Rhyl 4-1 Bangor - heno

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Rhyl 4-1 Bangor - heno

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 13 Maw 2009 11:52 pm

Perfformiad gwych gan Rhyl yn ôl y son, a 1,547 yn gwylio. 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Rhyl 4-1 Bangor - heno

Postiogan garynysmon » Sad 14 Maw 2009 12:45 pm

4-1 ddiawl, doeddan nhw'm yn haeddu hwnnw o gwbl. Er, gyda cyllid 5 gwaith maint un Bangor, 'falla fod arian yn prynu chydig o lwc yn ogystal.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Rhyl 4-1 Bangor - heno

Postiogan Ari Brenin Cymru » Sad 14 Maw 2009 11:57 pm

wel mi wnath goli bangor roi gol ar blat i rhyl, siawns am gol y tymor gan Limbert? ffwc o gol! torf dda chwara teg, piti na fedra ni ddeud run peth am airbus, ganarfon a druids penwythnos yma... :rolio:
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

Re: Rhyl 4-1 Bangor - heno

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 15 Maw 2009 12:08 am

Ari Brenin Cymru a ddywedodd:wel mi wnath goli bangor roi gol ar blat i rhyl, siawns am gol y tymor gan Limbert? ffwc o gol! torf dda chwara teg, piti na fedra ni ddeud run peth am airbus, ganarfon a druids penwythnos yma... :rolio:


Dyna'r broblem. Angen lleihau nifer y clybiau sydd yn Uwchgynghrair Cymru ar frys. A fydd hyn yn digwydd cychwyn tymor 2009/2010 neu'r tymor wedyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Rhyl 4-1 Bangor - heno

Postiogan Josgin » Sul 15 Maw 2009 9:02 am

Lleihau i 10 dechrau 2010-2011.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Rhyl 4-1 Bangor - heno

Postiogan krustysnaks » Mer 18 Maw 2009 11:48 pm

Chwaraeodd Rhyl yn dda ar ôl sgorio'r drydedd gôl, ond mae unrhyw dîm yn chwarae'n dda ar ôl sgorio tair.

Fe aeth adegau tyngedfennol y gêm o blaid Y Rhyl - Chris Seargeant yn methu ei gyfle pan roedd hi'n 1-1 a Sion Edwards yn methu'r gic o'r smotyn pan roedd hi'n 2-1. Gôl Limbert yn dda, ond mae na goliau gwell na honno wedi bod yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn - yn wythnos gyntaf y tymor roedd gôl orau'r tymor, Ross Stephens 2:55 i'r Trallwng vs Derwyddon Cefn (ac yn yr un pecyn yna mae goliau cystal â Limbert gan Graham Evans ar 1:25, Nicky Ward 3:51 a Neil Roberts 4:48).
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Rhyl 4-1 Bangor - heno

Postiogan joni » Gwe 20 Maw 2009 10:52 am

krustysnaks a ddywedodd:Gôl Limbert yn dda, ond mae na goliau gwell na honno wedi bod yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn - yn wythnos gyntaf y tymor roedd gôl orau'r tymor, Ross Stephens 2:55 i'r Trallwng vs Derwyddon Cefn (ac yn yr un pecyn yna mae goliau cystal â Limbert gan Graham Evans ar 1:25, Nicky Ward 3:51 a Neil Roberts 4:48).

Sai'n gallu ffindo uchafbwyntiau Castell-Nedd v Rhyl (Medi 21) ar rhestr uchafbwyntiau Sgorio. O'dd na gôl hyfryd gan Rhyl yn y gem yna - dwi'n credu taw gol Stones odd hi.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Rhyl 4-1 Bangor - heno

Postiogan krustysnaks » Gwe 20 Maw 2009 7:30 pm

Ie, dwi'n cofio honno - Gazza-vs-Yr-Alban-yn-Ewro-96-esque
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes


Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai

cron