Cymru v Lloegr (6 Gwlad, Sad 14/02/09)

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymru v Lloegr (6 Gwlad, Sad 14/02/09)

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 12 Chw 2009 1:21 pm

Tîm Cymru i wynebu Lloegr ddydd Sadwrn: Lee Byrne; Leigh Halfpenny, Tom Shanklin, Jamie Roberts, Shane Williams; Stephen Jones, Michael Phillips; Gethin Jenkins, Matthew Rees, Adam Jones, Ian Gough, Alun-Wyn Jones, Ryan Jones (capten), Martyn Williams, Andy Powell Eilyddion: Huw Bennett, John Yapp, Luke Charteris, Dafydd Jones, Dwayne Peel, James Hook, Andrew Bishop

http://www.bbc.co.uk/cymru/chwaraeon/sa ... 0938.shtml
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cymru v Lloegr (6 Gwlad, Sad 14/02/09)

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 15 Chw 2009 12:17 pm

Beth yw'r farn gyffredin de bobl? :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cymru v Lloegr (6 Gwlad, Sad 14/02/09)

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 15 Chw 2009 2:00 pm

Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cymru v Lloegr (6 Gwlad, Sad 14/02/09)

Postiogan bartiddu » Sul 15 Chw 2009 2:07 pm

Oni'n disgwyl iddi fod yn agos, dyw'r sais byth yn rhoi lan yn rhwydd, mewn unrhyw gamp!
Oedd rhaid udo cicwyr Lloeger de? Anurddasol iawn :?
Ond da iawn fechgyn, plifio'r ceilog nesa'!
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: Cymru v Lloegr (6 Gwlad, Sad 14/02/09)

Postiogan Duw » Sul 15 Chw 2009 8:11 pm

Twll tin yn winco am y 20 olaf - ond ware teg, gêm arbennig o dda a phleserus. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cymru v Lloegr (6 Gwlad, Sad 14/02/09)

Postiogan ceribethlem » Llun 16 Chw 2009 12:05 am

Lloegr wedi creu game plan effeithiol iawn, er yn un negatif tu hwnt. Lladd y bel ar bob cyfle a gobeithio cadw'r sgor lawr, a chware teg iddyn nhw, fe nethon nhw fe'n dda. Bai ar Gymru am beidio a newid tactegau pam nad oedd y cynllun gwreiddiol yn gweithio. Byrne ddim mor awdurdodol ag arfer, a Phillips yn bell o'i orau. Mark Jones yn amlwg angen gemau i ddod dros ei lawdriniaeth, edrych yn araf braidd. Colli Shane Williams yn ergyd anferth i ni o ran creu pethe. Ar y cyfan odd e'n dangos i fi fod rhaid cael naill ai Henson neu Shane, mae colli'r ddau yn ergyd anferth.
Gobeithio bydd Lloegr yn curo'r Gwyddelod yn Choke Park. Y gem yn erbyn yr Eidal yn un go llipa, Gwyddelod yn dangos ei fod yn fregus iaawn pan mae'r amddiffyn yn dod lan yn ffyrnig. Y Gwyddelod yn troi at glatsho'n amal yn y hanner cynta', cyn iddyn nhw redeg bant a hi.
Ffrainc yn edrych yn fregus, eto, yn erbyn yr Alban.
Wedi dweud hynny, er bod ni'n chwarae'n weddol, ni'n bell o fod ar ein gorau, Henson mas (tan gem Ffrainc gobeithio), Ian Evans a Jonathan Thomas mas. Duncan Jones hefyd, er fod Gethin Jenkins yn troi mewn i fy Nuw newydd gyda'i berfformiadau, mae'n anhygoel.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cymru v Lloegr (6 Gwlad, Sad 14/02/09)

Postiogan Duw » Llun 16 Chw 2009 12:17 am

Cytuno Ceri, mae Gethin Jenkins yn arwr. Man of the Match ddoe, a mentraf ei fod yn ei haeddu wythnos ddiwetha hefyd. Nath y chwalu pen tyn yr Alban i racs (er ychydig o boro mewn). Hyfryd oedd clywed Kingsley Jones yn son amdano ar Scrum 5. Cywilydd ar JD/BM am ddewis Joe Worsley. Dwi ddim yn credu dwi erioed wedi gweld prop yn taclo cymaint, rhedeg cymaint, cynnig ei hun fel linc, pasio'n synhwyrol, ac yyb.

Bydd y Ffrancod allan i'n 'sbaddu - angen Shane yn ol. Angen Byrne i dorri'r llinell o dro i dro a chael Powell i redeg gyda chymorth. Beth yw'r siaws y welwn Championship decider rhwng Cymru ac Iwerddon eto?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cymru v Lloegr (6 Gwlad, Sad 14/02/09)

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 16 Chw 2009 10:16 am

Y pump blaen enillodd y gêm 'na i ni. Heb Shane a Gavin roedd yr ymosod yn llawer rhy hawdd ei ddarllen.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Cymru v Lloegr (6 Gwlad, Sad 14/02/09)

Postiogan Cardi Bach » Llun 16 Chw 2009 6:06 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Y pump blaen enillodd y gêm 'na i ni. Heb Shane a Gavin roedd yr ymosod yn llawer rhy hawdd ei ddarllen.


Cytuno am y pump blaen, a chytuno i radde gyda'r ail bwynt.
Ma Shane (yn fwy felly na Henson) ar ei orau pan fo'r bel yn gyflym, a'r chwarae ar chwal, y cyfleon hynny sy'n dangos Shane ar ei orau (er fod ganddo adegau o athrylith pur hefyd, e.e. yn erbyn yr Alban llynedd). Ond rodd Lloegr yn arafu'r bel n y contact ac yn lladd y bel mor effeithiol, fel nad oedd yr agoriadau hynny ar gael. Pe na byddai Lloegr wedi lladd y bel ee Tindall a Goode y tebygrwydd yw y bydde Cymru wedi cael dwy gais arall, a rhedeg bant a'r gem.

Ma Cymru yn fwy na Shane, ond pan nad yw'n chware mae e yn golled, heb os.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Cymru v Lloegr (6 Gwlad, Sad 14/02/09)

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 17 Chw 2009 10:47 am

Ond dyna sy'n wych am Shane yw ei fod e'n creu cyfleoedd o ddim byd ac yn llwyddo i roi'r tîm ar y droed flaen. Roedd Cymru'n euog o chwarae gormod o rygbi 'un mas', ond byddai Shane wedi cael modd i fyw ychydig yn bellach bant o'r pwynt 'na.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Nesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron