Ai fi sy'n dychmygu, ynte ai dyma'r twrnament Chwe Gwlad gwaetha sydd wedi bod?
Mae'r rheolau newydd wedi arwain ac gicio di-ddiwedd yn ol ag ymlaen a does prin neb wedi gwneud ymdrech i chwarae rygbi agored a lledu'r bel. Wedi gwylio bron pob gem, allai ddim meddwl am yr un cais sy'n sdicio yn y cof fel bod yn un gwirioneddol wych.
Mae'n rhaid gneud wbeth am y frwydr gicio ddi-ddiwedd ma sy'n difetha gemau. Be ddigwyddodd i'r grefft o gicio'n gywir i'r gornel er mwyn rhoi'r tim arall dan bwysau efo lein yn eu 22 eu hunain? Ai'r ateb yn dileu'r rheol newydd ynghylch pasio nol i'r 22 ynteu oes ateb arall? Be am gyfyngu sawl gwaith all y bel gael ei chicio nol a mlaen cyn fod rhywyn yn mynd am y contact (unwaith bob ffordd wedyn rhaid ei rhedeg)?