Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Duw a ddywedodd:Sut all unrhyw un ond Parisse haeddu'r fantell? Yn arbennig yn y chwarae tynn a'r agored - yn arwain gan esiampl - yn gawr i ysbrydoli ei gyd-chwaraewyr a'i wlad. Os o'n i'n ferch, bydden i mo'yn ei blant!
Gwnaiff y boi 'ma mwy i hybu rygbi yn ei wlad na unrhyw un arall ar y rhestr. Ardderchog SP - trueni mawr nid oedd Gethin Jenkins wedi cael y cyfle yn erbyn yr Eidalwyr a bod Cymru wedi ware mor mewn ffordd mor naive yn erbyn Ffrainc
Aye, roedd Gethin yn wyrthiol o dda yn erbyn yr Alban a Lloegr ac yn haeddu'i le ar y rhestr am y ddwy gem 'na'n unig. Hefyd fe gafodd e gryn effaith yn dod oddi ar y fainc ddydd Sadwrn - cryfhau'r sgrym ar ei ochr anghywir a gwneud tipyn o waith agored hefyd.
Gethin yn chwareuwr anarferol o dda. Mae'n synnu fi nad yw'r "pundits" 'ma, sydd fod i wbod eu stwff, yn sylwi ar yr holl waith mae'n neud.