Mae'r reslar chwedlonnol a hyrwyddwr yr AWA, Verne Gagne wedi lladd ei "roommate" mewn cartref i'r henoed yn Florida. Mae'n uffernol o drist i weld beth mae demetntia yn gwneud i bobl.
http://uk.news.yahoo.com/5/20090306/twl-ex-wrestler-in-bodyslam-killing-at-o-3fd0ae9.html
Mae'n siwr nad yw'r mwyafrif o Maeswyr wedi clywed am Gagne, ond mi hyfforddodd o nifer o reslwyr oedd yn "household names" yn ystod fy mhlentyndod e.e Ric Flair. Hefyd, cyn i Gagne colli trac o trends yr oes ar ddiwedd yr 80au, 'roedd yr AWA yn cystadlu hefo'r WWF a'r chwmni a datblygwyd i fod yn WCW, sef yr NWA.
Beth bynnag, dw i'n gwybod fod llawer o bobl yn gweld reslo fel joc (a dw i'n deall pam), ond mae'n drist i weld rywun oedd wedi cyfrannu gymaint yn dioddef, ac oherwydd ei salwch erchyll, wedi achosi gymaint o boen i'w deuli ac i deuli'r ddyn by farw (a oedd, er diddordeb, yn wyddonwr wnath ymchwil i geisio darganfod iachad i gancr.)