bod yn dwat. Gath o cwpl o slaps gan ei ffrindiau am fod yn gymaint o diced yn ol son. Da iawn hefyd. Fedrai ddim deall unrhyw "gefnogwr" yn cael go ar Bellamy - does na neb wedi dangos mwy o ymroddiad na fo dros y blynyddoedd diwetha
"Meddwl yn ddwys am ddim byd o bwys."
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn T Paith
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Sul 28 Rhag 2003 3:46 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: pw bigodd ar Bellers?

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 12 Chw 2009 7:54 pm

Gwyn T Paith a ddywedodd:Dim camddealtwriaeth oedd hi, mi odd y "Boi o Port" yn bod yn dwat. Gath o cwpl o slaps gan ei ffrindiau am fod yn gymaint o diced yn ol son. Da iawn hefyd. Fedrai ddim deall unrhyw "gefnogwr" yn cael go ar Bellamy - does na neb wedi dangos mwy o ymroddiad na fo dros y blynyddoedd diwetha


Cytuno'n llwyr. Mae Bellamy yn hollol ymroddedig i'w wlad, ac mae'r tatŵs ar ei fraich yn profi hynny! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron