Rhyl 4-1 Bangor - heno
Postiwyd: Gwe 13 Maw 2009 11:52 pm
Perfformiad gwych gan Rhyl yn ôl y son, a 1,547 yn gwylio.
Ari Brenin Cymru a ddywedodd:wel mi wnath goli bangor roi gol ar blat i rhyl, siawns am gol y tymor gan Limbert? ffwc o gol! torf dda chwara teg, piti na fedra ni ddeud run peth am airbus, ganarfon a druids penwythnos yma...
krustysnaks a ddywedodd:Gôl Limbert yn dda, ond mae na goliau gwell na honno wedi bod yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn - yn wythnos gyntaf y tymor roedd gôl orau'r tymor, Ross Stephens 2:55 i'r Trallwng vs Derwyddon Cefn (ac yn yr un pecyn yna mae goliau cystal â Limbert gan Graham Evans ar 1:25, Nicky Ward 3:51 a Neil Roberts 4:48).