Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Postiogan Mr Gasyth » Llun 16 Maw 2009 10:46 am

Ai fi sy'n dychmygu, ynte ai dyma'r twrnament Chwe Gwlad gwaetha sydd wedi bod?

Mae'r rheolau newydd wedi arwain ac gicio di-ddiwedd yn ol ag ymlaen a does prin neb wedi gwneud ymdrech i chwarae rygbi agored a lledu'r bel. Wedi gwylio bron pob gem, allai ddim meddwl am yr un cais sy'n sdicio yn y cof fel bod yn un gwirioneddol wych.

Mae'n rhaid gneud wbeth am y frwydr gicio ddi-ddiwedd ma sy'n difetha gemau. Be ddigwyddodd i'r grefft o gicio'n gywir i'r gornel er mwyn rhoi'r tim arall dan bwysau efo lein yn eu 22 eu hunain? Ai'r ateb yn dileu'r rheol newydd ynghylch pasio nol i'r 22 ynteu oes ateb arall? Be am gyfyngu sawl gwaith all y bel gael ei chicio nol a mlaen cyn fod rhywyn yn mynd am y contact (unwaith bob ffordd wedyn rhaid ei rhedeg)?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 16 Maw 2009 10:57 am

Cyfuniad o fethu cicio i'r ystlys ar ôl pasio nôl i'r 22, a'r gofyn i ddyfarnwyr fod yn llym iawn ar y tîm sy'n ymosod yn selio'r ryc (h.y. mynd dros y bêl gyda'r ysgwyddau'n is na'r cluniau) ac yn mynd oddi ar eu traed. Mae hyn yn golygu bod timau ofn rhedeg y bêl o'u hanner eu hunain, ac felly gwell yw rhoi pwysau ar y tîm aral drwy gicio a chwrso'n dda (fel y gwelwyd gan Ffrainc yn ein herbyn ni. Gwell fyth os yw'r gic yn glanio rhyw fetr neu ddwy y tu allan i'r 22, gan fod siawns y bydd y gwrthwynebwyr yn bwrw'r bêl ymlaen/selio'r ryc/dal ymlaen i'r bêl etc.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Postiogan Mr Gasyth » Llun 16 Maw 2009 12:20 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Cyfuniad o fethu cicio i'r ystlys ar ôl pasio nôl i'r 22, a'r gofyn i ddyfarnwyr fod yn llym iawn ar y tîm sy'n ymosod yn selio'r ryc (h.y. mynd dros y bêl gyda'r ysgwyddau'n is na'r cluniau) ac yn mynd oddi ar eu traed. Mae hyn yn golygu bod timau ofn rhedeg y bêl o'u hanner eu hunain, ac felly gwell yw rhoi pwysau ar y tîm aral drwy gicio a chwrso'n dda (fel y gwelwyd gan Ffrainc yn ein herbyn ni. Gwell fyth os yw'r gic yn glanio rhyw fetr neu ddwy y tu allan i'r 22, gan fod siawns y bydd y gwrthwynebwyr yn bwrw'r bêl ymlaen/selio'r ryc/dal ymlaen i'r bêl etc.


be wyt ti'n meddwl ydi'r ateb ta? newid y rheolau yn ol? fel mae pethau'r troi allan ar hyn o bryd gen i ofn fod o'n lladd y gem. wnateh Cymru ddim rhedeg y bel o'u 22 eu hunain unwaith dydd sadwrn.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Postiogan Duw » Llun 16 Maw 2009 4:06 pm

Roedd y gem yn ein siwtio cyn i bawb ddod yn 'wise' i'n strategaeth - nawr mae'n crap. Mae'r rheolau wedi amlygu diffygion perthed y gallu i amrywio ein gêm.

Roedd gêm Iwerddon-Lloegr yn gorfod mynd lawr fel y gêm mwyaf diflas y 30 blynedd diwethaf. Roedd gêm Eidal-Cymru yn agos iawn iddo. Roedd cywilydd arnaf ar ôl llusgo mêt (boi Bluebirds) mas i weld y gêm yn ei dafarn leol. Teimlo fel torri gwythienne fy hun - stim syniad 'da fi beth oedd yn mynd trwy ei feddwl e.

Rydym yn mynd i golli'r ieuenctid wrth barhau â'r rheole 'ma - mae pêl droed (tagu wrth ddweud hyn) yn llawer gwell gêm ar hyn o bryd.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Postiogan Mr Gasyth » Llun 16 Maw 2009 5:06 pm

Duw a ddywedodd:Roedd y gem yn ein siwtio cyn i bawb ddod yn 'wise' i'n strategaeth - nawr mae'n crap. Mae'r rheolau wedi amlygu diffygion perthed y gallu i amrywio ein gêm.

Roedd gêm Iwerddon-Lloegr yn gorfod mynd lawr fel y gêm mwyaf diflas y 30 blynedd diwethaf. Roedd gêm Eidal-Cymru yn agos iawn iddo. Roedd cywilydd arnaf ar ôl llusgo mêt (boi Bluebirds) mas i weld y gêm yn ei dafarn leol. Teimlo fel torri gwythienne fy hun - stim syniad 'da fi beth oedd yn mynd trwy ei feddwl e.

Rydym yn mynd i golli'r ieuenctid wrth barhau â'r rheole 'ma - mae pêl droed (tagu wrth ddweud hyn) yn llawer gwell gêm ar hyn o bryd.


Dyne sy'n fy mhoeni i hefyd. Mae'n rhaid i rywyn yn rywle wedl synnwyr. Pryd mae'r ELV fod i gael eu hadolygu?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Postiogan ceribethlem » Maw 17 Maw 2009 9:00 am

Cyfrynge Lloegr yn credu fod popeth yn wych nawr fod Lloegr wedi curo Ffrainc :rolio:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 17 Maw 2009 10:55 am

Mr Gasyth a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Roedd y gem yn ein siwtio cyn i bawb ddod yn 'wise' i'n strategaeth - nawr mae'n crap. Mae'r rheolau wedi amlygu diffygion perthed y gallu i amrywio ein gêm.

Roedd gêm Iwerddon-Lloegr yn gorfod mynd lawr fel y gêm mwyaf diflas y 30 blynedd diwethaf. Roedd gêm Eidal-Cymru yn agos iawn iddo. Roedd cywilydd arnaf ar ôl llusgo mêt (boi Bluebirds) mas i weld y gêm yn ei dafarn leol. Teimlo fel torri gwythienne fy hun - stim syniad 'da fi beth oedd yn mynd trwy ei feddwl e.

Rydym yn mynd i golli'r ieuenctid wrth barhau â'r rheole 'ma - mae pêl droed (tagu wrth ddweud hyn) yn llawer gwell gêm ar hyn o bryd.


Dyne sy'n fy mhoeni i hefyd. Mae'n rhaid i rywyn yn rywle wedl synnwyr. Pryd mae'r ELV fod i gael eu hadolygu?


Mis nesa' o bosib, ond paid â nghredu i. Y peth i'w wneud yw newid nôl i'r hen reolau, ond gan fod Awstralia, De Affrica a Seland Newydd am barhau â free-kick-a-go-go yn y Trei Neshyns eleni, s'dim gobaith o hynny. Ni'n styc 'da'u rheolau nhw. :(
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Postiogan Orcloth » Maw 17 Maw 2009 11:05 am

Mi ydan ni i gyd yn gwybod yn iawn, yn y bon, pam mae'r Chwe Gwlad wedi mynd mor ddiflas i ni rwan, tydan? Am ein bod ni di meddwl fysa Cymru'n ennill y Gamp Lawn eto, a da ni di'n siomi. :( Toes na'm hwyl i gael wrth wylio timau eraill yn gwneud yn well na ni, nagoes?
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Postiogan Mr Gasyth » Maw 17 Maw 2009 11:33 am

Orcloth a ddywedodd:Mi ydan ni i gyd yn gwybod yn iawn, yn y bon, pam mae'r Chwe Gwlad wedi mynd mor ddiflas i ni rwan, tydan? Am ein bod ni di meddwl fysa Cymru'n ennill y Gamp Lawn eto, a da ni di'n siomi. :( Toes na'm hwyl i gael wrth wylio timau eraill yn gwneud yn well na ni, nagoes?


does gan hynny ddim oll i neud ag o. safon y rygbi a'r 'entertainment' sydd ar gael sy'n cael ei drafod yma, nid perfformiadau cymru. gallai cymru golli ond y gem fod yn un wych, ond ar hyn o rbyd mae'r gemau'n sal pwy bynnag sy'n enill neu golli.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Postiogan Orcloth » Maw 17 Maw 2009 12:33 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
Orcloth a ddywedodd:Mi ydan ni i gyd yn gwybod yn iawn, yn y bon, pam mae'r Chwe Gwlad wedi mynd mor ddiflas i ni rwan, tydan? Am ein bod ni di meddwl fysa Cymru'n ennill y Gamp Lawn eto, a da ni di'n siomi. :( Toes na'm hwyl i gael wrth wylio timau eraill yn gwneud yn well na ni, nagoes?


does gan hynny ddim oll i neud ag o. safon y rygbi a'r 'entertainment' sydd ar gael sy'n cael ei drafod yma, nid perfformiadau cymru. gallai cymru golli ond y gem fod yn un wych, ond ar hyn o rbyd mae'r gemau'n sal pwy bynnag sy'n enill neu golli.


Olreit, olreit, sdim isio bod yn flin am y peth, dim ond deud be o'n i'n deimlo o'n i! Sdim isio cael hartan am y peth! :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Nesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai