Hedd Gwynfor a ddywedodd:Roedd cynllun Gatland ar gyfer y gem i'w weld yn iawn, y broblem oedd yr holl blydi gamgymeriadau unigol gan chwaraewyr profiadol fel Shane Williams, Ryan Jones, Lee Byrne ayb, ayb...
Dwi'n cytuno am y camgymeriadau ond roedd gwallau yn y cynllyn hefyd. E.e. Pam cicio'r bel i ffwrdd gymaint at dim sydd mor dda yn gwrthymosod gyda'r bel?
Hedd Gwynfor a ddywedodd:dwi dal yn gweld siawns dda y byddwn dal yn ennill y bencampwriaeth. Cytuno bod siawns da iawn y bydd Lloegr yn curo Ffrainc, a dwi'nm hyderus y byddwn ni'n curo'r Eidal (er fod Gatland yn debygol o chwarae ei ail dim)...
Dw i ddim yn credu all Gatland fforddio chwarae ei ail dim yn erbyn yr Eidal, gan bod Cymru 20 pwynt y tu ol i Iwerddon. Hyd yn oed pe bai Cymru yn maeddu Iwerddon bydda'r gwyddelod dal yn ennill y bencampwriaeth (gan gymryd eu bod nhw'n curo'r Alban) os ydyn nhw ar y blaen o ran gwahaniaeth pwyntiau.
Dwi'm yn credu wneith o wahaniaeth beth bynnag. Mae Hanes, y Big Mo, beth bynna ydach chi eisiau ei alw fo ar ochor Iwerddon nawr fel oedd o ar ochor Cymru yn '05 a '08... Grand Slam fydd hi.