Tudalen 3 o 3

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

PostioPostiwyd: Mer 18 Maw 2009 8:13 am
gan ceribethlem
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Sut all unrhyw un ond Parisse haeddu'r fantell? Yn arbennig yn y chwarae tynn a'r agored - yn arwain gan esiampl - yn gawr i ysbrydoli ei gyd-chwaraewyr a'i wlad. Os o'n i'n ferch, bydden i mo'yn ei blant!

Gwnaiff y boi 'ma mwy i hybu rygbi yn ei wlad na unrhyw un arall ar y rhestr. Ardderchog SP - trueni mawr nid oedd Gethin Jenkins wedi cael y cyfle yn erbyn yr Eidalwyr a bod Cymru wedi ware mor mewn ffordd mor naive yn erbyn Ffrainc


Aye, roedd Gethin yn wyrthiol o dda yn erbyn yr Alban a Lloegr ac yn haeddu'i le ar y rhestr am y ddwy gem 'na'n unig. Hefyd fe gafodd e gryn effaith yn dod oddi ar y fainc ddydd Sadwrn - cryfhau'r sgrym ar ei ochr anghywir a gwneud tipyn o waith agored hefyd.

Gethin yn chwareuwr anarferol o dda. Mae'n synnu fi nad yw'r "pundits" 'ma, sydd fod i wbod eu stwff, yn sylwi ar yr holl waith mae'n neud.

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

PostioPostiwyd: Mer 18 Maw 2009 10:45 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
ceribethlem a ddywedodd:Gethin yn chwareuwr anarferol o dda. Mae'n synnu fi nad yw'r "pundits" 'ma, sydd fod i wbod eu stwff, yn sylwi ar yr holl waith mae'n neud.


Mae llawer o'r pundits yn dal i roi Sheridan yn nhîm y Llewod o flaen Gethin. Mae'n rhaid iddo fe weithio'n galetach ar fod yn showboater, yn amlwg. :rolio:

Re: Y Chwe Gwlad mwya diflas erioed?

PostioPostiwyd: Mer 18 Maw 2009 10:50 am
gan ceribethlem
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Gethin yn chwareuwr anarferol o dda. Mae'n synnu fi nad yw'r "pundits" 'ma, sydd fod i wbod eu stwff, yn sylwi ar yr holl waith mae'n neud.


Mae llawer o'r pundits yn dal i roi Sheridan yn nhîm y Llewod o flaen Gethin. Mae'n rhaid iddo fe weithio'n galetach ar fod yn showboater, yn amlwg. :rolio:

Tasse fe gallu bench presso hanner y bydysawd, bydde dim probleme. Ma digon o hyder gyda fi yn McGeechan i feddwl na fydd e'n cymryd gormod o sylw o bapurau newydd.