Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan ceribethlem » Sad 28 Chw 2009 5:05 pm

Lot gormod o gamgymeriade, Cicio gwael i'r tim sydd mwyaf tebyg o wrthymosod! Pan ethon ni lan 13-3, ddyle ni wedi tynhau pethe lan tan hanner amser, bydde Ffrainc wedyn yn dechre gwylltio a neud pethe hurt. Lot o daclo Ffrainc yn ffyrnig o hwpo ni ar y goes ol yn gyson. Rhaid cyfaddef mai nhw oedd y tim gore ar y nos.

C'mon Lloegr!
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan Duw » Sad 28 Chw 2009 9:45 pm

ceribethlem a ddywedodd:C'mon Lloegr!


Ti off dy blydi slâts?

Stim ots 'da fi am beth sy'n siwtio Cymru. Dylai fod ein tynged o dan ein rheolaeth ni.

Iwerddon - da iawn bois!
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan ceribethlem » Sad 28 Chw 2009 11:59 pm

Duw a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:C'mon Lloegr!


Ti off dy blydi slâts?

Stim ots 'da fi am beth sy'n siwtio Cymru. Dylai fod ein tynged o dan ein rheolaeth ni.

Iwerddon - da iawn bois!

Dim i wneud gyda beth sy'n siwto ni. Fi ddim yn lico tim rygbi Iwerddon, o gwbwl. O'n i ishe i Ffrainc, wedyn yr Eidal, a heddi Lloegr, i guro nhw. Gem nesa byddai moyn yr Alban i guro nhw, ac wrth reswm ni yn y gem olaf.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan Josgin » Sul 01 Maw 2009 8:35 am

Ydi o'n iawn i alw'r Ffrancwyr yn gociau-wyn ?.
Mae yna ddigon o wefanau a fuasai wedi gwahardd y sylw yna.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan Duw » Sul 01 Maw 2009 9:16 am

ceribethlem a ddywedodd:Fi ddim yn lico tim rygbi Iwerddon, o gwbwl. O'n i ishe i Ffrainc, wedyn yr Eidal, a heddi Lloegr, i guro nhw. Gem nesa byddai moyn yr Alban i guro nhw, ac wrth reswm ni yn y gem olaf.


Digon teg. Dwi'n teimlo'n gwmws yr un peth am Loegr.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan Macsen » Sul 01 Maw 2009 9:40 am

Mae gan y Ffrancwyr y gallu i greu perfformiad fel yna'n achlysurol ond mae nhw fel arfer yn gwneud i fyny am y peth yn y gem nesa - swn i'm yn synnu petai nhw'n colli yn Twickenham rwan!

Roedd Cymru'n siomedig a dw i'n poeni ar brydiau bod Gatland a Shaun wedi grindio'r hen hud allan ohonyn nhw. Weithiau dyw gwneud y pethau syml yn iawn ddim yn ddigon i ennill gem fel yna a mae angen dipyn o sbarc o rywle.

Bydd rhaid i Gymru obeithio rhoi sgor criced ar yr Eidal yn y gem nesaf a wedyn maeddu Iwerddon yn y gem olaf, blaw bod yr Alban yn eu curo nhw gynta' wrth gwrs!
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 01 Maw 2009 11:00 am

Macsen a ddywedodd:Roedd Cymru'n siomedig a dw i'n poeni ar brydiau bod Gatland a Shaun wedi grindio'r hen hud allan ohonyn nhw. Weithiau dyw gwneud y pethau syml yn iawn ddim yn ddigon i ennill gem fel yna a mae angen dipyn o sbarc o rywle.


Dwi ddim yn ctuno Macsen. Roedd cynllun Gatland ar gyfer y gem i'w weld yn iawn, y broblem oedd yr holl blydi gamgymeriadau unigol gan chwaraewyr profiadol fel Shane Williams, Ryan Jones, Lee Byrne ayb, ayb... Roedd yr holl gamgymeriadau yn golygu ei fod yn amhosib sefydlu patrwm, ac yn digalonni gweddill y chwaraewyr. Dydd gwael yn y swyddfa :? ond dwi dal yn gweld siawns dda y byddwn dal yn ennill y bencampwriaeth.

