Tudalen 1 o 1

SCFC ar Prem

PostioPostiwyd: Mer 25 Chw 2009 10:46 pm
gan Rhods
Da ni yn cael ein disgrifio fel pel-droedwyr mwya slic a deniadol yr adran, 'The Style Kings' yw ein ffug enw ar Sky Sports. A fydd hyn yn ddigon i sicrhau dyrchafiad ir premiership? Yn mynd i fod yn anodd ond pwy a wyr? :winc:

ON 13 gem i fynd, 51 pwynt..os da ni yn ennill 7 a hyd yn oed gyda hynny colli 6...mae hynny yn 72 pwynt...digon i fod yn y top 6 ar play offs?? Faint o bwyntiau ar gyfartaledd yn y gorffennol mae'r tim sydd yn gorffen yn 6ed..70/71? Happy days!!! :winc:

Re: SCFC ar Prem

PostioPostiwyd: Gwe 06 Maw 2009 4:54 am
gan Gwenci Ddrwg
Dim ond 3 dan Preston, mae gynnoch chi siawns. Playoff yn erbyn Caerdydd? Reiadau ym mhob man? Falle.

Re: SCFC ar Prem

PostioPostiwyd: Mer 11 Maw 2009 4:32 pm
gan Rhods
9 gem i fynd , 6ed yn yr adran gyda gem mewn llaw............y breudduwd ar fin troi yn realiti? :D

Re: SCFC ar Prem

PostioPostiwyd: Sad 14 Maw 2009 8:21 pm
gan Hedd Gwynfor

Re: SCFC ar Prem

PostioPostiwyd: Sul 22 Maw 2009 8:55 pm
gan crynwyr
Yr ateb syml yw na! Cofio bod chi'n colli i ni bythefnos i heddiw

Re: SCFC ar Prem

PostioPostiwyd: Gwe 12 Meh 2009 8:53 am
gan Ger27
Be' ydi barn ffans y Swans ar Maes-e ynglyn a'r hyn sy'n mynd mlaen yn y Liberty?

Mae Abertawe, diolch yn bennaf i Roberto Martinez, wedi datblygu llawer fel clwb dros y 2/3 blynedd diwethaf. Roedd hi'n anochel bod Martinez am adael am glwb mwy fodd bynnag, ac anodd iawn fydd cyrraedd yr un lefel a tymor diwethaf ar ol llanast y bythefnos diwethaf... dim ots pwy fydd yn cael ei benodi fel y rheolwr newydd.

Barn Huw Jenkins, Cadeirydd SCFC am yr holl beth:
It has clearly ripped the heart out of our football club

Re: SCFC ar Prem

PostioPostiwyd: Gwe 12 Meh 2009 10:44 am
gan Gwyn T Paith
Mae cadeirydd Wigan, Dave Whelan, wedi cael ei weld yn siop JJB yng Nghaerdydd heddiw. Trio perswadio Dave Jones i fod yn is-hyfforddwr i Roberto tybed?

Re: SCFC ar Prem

PostioPostiwyd: Gwe 12 Meh 2009 11:20 am
gan Rhods
Mae'r sefyllfa yn Abertawe ar hyn o bryd yn real mess ac fel wedodd H Jenkings, ma be sydd wedi digwydd wedi 'rhwygo calon y clwb', a fi yn shwr bod na rhai 40 milltir lawr yr M4 yn dathlu hyn...

SCFC ar Prem ?? Aros yn yr adran yw'r bwriad nawr tymro nesaf..rhywle o 21st i fyny.....
Gyda'r sefyllfa yn newid da Roberto yn gadael, fe fydd chwaraewyr yn gadael - Rangel, Scotland, Bodde etc etc...ac anodd iawn fydd ffindo chwaraewyr iw cymreyd lle nhw gyda rheolwr newydd, unless bod e yn genius arall.(anhebygol)

Wrth son am Dave Jones, rhai di son am fe ar job yn Abertawe...ie, a ma moch yn hedfyn hefyd... :? dwi yn meddwl bod e yn rheolwr da, ond byddwn ni ddim am weld y 'long ball' yn Abertawe dim diolch..Ond wrth son am hynny, ma Gary Speed wedi cael ei lincio da'r job...ai mentor yw e Kevin Blackwell sydd yn obsesd da chware'r bel yn hir..Bydd rhai ar y maes yn falch gweld bod na argyfwng yn Abertawe ar hyn o bryd...Ai, 'Druan o Abertawe'... :crio: