Tudalen 1 o 5

Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

PostioPostiwyd: Gwe 27 Chw 2009 9:08 am
gan ceribethlem
Gem nos Wener cyntaf yn hanes y 4/5/6 Gwlad heno. Cymru mas yn herio Ffrainc.
Ffrainc wedi dewis clamp o ganolwr i geisio ymateb i rinweddau corfforol Jamie Roberts. Yn rhyfedd, wedi dewis Benoit Baby fel maswr. Fi'n shwr bydd pobl megis Mike Phillips a Stephen Jones yn edrych i ropi pwysau ar ei gem gicio heno.

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

PostioPostiwyd: Gwe 27 Chw 2009 11:02 am
gan Sleepflower
Yn dilyn dewisiadau tîm Ffrainc, fi'n rhagweld gêm corfforol ac agos. Ma fy nghalon yn dweud Cymru, a fy mhen yn dweud... mmm... Cymru 'fyd.

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

PostioPostiwyd: Gwe 27 Chw 2009 1:27 pm
gan ceribethlem
Sleepflower a ddywedodd:Yn dilyn dewisiadau tîm Ffrainc, fi'n rhagweld gêm corfforol ac agos. Ma fy nghalon yn dweud Cymru, a fy mhen yn dweud... mmm... Cymru 'fyd.

Gem corfforol mynd i siwto Cymru. Pump blaen Ffrainc yn edrych yn fregus.

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

PostioPostiwyd: Gwe 27 Chw 2009 6:18 pm
gan Duw
Mae'n rhaid cofio bod Ffrainc wedi perfformio'n gymharol wael hyd at hyn a dal wedi gwneud mes o'r Alban. Dwi ddim yn hyderus bo ganddynt y chwaraewr 'i glicio', ond os oes, bydd yn gem gyffrous. Er, dwi ddim ishe gweld Cymru'n chwarae'n debyg i'r gem a wnaethant chwarae yn ystod ymgyrch y gamp lawn gyntaf. Os bydd 'Melon' yn ware i'w lawn botensial, duw a help rhai o'r canolwyr - bydd dim amser o gwbl ganddynt ar y bêl! C'mon fat kid.

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

PostioPostiwyd: Gwe 27 Chw 2009 7:10 pm
gan Chickenfoot
ceribethlem a ddywedodd: Benoit Baby fel maswr.


Cystadleuwr am ene gorau ym mhyd chwaraeon. Pob lwc i Gymru heno.

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

PostioPostiwyd: Gwe 27 Chw 2009 11:42 pm
gan Hedd Gwynfor
mmm...

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

PostioPostiwyd: Sad 28 Chw 2009 12:36 am
gan Duw
mmm... wir

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

PostioPostiwyd: Sad 28 Chw 2009 1:38 am
gan Chickenfoot
mmmmm?

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

PostioPostiwyd: Sad 28 Chw 2009 10:54 am
gan Orcloth
Hen dro, de hogia - gobeithio neith y cocia-oen dagu ar eu malwod a'u coesau llyffant, wir! :lol:

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

PostioPostiwyd: Sad 28 Chw 2009 11:01 am
gan Duw
Wek, Ffrainc wedi clicio. Chwaraeon nhw'n dda. Pam ar y ddaear wnaethon ni gicio popeth i ffwrdd? Shanks wedi cael gem da, er Ryan Jones wedi colli sawl tacl - '?' amdano fe am y gem nesa.