Cytuno bod siawns da iawn y bydd Lloegr yn curo Ffrainc, a dwi'nm hyderus y byddwn ni'n curo'r Eidal (er fod Gatland yn debygol o chwarae ei ail dim), ac Iwerddon. Sut ma nhw'n penderfynnu ennillwyr y gystadleuaeth os oes dau dim gyda'r un faint o bwyntiau? Head to Head? Nifer uchaf o geisiau? Nifer uchaf o bwyntiau? Gwahaniaeth pwyntiau?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan Duw » Sul 01 Maw 2009 12:45 pm

Ma rhyw gof gen i bod timoedd yn rhannu'r bencampwriaeth os oes yr un nifer y pwyntie 'da nhw. Ar y llaw arall ma rhyw gof 'da fi bod 'sgrabl' mawr am bwyntie un flwyddyn oherwydd rhoedd gwahaniaeth pwyntie'n bwysig.

Yn bersonol, dwi'n casau'r syniad o rannu, er dwi'n casau'r syniad o rwbeth mor annheg â gwahaniaeth pwyntie - a fydd yn dod lawr i bwy sy'n gallu sgorio'r mwya'n erbyn yr Eidalwyr? :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan Macsen » Sul 01 Maw 2009 1:49 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Roedd cynllun Gatland ar gyfer y gem i'w weld yn iawn, y broblem oedd yr holl blydi gamgymeriadau unigol gan chwaraewyr profiadol fel Shane Williams, Ryan Jones, Lee Byrne ayb, ayb...

Dwi'n cytuno am y camgymeriadau ond roedd gwallau yn y cynllyn hefyd. E.e. Pam cicio'r bel i ffwrdd gymaint at dim sydd mor dda yn gwrthymosod gyda'r bel?

Hedd Gwynfor a ddywedodd:dwi dal yn gweld siawns dda y byddwn dal yn ennill y bencampwriaeth. Cytuno bod siawns da iawn y bydd Lloegr yn curo Ffrainc, a dwi'nm hyderus y byddwn ni'n curo'r Eidal (er fod Gatland yn debygol o chwarae ei ail dim)...

Dw i ddim yn credu all Gatland fforddio chwarae ei ail dim yn erbyn yr Eidal, gan bod Cymru 20 pwynt y tu ol i Iwerddon. Hyd yn oed pe bai Cymru yn maeddu Iwerddon bydda'r gwyddelod dal yn ennill y bencampwriaeth (gan gymryd eu bod nhw'n curo'r Alban) os ydyn nhw ar y blaen o ran gwahaniaeth pwyntiau.

Dwi'm yn credu wneith o wahaniaeth beth bynnag. Mae Hanes, y Big Mo, beth bynna ydach chi eisiau ei alw fo ar ochor Iwerddon nawr fel oedd o ar ochor Cymru yn '05 a '08... Grand Slam fydd hi.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan ceribethlem » Sul 01 Maw 2009 4:44 pm

Duw a ddywedodd:Ma rhyw gof gen i bod timoedd yn rhannu'r bencampwriaeth os oes yr un nifer y pwyntie 'da nhw. Ar y llaw arall ma rhyw gof 'da fi bod 'sgrabl' mawr am bwyntie un flwyddyn oherwydd rhoedd gwahaniaeth pwyntie'n bwysig.

Dyna'r hen system. Pan gethon ni'r goron driphlyg ym 1988, nethon ni rhannu'r bencampwriaeth gyda Ffrainc. Ym 1994 ennillon ni'r bencampwriaeth er i ni golli i Loegr yn y gem olaf, roedd angen i Loegr guro ni o dros 30 neu rhywbeth, a dim ond rhyw 9 gethon nhw. Os byddwn ni'n rhoi diawl o doncad i'r Eidal a bod pawb arall yn cael gemau agos, ddyle curo'r Gwyddelod rhoi'r bencampwriaeth i ni.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai

cron