Tudalen 2 o 4
Re: Eidal v Cymru
Postiwyd:
Gwe 06 Maw 2009 4:48 pm
gan joni
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:joni a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd:Y blaenwyr sy'n rhyfedd, yn arbennig dewis Dafydd Jones
Galle ti wedi stopio fan hyn...
7 Ionawr 2004: Joni'n ymuno â Maes E
8 Ionawr 2004: neges gyntaf Joni'n lladd ar Dafydd Jones
8 Ionawr 2004 : Gwahanglwyf Dros Grist yn cymryd yr abwyd am y tro cyntaf.
6 Mawrth 2009 : Dal yn yn brathu.
Re: Eidal v Cymru
Postiwyd:
Gwe 06 Maw 2009 9:56 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
joni a ddywedodd:Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:joni a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd:Y blaenwyr sy'n rhyfedd, yn arbennig dewis Dafydd Jones
Galle ti wedi stopio fan hyn...
7 Ionawr 2004: Joni'n ymuno â Maes E
8 Ionawr 2004: neges gyntaf Joni'n lladd ar Dafydd Jones
8 Ionawr 2004 : Gwahanglwyf Dros Grist yn cymryd yr abwyd am y tro cyntaf.
6 Mawrth 2009 : Dal yn yn brathu.
Damn straight.
Re: Eidal v Cymru
Postiwyd:
Sad 07 Maw 2009 12:05 am
gan ceribethlem
Dafydd Jones yn chwareuwr da, yn arbennig rhai blynyddoedd yn ol (Richie McCaw wedi dweud na darwyd e' mor galed mewn ryc, erioed, a'r gem yng Nghwpan y BYd pan hedfanodd Daf a Charvis ato fe). Wedi dweud hynny, fi ddim yn credu fod e' lan i safon 7 rhyngwladol (er, fel wedodd Hedd, fod e' wedi chwarae 7 i'r Sgarlets), a dyw JT ddim yn 7 rhyngwladol chwaith.
Re: Eidal v Cymru
Postiwyd:
Sad 07 Maw 2009 10:48 am
gan Duw
DJ - bydden i ddim yn ware fe i'r sgarlets hyd yn oed. Pwy affach sy'n meddwl bod e'n gallu ware 7? Ei fam?
Re: Eidal v Cymru
Postiwyd:
Sad 07 Maw 2009 6:20 pm
gan Hedd Gwynfor
Duw a ddywedodd:DJ - bydden i ddim yn ware fe i'r sgarlets hyd yn oed. Pwy affach sy'n meddwl bod e'n gallu ware 7? Ei fam?
Rybish, mae'n chwaraewr da - roedd e'n wych rhai blynyddoedd yn ôl!
Re: Eidal v Cymru
Postiwyd:
Sad 07 Maw 2009 11:04 pm
gan Duw
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Rybish, mae'n chwaraewr da - roedd e'n wych rhai blynyddoedd yn ôl!
Ti wedodd hi, 'rhai blynyddoedd yn ôl'. Er y' chi one-eyed sgarlets yn meddwl bo siap ar Peel a Jones ifyd.
Be os odd e'n dod o'r Tymbl Hedd? Chwaraewr gwitha'r byd wedyn ife?
Re: Eidal v Cymru
Postiwyd:
Sul 08 Maw 2009 8:52 pm
gan Hedd Gwynfor
Duw a ddywedodd:Hedd Gwynfor a ddywedodd:Be os odd e'n dod o'r Tymbl Hedd? Chwaraewr gwitha'r byd wedyn ife?
Ma Peel yn dod o'r Tumble!
http://www.wru.co.uk/2634_1785.php
Re: Eidal v Cymru
Postiwyd:
Llun 09 Maw 2009 9:40 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Duw a ddywedodd:Hedd Gwynfor a ddywedodd:Be os odd e'n dod o'r Tymbl Hedd? Chwaraewr gwitha'r byd wedyn ife?
Ma Peel yn dod o'r Tumble!
http://www.wru.co.uk/2634_1785.php
A siwr o fod mas o'r gem 'ma. Martin Roberts ar y fainc?
Re: Eidal v Cymru
Postiwyd:
Sad 14 Maw 2009 12:08 am
gan ceribethlem
Ddim yn rhan o'n gem ni, ond bydde buddugoliaeth i'r Alban o les i ni fory.
Teulu gyda fi o'r Alban, er mae'r ffaith bod nhw'n chware Iwerddon yn ddigon o esgus i gefnogi nhw!
Re: Eidal v Cymru
Postiwyd:
Sad 14 Maw 2009 4:57 pm
gan ceribethlem
Teg i ddweud fod yr arbrawf yna heb weithio o gwbwl. Rhys Thomas ddim unman agos at safon prop pen tynn rhyngwladol. Mae peidio dechre gyda Adam a Gethin yn dangos faint mor anhygoel o dda yw'r ddau. Mongo wedi profi fod angen ymenydd i chwarae rygbi rhyngwladol yn dda.
Gobeithio neiff yr Alban neud ffafr a ni nawr, os bydd y Gwyddelod yn ennill, mae'r gystadleuaeth yn y bag iddyn nhw. O edrych ar berfformiad Cymru mae'r Slam yn y bag iddyn nhw hefyd. Ffycwyr.