Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 03 Maw 2009 11:17 am

Ta beth, mond i weud mai perfformiad campus gan y Mwnciod Ildiol Caws-fwyta a'n curodd ni. Dy'n ni ddim yn sydyn yn dim gwael.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan ceribethlem » Maw 03 Maw 2009 12:17 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Ta beth, mond i weud mai perfformiad campus gan y Mwnciod Ildiol Caws-fwyta a'n curodd ni. Dy'n ni ddim yn sydyn yn dim gwael.

Cywir, mae'r hysteria ma'n rhyfeddol. Buddugoliaeth i dim Ffrainc yn y gem gorau iddyn nhw chwarae ers 2007! Sdim rheswm digaolni yn hynny o beth, mae Ffrainc ar eu dydd yn gallu curo pawb gan gynnwys SN. Ac fe allen ni, gyda twtsh o lwc, fod wedi cipio'r gem.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan Macsen » Maw 03 Maw 2009 12:44 pm

Hysteria!?! Dylen ni ddisgwyl ennill BOB GEM rygbi, ac mae unrhywbeth llai na afrif Gampau Lawn flwyddyn ar ol blwyddyn yn anfaddeuol. Os nad yw Gatland yn medru sicrhau hynny dyle fo wneud lle i rywun sydd yn. Bydd rhaid iddo ennill o leia dau Gwpan y Byd i wneud fyny am y perfformiad dydd Gwener yn fy ngolwg i.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan joni » Maw 03 Maw 2009 2:02 pm

ceribethlem a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Ta beth, mond i weud mai perfformiad campus gan y Mwnciod Ildiol Caws-fwyta a'n curodd ni. Dy'n ni ddim yn sydyn yn dim gwael.

Cywir, mae'r hysteria ma'n rhyfeddol. Buddugoliaeth i dim Ffrainc yn y gem gorau iddyn nhw chwarae ers 2007! Sdim rheswm digaolni yn hynny o beth, mae Ffrainc ar eu dydd yn gallu curo pawb gan gynnwys SN. Ac fe allen ni, gyda twtsh o lwc, fod wedi cipio'r gem.

A heb un cheating referee. Every bloody time, mun.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan Duw » Maw 03 Maw 2009 8:45 pm

ceribethlem a ddywedodd:Cywir, mae'r hysteria ma'n rhyfeddol. Buddugoliaeth i dim Ffrainc yn y gem gorau iddyn nhw chwarae ers 2007! Sdim rheswm digaolni yn hynny o beth, mae Ffrainc ar eu dydd yn gallu curo pawb gan gynnwys SN. Ac fe allen ni, gyda twtsh o lwc, fod wedi cipio'r gem.


Cofia, os o'n ni wedi, bydde wedi bod braidd yn erbyn rhediad y gem. Roedd Ffrainc (sylwch dim expletives!) yn llond haeddu ennill. Os ydy Stephen Jones yn cicio'r holl meddiant i ffwrdd eto, gallwn ddisgwyl probleme tebyg yn y ddwy gem sy'n weddill. Be yn y byd sy'n bod ar gadw meddiant neu ennill tir? Y peth diwetha roedd Ffrainc ishe oedd chwarae rygbu yn 22 eu hunain. Mae'n rhaid bo rhywun ar y cae yn gallu newid y cynllun a chwarae patrwm sy'n ymateb i'r dasg gyfredol.

BTW: oes rhywun yn gwybod sawl gwaith 'nath Shane gyffwrdd y bel? Ychydig iawn o be dwi'n cofio (dim llawer ar ol yr holl Guinness) - be di'r pwynt ei gael e'n holliach os nac oes ffordd o'i ddefnyddio?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan Cardi Bach » Mer 04 Maw 2009 10:53 am

O'r hyn o'n i'n ei weld yn y gem, o'n i o'r farn mai Cymru chwaraeodd yn wael, ac nid Ffrainc a chwaraeodd yn dda.

Fel sydd wedi ei son ishws, odd Cymru wedi gwneud nifer anghyffredin o gamgymeriade.
Welon ni nesa peth i ddim o Shane na Halfpenny, ac am yr ail gem yn olynol welon ni ddim o Jamie Roberts.

