Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan joni » Mer 04 Maw 2009 2:46 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:...a'r cicio i'r tri ôl yn arbennig o gryf.

hawdd rhoi cwrs i gic pan ti'n dachre o flaen y ciciwr...
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 04 Maw 2009 3:47 pm

joni a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:...a'r cicio i'r tri ôl yn arbennig o gryf.

hawdd rhoi cwrs i gic pan ti'n dachre o flaen y ciciwr...


Mae hyn yn un o fy nghas bethe i mewn rygbi dyddie 'ma. Mewnwr yn codi'r bêl o'r sgrym neu'r lein, cymryd cam nôl wrth i'r asgellwr ochr dywyll ddechre rhedeg o'i flaen e, wedyn cicio. Dyw'r llimanwyr byth yn gweld hynna. Bron mor wael â pheidio â'i bwydo hi i'r sgrym yn syth.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan Duw » Mer 04 Maw 2009 7:07 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
joni a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:...a'r cicio i'r tri ôl yn arbennig o gryf.

hawdd rhoi cwrs i gic pan ti'n dachre o flaen y ciciwr...


Mae hyn yn un o fy nghas bethe i mewn rygbi dyddie 'ma. Mewnwr yn codi'r bêl o'r sgrym neu'r lein, cymryd cam nôl wrth i'r asgellwr ochr dywyll ddechre rhedeg o'i flaen e, wedyn cicio. Dyw'r llimanwyr byth yn gweld hynna. Bron mor wael â pheidio â'i bwydo hi i'r sgrym yn syth.


Mae'n rhaid ware'r reff/llimanwyr. Os ydy Ffrainc mor streetwise a gallu ennill mantais, dylen ni wneud yr un peth. Stim esgus. Nid oedd arweiniad ar y cae er mwyn newid y patrwm. Digon teg roedd Ffrainc wedi gosod pwyse ar y bois ac wedi gorfodi camgymeriade - bydde tim aeddfed wedi ymateb i gwrdd a'r her - nid cicio'r bel nol lawr llwnc y Ffrancod. Roedd perfformiad yr ail hanner yn wael yn gyffredinol - roedd diffyg dychymyg llwyr. Nid dyna'r Cymru a wnaeth ennill y Gamp Lawn cynta'r degawd (ddim yn cynnwys llynedd - roedd pawb arall yn crap). :ffeit:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 04 Maw 2009 8:42 pm

Duw a ddywedodd:Mae'n rhaid ware'r reff/llimanwyr. Os ydy Ffrainc mor streetwise a gallu ennill mantais, dylen ni wneud yr un peth. Stim esgus.


Rhywbeth cyffredinol yw'r camsefyll o gicio. Fel wedes i, o ran gem nos Wener, o'n i ddim mewn sefyllfa i weld.

Duw a ddywedodd:Nid oedd arweiniad ar y cae er mwyn newid y patrwm. Digon teg roedd Ffrainc wedi gosod pwyse ar y bois ac wedi gorfodi camgymeriade - bydde tim aeddfed wedi ymateb i gwrdd a'r her - nid cicio'r bel nol lawr llwnc y Ffrancod. Roedd perfformiad yr ail hanner yn wael yn gyffredinol - roedd diffyg dychymyg llwyr.


Does bosib mai gan yr hyfforddwr wyt ti'n cael arweiniad i newid patrwm? Gweler yr hyn ddigwyddodd yn Nantes flwyddyn a hanner fel enghraifft o dim yn anwybyddu cyfarwyddiade'r hyfforddwr. O ran creadigrwydd, fe ddaeth e a Henson i'r cae'n rhy hwyr. Dyle ni ddim 'di bod yn gorfod chaso'r gem gyda deng munud i fynd.

Duw a ddywedodd:Nid dyna'r Cymru a wnaeth ennill y Gamp Lawn cynta'r degawd (ddim yn cynnwys llynedd - roedd pawb arall yn crap). :ffeit:


:?

http://www.guardian.co.uk/sport/2002/ap ... srugby2002
http://www.guardian.co.uk/sport/2003/ma ... ixnations4
http://www.guardian.co.uk/sport/2004/ma ... gbyunion15
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan ceribethlem » Mer 04 Maw 2009 8:47 pm

Cymysgedd o bethe odd hi yn fy marn i. Ffrainc yn rhoi'r perfformiad gore iddyn nhw wneud ers curo'r cryse duon yn 2007, a Chymru yn gwneud camgymeriadau anghyffredin. Rhaid cofio er fod Cymru yn bell o'u gorau, ond eto nhw rhoddodd y perfformiad ail gorau o'r penwythnos mewn (yn fy marn i).
Hefyd roedd ffactorau anarferol wedi effeithio ar y gem (Mike Phillips yn taro'r camra uchel yn un) oherwydd ei fod yn nos Wener yn hytrach na phrynhawn Sadwrn neu Sul. Roedd tri ol Cymru wedi gollwng y bel o giciau uchel, ac yn edrych yn anarferol o fregus, gan fod y llif-oleuadau yn y Stade de France yn gymharol isel, roedd y bel yn mynd ar goll ynddyn nhw i raddau.

Ma ishe Henson nol yn druenus.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan Duw » Mer 04 Maw 2009 10:14 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Does bosib mai gan yr hyfforddwr wyt ti'n cael arweiniad i newid patrwm?

Allai byth ag anghytuno 'da hwnna, ond nid yw'r hyfforddwr yn gallu datgan yr hyn sydd angen digwydd trwy gydol y gem. Mae'n rhaid bo'r chwaraewyr yn cymryd cyfrifoldeb.
Parthed yr amgylchiadau Ceri - roedd yr un amode i bawb - ond cytuno - gallwn byth a chymryd dim o'r Ffrancod - chwaraeon nhw'n blydi dda.

O ran yr ail berfformiad gore - yn sicr - roedd gem y Gwyddelod - Saeson yn gorfod mynd lawr fel un o'r geme mwya diflas mewn cof. O'n i'n meddwl roedd cais Byrne yn wyrthiol - roedd bron bo dagre'n fy llyged - wel roedd dagre yn fy llyged erbyn diwedd y gem ond nid am yr un rhesyme!
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ffrainc v Cymru - 6 Gwlad

Postiogan joni » Iau 05 Maw 2009 9:32 am

I fi, y foment pwysicaf yn y gem odd cais cynta'r Ffrancod. Ei amseri yn un peth (jyst cyn hanner amser - amser ideal i sgorio) - ond hefyd y modd y sgorwyd ef. Shwd odd chabal yn cael cropian ar hyd y llawr gyda'r bel? Surely bod hwnna yn erbyn y rheolau...na, sori, fi'n gwbod bod hwnna yn erbyn y rheolau! Yn sgîl hynna, odd y sgôr yn lefel ar yr hanner, a'r Ffrancod wedi cael (i ddefnyddio term Stuart Barnes-aidd) fillip enfawr ar gyfer yr ail hanner. Natho ni ddim deffro tan y 10 munud olaf pan odd hi'n rhy hwyr.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nôl

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron