Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 17 Maw 2009 4:09 pm

Orcloth a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:
Orcloth a ddywedodd:Mi ydan ni i gyd yn gwybod yn iawn, yn y bon, pam mae'r Chwe Gwlad wedi mynd mor ddiflas i ni rwan, tydan? Am ein bod ni di meddwl fysa Cymru'n ennill y Gamp Lawn eto, a da ni di'n siomi. :( Toes na'm hwyl i gael wrth wylio timau eraill yn gwneud yn well na ni, nagoes?


does gan hynny ddim oll i neud ag o. safon y rygbi a'r 'entertainment' sydd ar gael sy'n cael ei drafod yma, nid perfformiadau cymru. gallai cymru golli ond y gem fod yn un wych, ond ar hyn o rbyd mae'r gemau'n sal pwy bynnag sy'n enill neu golli.


Olreit, olreit, sdim isio bod yn flin am y peth, dim ond deud be o'n i'n deimlo o'n i! Sdim isio cael hartan am y peth! :ofn:


Ow, s'dim ishe mynd yn ypset am fod rhywun yn anghytuno â phwynt. Doedd dim byd ymosodol yn neges y Gasyth.

Mae e'n iawn hefyd.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Postiogan joni » Maw 17 Maw 2009 4:09 pm

Ma'r orsaf bleidleisio nawr ar agor am chwaraewr y twrnament. Dyma'r 6 sydd ar y rhestr fer...

Brian O'Driscoll,
Paul O'Connell
Jamie Heaslip
Lee Byrne
Sergio Parisse
Delon Armitage

:?
Af i am Paul O'Connell...Achos bod e'n Bluenose.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 17 Maw 2009 4:12 pm

joni a ddywedodd:Ma'r orsaf bleidleisio nawr ar agor am chwaraewr y twrnament. Dyma'r 6 sydd ar y rhestr fer...

Brian O'Driscoll,
Paul O'Connell
Jamie Heaslip
Lee Byrne
Sergio Parisse
Delon Armitage

:?
Af i am Paul O'Connell...Achos bod e'n Bluenose.


Blydi hel, am restr shit.

Heblaw am Parisse, wrth gwrs, sydd wedi bod ben ac ysgwyddau'n well na phawb.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Postiogan ceribethlem » Maw 17 Maw 2009 4:12 pm

joni a ddywedodd:Ma'r orsaf bleidleisio nawr ar agor am chwaraewr y twrnament. Dyma'r 6 sydd ar y rhestr fer...

Brian O'Driscoll,
Paul O'Connell
Jamie Heaslip
Lee Byrne
Sergio Parisse
Delon Armitage

:?
Af i am Paul O'Connell...Achos bod e'n Bluenose.

Parisse yw'r ateb, eto. Armitage bydd yn ennill.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Postiogan Mr Gasyth » Maw 17 Maw 2009 4:32 pm

Beth bynnag chi'n feddwl o Brian O'Driscoll, mae o wedi cael twrnament da iawn, ac roedd ei berfformiad yn erbyn Lloegr yn eniweidg yn un arbennig.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 17 Maw 2009 4:37 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Beth bynnag chi'n feddwl o Brian O'Driscoll, mae o wedi cael twrnament da iawn, ac roedd ei berfformiad yn erbyn Lloegr yn eniweidg yn un arbennig.


Falle bod O'Driscoll yn haeddu'i le, ond Armitage, Heaslip a Byrne?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Postiogan ceribethlem » Maw 17 Maw 2009 5:03 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Beth bynnag chi'n feddwl o Brian O'Driscoll, mae o wedi cael twrnament da iawn, ac roedd ei berfformiad yn erbyn Lloegr yn eniweidg yn un arbennig.


Falle bod O'Driscoll yn haeddu'i le, ond Armitage, Heaslip a Byrne?

Heaslip wedi sgorio ambell i gais, 'na'r unig reswm ma fe mewn.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 17 Maw 2009 5:22 pm

ceribethlem a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Beth bynnag chi'n feddwl o Brian O'Driscoll, mae o wedi cael twrnament da iawn, ac roedd ei berfformiad yn erbyn Lloegr yn eniweidg yn un arbennig.


Falle bod O'Driscoll yn haeddu'i le, ond Armitage, Heaslip a Byrne?

Heaslip wedi sgorio ambell i gais, 'na'r unig reswm ma fe mewn.


Wythwr sydd wedi ochrgamu unwaith. Wp-di-dw.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Postiogan Duw » Maw 17 Maw 2009 6:10 pm

Sut all unrhyw un ond Parisse haeddu'r fantell? Yn arbennig yn y chwarae tynn a'r agored - yn arwain gan esiampl - yn gawr i ysbrydoli ei gyd-chwaraewyr a'i wlad. Os o'n i'n ferch, bydden i mo'yn ei blant!

Gwnaiff y boi 'ma mwy i hybu rygbi yn ei wlad na unrhyw un arall ar y rhestr. Ardderchog SP - trueni mawr nid oedd Gethin Jenkins wedi cael y cyfle yn erbyn yr Eidalwyr a bod Cymru wedi ware mor mewn ffordd mor naive yn erbyn Ffrainc
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 17 Maw 2009 6:42 pm

Duw a ddywedodd:Sut all unrhyw un ond Parisse haeddu'r fantell? Yn arbennig yn y chwarae tynn a'r agored - yn arwain gan esiampl - yn gawr i ysbrydoli ei gyd-chwaraewyr a'i wlad. Os o'n i'n ferch, bydden i mo'yn ei blant!

Gwnaiff y boi 'ma mwy i hybu rygbi yn ei wlad na unrhyw un arall ar y rhestr. Ardderchog SP - trueni mawr nid oedd Gethin Jenkins wedi cael y cyfle yn erbyn yr Eidalwyr a bod Cymru wedi ware mor mewn ffordd mor naive yn erbyn Ffrainc


Aye, roedd Gethin yn wyrthiol o dda yn erbyn yr Alban a Lloegr ac yn haeddu'i le ar y rhestr am y ddwy gem 'na'n unig. Hefyd fe gafodd e gryn effaith yn dod oddi ar y fainc ddydd Sadwrn - cryfhau'r sgrym ar ei ochr anghywir a gwneud tipyn o waith agored hefyd.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai