gan Cardi Bach » Mer 04 Maw 2009 10:53 am
O'r hyn o'n i'n ei weld yn y gem, o'n i o'r farn mai Cymru chwaraeodd yn wael, ac nid Ffrainc a chwaraeodd yn dda.
Fel sydd wedi ei son ishws, odd Cymru wedi gwneud nifer anghyffredin o gamgymeriade.
Welon ni nesa peth i ddim o Shane na Halfpenny, ac am yr ail gem yn olynol welon ni ddim o Jamie Roberts.
Fel arfer mae'r ffaith fod y cefnwyr yn anweladwy yn symptom o'r ffaith fod y pac yn methu a gwneud eu gwaith, ond doedd hyn ddim yn wir nos Wener, o'r hyn o'n i'n weld odd y pac yn itha fishi! Hefyd, mae rhai ar y cyfryngau wedi dweud na gafodd Cymru y bel am hanner awr yn yr ail hanner, ond dyw hynna ddim yn wir. Pan gafodd Cymru y bel ro'n ni naill ai yn ei chicio ddi nol, a hynny'n wael, neu yn ei cholli ddi yn ardal y dacl. Mae hyn yn gwbl annodweddiadol o Gymru o dan arweiniad Gatland.
Mae Cymru yn chwarae gem gwbl, gwbl syml - lledu'r chwarae o'r chwith i'r dde; ail-gylchu'r bel, yna mynd yn ol i'r chwith, yna yn ol i'r dde, ac yn y blaen.
- Gem 'teritorial' - ennill y tir cyn stretsho'r gwrthwynebwyr a gadael i Jamie Roberts neu Andy Powell i dorri tyllau yn yr amddiffyn (neu Shanklin, gan mai dim ond fe wnaeth unrhyw argraff Nos Wener), ac yna gall y tri ol edrych yn dda yn rhedeg y ceisiau i fewn.
- Ffitrwydd - y gallu i flino y gwrthwynebwyr, a manteisio ar hyn ar ddiwedd 80 munud.
- Cyhyrau - cadw'r bel, ac ennill ardal y dacl.
Y pryder yn dilyn y ddwy gem ddiwethaf yw pan nad yw'r cynllun yn gweithio, er enghraifft fod amddiffyn y gwrthwynebwyr yn gadarn, yn ffyrnig ac yn dwyn y bel, neu pan eu bod nhw yn canolbwyntio ar chwalu y ddau 'line-breaker' yn y dacl, nad yw'r tim yn gallu meddwl yn ddigon chwim i newid y cynllun. O'n i'n anhapus fod Gatland wedi tynnu Stephen oddi ar y cae am fod e yn un o'r ychydig ar nos Wener ddangosodd ei fod yn fodlon newid ei gem. Pan fo'r gwrthwynebwyr yr un mor ffit os nad yn fwy ffit, ac yr un mor gryf os nad yn gryfach yna mae rhaid gallu newid arddull y chwarae.
Mae Gatland yn iawn i ganolbwyntio ar y dair elfen yma, dyma wedi'r cwbl beth sydd am ddod a'r pwyntiau ar y bwrdd ac ennill y gem, a dyma ardaloedd lle'r oedd Cymru yn wan iawn ynddyn nhw tan yn ddiweddar, ond eto, rhaid i'r bois ar y cae, neu i'r capten roi arweiniad, i newid y chwarae.
Fe ddywedodd Gatland mewn cyfweliad cyn y gem ei fod yn hapus fod Cymru yn gallu chwarae dwy steil o rygbi yn gyfforddus - rygbi agored, a rygbi tynn. Dyw'r dystiolaeth ddim yn cyd-fynd a hynny.
Falle fod colled nos Wener am fod yn well gem i Gymru ddysgu ohono na'r fuddigoliaeth yn erbyn Lloegr.