Fel arfer mae'r ffaith fod y cefnwyr yn anweladwy yn symptom o'r ffaith fod y pac yn methu a gwneud eu gwaith, ond doedd hyn ddim yn wir nos Wener, o'r hyn o'n i'n weld odd y pac yn itha fishi! Hefyd, mae rhai ar y cyfryngau wedi dweud na gafodd Cymru y bel am hanner awr yn yr ail hanner, ond dyw hynna ddim yn wir. Pan gafodd Cymru y bel ro'n ni naill ai yn ei chicio ddi nol, a hynny'n wael, neu yn ei cholli ddi yn ardal y dacl. Mae hyn yn gwbl annodweddiadol o Gymru o dan arweiniad Gatland.

Mae Cymru yn chwarae gem gwbl, gwbl syml - lledu'r chwarae o'r chwith i'r dde; ail-gylchu'r bel, yna mynd yn ol i'r chwith, yna yn ol i'r dde, ac yn y blaen.
- Gem 'teritorial' - ennill y tir cyn stretsho'r gwrthwynebwyr a gadael i Jamie Roberts neu Andy Powell i dorri tyllau yn yr amddiffyn (neu Shanklin, gan mai dim ond fe wnaeth unrhyw argraff Nos Wener), ac yna gall y tri ol edrych yn dda yn rhedeg y ceisiau i fewn.
- Ffitrwydd - y gallu i flino y gwrthwynebwyr, a manteisio ar hyn ar ddiwedd 80 munud.
- Cyhyrau - cadw'r bel, ac ennill ardal y dacl.

Y pryder yn dilyn y ddwy gem ddiwethaf yw pan nad yw'r cynllun yn gweithio, er enghraifft fod amddiffyn y gwrthwynebwyr yn gadarn, yn ffyrnig ac yn dwyn y bel, neu pan eu bod nhw yn canolbwyntio ar chwalu y ddau 'line-breaker' yn y dacl, nad yw'r tim yn gallu meddwl yn ddigon chwim i newid y cynllun. O'n i'n anhapus fod Gatland wedi tynnu Stephen oddi ar y cae am fod e yn un o'r ychydig ar nos Wener ddangosodd ei fod yn fodlon newid ei gem. Pan fo'r gwrthwynebwyr yr un mor ffit os nad yn fwy ffit, ac yr un mor gryf os nad yn gryfach yna mae rhaid gallu newid arddull y chwarae.

Mae Gatland yn iawn i ganolbwyntio ar y dair elfen yma, dyma wedi'r cwbl beth sydd am ddod a'r pwyntiau ar y bwrdd ac ennill y gem, a dyma ardaloedd lle'r oedd Cymru yn wan iawn ynddyn nhw tan yn ddiweddar, ond eto, rhaid i'r bois ar y cae, neu i'r capten roi arweiniad, i newid y chwarae.

Fe ddywedodd Gatland mewn cyfweliad cyn y gem ei fod yn hapus fod Cymru yn gallu chwarae dwy steil o rygbi yn gyfforddus - rygbi agored, a rygbi tynn. Dyw'r dystiolaeth ddim yn cyd-fynd a hynny.

Falle fod colled nos Wener am fod yn well gem i Gymru ddysgu ohono na'r fuddigoliaeth yn erbyn Lloegr.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan Duw » Mer 04 Maw 2009 11:59 am

Cardi Bach a ddywedodd:Falle fod colled nos Wener am fod yn well gem i Gymru ddysgu ohono na'r fuddigoliaeth yn erbyn Lloegr.

Cytuno'n llwyr.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 04 Maw 2009 12:24 pm

Ond Cardi, mae dy ddadl di'n diystyru braidd yr effaith a gafodd perfformiad Ffrainc ar ein perfformiad ni. Yr hyn oedd yn dda am Ffrainc oedd y pwyse iddyn nhw'i roi arnon ni i orfodi'r camgymeriade a welwyd gan sawl chwaraewr.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan joni » Mer 04 Maw 2009 12:57 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Yr hyn oedd yn dda am Ffrainc oedd y pwyse iddyn nhw'i roi arnon ni i orfodi'r camgymeriade a welwyd gan sawl chwaraewr.

peswch *offside* peswch...
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 04 Maw 2009 2:29 pm

Amhosib i fi weld gan mai ar y pen o'n i'n eistedd a heb weld y gêm ers 'ny. Ond y pwyse'n fwy na dim ond defnyddio'r blitz. Roedd gwaith Dusautoir yn ardal y dacl a'r cicio i'r tri ôl yn arbennig o gryf.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai

cron